Main content

Geirfa Podlediad Dysgu Cymraeg Awst 24ain-30ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Georgia Ruth - Gwenan Haf Jones

wedi creu - had created
uchelgais - ambition
yn ddigon ffodus - lucky enough
cyflawni - to fulfil
celf a dylunio - art and design
yn annog ac yn ysbrydoli - encouraging and inspiring
defnyddiau - materials
cyfryngau - media
arddulliau traddodiadol - traditional methods
cyfoes - modern

Roedd p'nawn Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst eleni yn un emosiynol i lawer o bobl wrth i T James Jones godi ar ei draed fel enillydd y Gadair. Roedd hi'n b'nawn emosiynol iawn i Gwenan Haf Jones hefyd, gan mai hi oedd wedi creu'r gadair. Ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd dysgodd hi ei chrefft a dyma hi'n sôn am ei chwrs yn y coleg gyda Georgia Ruth.


Geraint Lloyd - Bronwydd

dros y deugain mlynedd diwetha - over the past 25years
y drydedd adran - the third division
timau ieuenctid - youth teams
calonogol - heartening
y trueni yw - the worry is
diawch - goodness
cwrdd â'i gilydd - to meet with each other
pwy sy'n dost - who's ill
gwneud bywoliaeth - making a livelyhood
yr unig le - the only place

Gwenan Haf Jones, wnaeth greu cadair Eisteddfod Genedlaethol LLanrwst oedd honna yn siarad gyda Georgia Ruth. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda Arwyn Thomas am bentre Bronwydd, pentre bach yn Sir Gaerfyrddin. Buodd Arwyn yn brifathro ar Ysgol Maes yr Yrfa yn y sir am 25 o flynyddoedd, ond mae o wedi ymddeol erbyn hyn. Dyma Arwyn yn sôn am dimau rygbi'r pentre.


Aled Hughes - Abbie

Glyn Ebwy - Ebbw vale
graddio - to graduate
gradd dosbarth cyntaf - !st class honours
priodoli - to ascribe
ar yr un pryd - at the same time
di-Gymraeg - non Welsh speaking
cymdeithasol - social

Ychydig o hanes clwb rygbi Bronwydd yn fan'na gan Arwyn Thomas.

Ugain mlynedd yn ôl yng Nglyn Ebwy gwnaeth rhieni Abbie Heasley benderfyniad fasai'n newid ei bywyd am byth.

Er nad oedden nhw'n siarad Cymraeg eu hunain, penderfynon nhw anfon eu merch i Ysgol Gymraeg.

Abbie ydy'r ferch gyntaf erioed i raddio efo gradd dosbarth cyntaf mewn tair iaith o Brifysgol Abertawe ac mae hi'n priodoli hynny i benderfyniad ei rhieni i'w hanfon i ysgol Gymraeg.

Aled Hughes - Stephen Bale

gohebydd - correspondent
cwrs dwys iawn - a very intense course
Castell-Nedd - Neath
penwythnos preswyl - residential week-end
Casnewydd - Newport
Gwlad yr Haf - Somerset
ymddeolais i - I retired
ail-ddarganfod - to re-discover

Abbey Heasley yn fan'na wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol ac mynd ymlaen i astudio tair iaith arall yn y brifysgol.

Dysgu'r iaith fel oedolyn gwnaeth Stephen Bale oedd yn arfer gweithio fel gohebydd rygbi i bapurau newydd yng Nghymru ac yn Lloegr.

Dyma fo'n sôn am ei daith bersonol i ddod yn rhugl yn yr iaith.


Beti a'i Phobol - El Bandito

gwobr genedlaethol - a national award
traethawd - essay
cynulleidfa - audience
ei bentre genedigol - the village in which he was born
crefydd - religion
ofni Duw - to fear God
y Bod Mawr - God (idiom)
efo ewyllys Allah - if Allah wills it
parch - respect

Stephen Bale oedd hwnna ac mi enillodd Stephen wobr genedlaethol yn ddiweddar am ei draethawd 'Darganfod yr Iaith Gymraeg'.

Roedd Orig Williams yn enwog fel pêl-droediwr ac fel un oedd yn reslo o dan yr enw El Bandito.

Buodd Orig farw ddeg mlynedd yn ôl a dyma gyfle arall i glywed Beti George yn ei holi o flaen cynulleidfa yn ei bentre genedigol, Ysbyty Ifan yn sir Conwy, yn 2002.

Dyma i chi flas ar y sgwrs ble mae Beti yn holi Orig am grefydd.


Dewch Am Dro - Gareth Glyn

cyn-ddarlledwr - former broadcaster
cyfansoddwr - composer
plentyndod - childhood
newyddiadurwr - journalist
(he)blaw - apart from
Croesoswallt - Oswestry
Yr Wyddgrug - Mold
yn bennaf - primarily
disgybl - pupil
yn benodol - specifically

Clip o'r archif yn fan'na gyda Beti Geoge yn holi Orig Williams.

Aeth Rhys Meirion dros y bont wythnos diwetha i ardal Llangwyllog yn Sir Fôn.

Mae'n dechrau ar ei daith yng nghartref y cyn-ddarlledwr a'r cyfansoddwr Gareth Glyn.

Dyma Gareth yn rhoi ychydig o hanes ei blentyndod.

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Gemau allweddol i Gymru