Main content

Cwpan UEFA i ferched

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Tra mae cystadleuaeth Cwpan Pêl Droed y Byd i Ferched wedi tynnu sylw dros y mis diwethaf, mae tîm pêl droed merched Coleg Metropolitan Caerdydd yn darparu am eu taith hwythau i gystadlu yn rownd gymhwysol Cynghrair Pencampwyr Ewrop i ferched.

 

Yn wahanol i gystadleuaeth y dynion, sydd wedi cychwyn yr wythnos yma (Y Seintiau Newydd o Gymru yn wynebu B36 Torshavn o Ynysoedd y Faro), bydd gemau agoriadol y merched yn cael eu cynnal o fewn grwpiau sydd wedi eu lleoli mewn un man.

 

Bydd tîm Coleg Caerdydd yn teithio i Wlad Pwyl i gystadlu yn erbyn tri thîm rhwng yn unfed ar ddeg, a’r unfed ar bymtheg o fis Awst. Tîm KKPK Medyk Konin fydd yn westai i'r tri thîm arall sydd yn ymuno a hwy, gyda thimau Gintra Universitetas o Lithuania a thîm Ieuenctid Wexford o Weriniaeth Iwerddon hefyd yn ymweld â dinas Konin dros y pum diwrnod. 

 

Mae’r Pwyliaid eisoes wedi cystadlu ar lwyfan Ewrop ac wedi cyrraedd y 32 olaf y llynedd cyn colli i dîm merched Dinas Glasgow. Tydi cystadlu yn y gystadleuaeth yma ddim yn  newydd i fyfyrwyr Caerdydd chwaith.

 

Y llynedd cafwyd taith i Sarajevo ym Mosnia/ Herzegovina, i gystadlu yn y rownd gymhwysol, ond colli eu tair gem yno fu'r hanes  y gyntaf yn erbyn y tîm cartref o dair gôl i ddim, yna i HSA Sofia o Fwlgaria o ddau gol i ddim, ac yn olaf i Konak o Dwrci un gôl i ddim.

 

Bydd y profiad yma yn si诺r o fod wedi ymestyn dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y merched o gystadlu ar y cyfandir a chawn weld y mis nesaf os daw canlyniadau mwy llewyrchus iddynt ar eu hail ymdrech ar y cyfandir.

 

Does dim amheuaeth fod pêl droed i ferched yn prysur ddatblygu yna yng Nghymru gyda’r tîm cenedlaethol yn gwella yn flynyddol.

 

Bydd eu gemau nesaf yng nghystadleuaeth cymhwyso ar gyfer Ewro 2017 sydd i'w cynnal yn yr Iseldiroedd oddi cartref yn  Awstria ym mis Medi cyn teithio i Norwy yn yr Hydref dilyn hwn gyda gem gartref yn erbyn Kazakstan yn Nhachwedd.

 

Yn sgil y sylw mae gem y merched yn ei gael dros yr haf, mae rhywun yn gobeithio y bydd yna ddiddordeb newydd mewn cystadlaethau i ferched o fewn Cymru gan mai isel iawn ydi'r nifer o bobol sydd yn mynychu genau.

 

Os ydych wedi dilyn a chael eich cyffroi gan Gwpan y Byd gyda’r ffeinal i’w chynnal nos Sul yma, fe ddylai hyn godi awch a mwy o frwdfrydedd yn nilynwyr y gêm, i roi mwy o sylw a mwy o awyrgylch gefnogol i ymdrechion y timau, clybiau a ‘r chwaraewyr sydd yn gwneud eu rhan i ddatblygu pêl droed i ferched yma yng Nghymru.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 23/06/2015

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: 30 Mehefin 2015