Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Awst 18fed-23ain 2019

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Gari Wyn - Chwarelwyr

Chwarelwyr - Quarrymen
ergyd fawr - a huge blow
Amgueddfa Werin - Folk museum
balchder - pride
fawr o dristwch - not much sadness
amlwg - obvious
priodasau - weddings
pres - arian
ein dymuniad - our wish
yn ddiweddarach - later on

Mae hi'n bum deg mlynedd ers i chwarel mawr Dinorwig yn Llanberis gau. Roedd llawer o bobl leol yn gweithio yn y chwarel ac roedd ei gau yn ergyd fawr i'r ardal. Buodd Gari Wyn yn chwilio archif Amguedda Werin Sain Ffagan i glywed straeon am hen chwarelwyr a’u teuluoedd. Dyma ferch un o’r chwarelwyr yn sôn am ei thad yn talu am ei phriodas.

Bardd Ar Daith - China

Bardd - poet
llesteirio cyfathrach - hinders affinity
sill - syllable
brest - chest
cymharol fach - relatively small
ynganiad - pronunciation
siaradwyr brodorol - native speakers
cofleidio - to embrace
eithriad - exception
yr iaith fain - Saesneg

Un o hanesion ardal Llanberis ar ôl i chwarel Dinorwig gau yn fan'na ar raglen Gari Wyn. Cafodd y bardd Ifor ap Glyn wahoddiad i Wythnos Farddoniaeth yn China a thra roedd o yn y wlad mi ddysgodd o lawer o bethau am ei hiaith. Be ydy'r pethau anodda am yr iaith honno tybed?

Galwad Eto - Gwyfyn

Gwyfyn - moth
gwalch wyfyn y taglys - hawkmoth
clamp o wyfyn - a huge moth
yn sownd - stuck
yn gocyn i gyd - a know all
ffrae - an argument
mi ddaru ni - we did
adenydd - wings
llwydaidd - greyish
prin yn magu - rarely breed

Wel mae'n rhaid bod yn ofalus iawn felly yn China wrth siarad yr iaith frodorol. Math o wyfyn ydy gwalch wyfyn y taglys, ond dach chi ddim yn debyg o weld y gwyfyn anferth yma yng Nghymru. Cafodd Duncan Brown dipyn o sioc felly pan laniodd un ohonyn nhw ar ei gar yn Nant Gwynant. Dyma fo'n dweud yr hanes.

Dei Tomos - Menwod y ffatri

menywod - merched
yrail ryfel byd - the second world war
led-led Cymru - length and breadth of Wales
staes - corset
agoriad llygad - an eye opener
bywiog - lively
difyr - interesting
poblogaidd tu hwnt - extremely interesting
tystiolaeth - evidence
dadlau - argue

Hanes Duncan Brown a gwalch wyfyn y taglys yn fan'na ar Galwad Cynnar. Catrin Stevens ydy un o brif haneswyr Archif Menywod Cymru ac fel rhan o'i gwaith aeth hi i recordio nifer o fenywod oedd wedi gweithio mewn ffatrïoedd. Cafodd Dei Tomos air gyda hi am y prosiect.

Aled Hughes (Ffion Dafis) - Crysau T

darlithydd - lecturer
barn - opinion
daeth a fe i'r brig - brought it to the fore
anfon neges bwysig - sending an important message
eisiau cyfleu - wanted to convey
llythrennau anferth - huge letters
gwrth niwclear - anti nuclear

Catrin Stevens yn sôn am hanes pwysig menywod oedd yn gweithio mewn ffatrïoedd ar raglen Dei Tomos. Ffion Dafis oedd yn cadw sedd Aled Hughes yn gynnes ddydd Mawrth diwetha ac mi gafodd hi sgwrs ddifyr efo Helen Humphreys, sydd yn ddarlithydd ffasiwn, am grysau T efo sloganau arnyn nhw. Dyma i chi flas ar y sgwrs.

Carchar Dros Yr Iaith - Menywod yn y carchar

gafodd eu carcharu - who were imporisoned
sloganau gwleidyddol - political slogans
profiadau - experiences
celloedd - cells
emynau - hymns
cais - request
ymarfer - rehearsal
wedi troseddu - had committed a crime
difrifol - serious
anodd dychmygu'r peth - difficult to imagine it

Dw i'n siwr bod llawer o'r merched gafodd eu carcharu dros y Gymraeg ar hyd y blynyddoedd yn gwisgo crysau T gyda sloganau gwleidyddol arnyn nhw. Dydd Mawrth ar Radio Cymru mi glywon ni am brofiadau rhai o’r merched gafodd eu carcharu dros yr iaith. Sut beth oedd bywyd yn y carchar i’r merched? Dyma gyfle i glywed ychydig o hanes Enfys Llwyd...
Mae cyfle i glywed y rhaglen i gyd ar 主播大秀 Sounds a hefyd cewch fwy o hanes rai o’r merched os ewch chi i wefan 主播大秀 Cymru Fyw.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf