Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 23/06/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Shan Cothi - Opera Ysgol Grantham

cewri - giants
cyfansoddi - to compose
bardd - poet
olrhain - to trace
arwr - hero
swyno - to enchant
gorchuddio - to cover. to envelop
ffosydd - trenches
nodiant - notation
elwa - to benefit

...ac ychydig o gerddoriaeth opera sy' gynna i i chi ar ddechrau'r podlediad yr wythnos hon. Ac nid opera gan un o gewri'r byd clasurol, ond yn hytrach, opera newydd sbon sy' wedi cael ei chyfansoddi gan blant ysgol Grantham Prep School. Cafodd yr opera ei chyfansoddi i gofio am y Rhyfel Byd Cyntaf, ac er bod Cymru dros gan milltir o Grantham, mae'r opera yn sôn am fardd Cymraeg. Hedd Wyn, y bardd enwog o Drawsfynydd a wnaeth farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf, a hynny cyn iddo glywed ei fod wedi ennill cadair yr Eisteddfod. Dyma glip o Shirley Kennedy, athrawes yn Ysgol Granthem, yn siarad am yr opera ar raglen Bore Cothi.

Post Cyntaf - Pobl y Cwm - Ceridwen Bumford

selog - ardent
ymhlith - amongst
dyddiau cynnar - early days
cymeriadau - characters
cyfres - series
ples iawn - very pleased
ymdeimlad - a feeling of
Cymreictod - Welshness
brwd - enthusiastic
cadw'n driw - to stay true

...a dyna glip bach i chi'n fan 'na o'r opera gan blant ysgol Grantham Prep School. Wel, roedd Mrs Ceridwen Bumford o'r Rhondda yn dathlu pen-blwydd arbennig yr wythnos hon; ei phen-blwydd yn gant oed! Sut fasech chi'n licio dathlu eich pen-blwydd yn gant oed? Gwyliau ecsotig? Naid bynji neu gael tatw 'falle? Wel, fel un o wylwyr mwya' selog yr opera sebon Pobol y Cwm, cafodd Ceridwen ddathliad pen-blwydd i'w chofio, sef mynd i ymweld â set Pobol y Cwm. Dyma Alun Thomas gyda'r hanes.

 

Dylan Jones (Aled Hughes) - Mari a Dewi Evans - efeilliaid

genedigaeth - birth
codi arian - to raise money
elusennau - charities
ar yr adeg - at the time
ysgyfaint - lungs
tro - twist
drysu - to turn upside down
cyflwr - condition
cymhlethdod - complication
anadlu - to breathe

...ac o ddathlu pen-blwydd i ddathlu genedigaeth yr awn ni nesa'. Fore Mawrth cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mari a Dewi Evans, rhieni balch i'r efeilliaid Dylan a Tomos. Rhoddodd Mari enedigaeth i'r efeilliaid llynedd, ond roedden nhw dri mis yn gynnar ac yn sâl iawn. Roedd hi'n gyfnod anodd iawn i'r teulu i gyd. Dyma Aled gyda mwy o'r hanes.

Bore Cothi - Cor Ysgol Iolo Morgannwg

cwffio - to fight
yn ddiweddar - lately
arweinyddes - conductor (fem)
partneriaeth - partnership
bodoli - to exist
eithriadol - exeptional
arweinyddiaeth - leadership
cefnogaeth - support
cryno-ddisg - CD
pen llanw - culmination

Braf clywed bod Dylan a Tomos bellach fel pob brawd arall; yn hoffi cwffio! Ac i orffen yr wythnos hon, draw â ni i'r Bontfaen i ddathlu recordio CD côr Ysgol Gynradd Iolo Morgannwg; côr sy' wedi bod yn llwyddiannus iawn yn ddiweddar. Fore Iau cafodd Shan Cothi sgwrs gyda Rhian Williams, pennaeth yr ysgol ac Eleri Roberts, arweinyddes y côr. Yn dilyn y sgwrs Shan cawn glywed clip o'r CD. Mwynhewch!

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Datblygiad pel-droed a threnau

Nesaf

Cwpan UEFA i ferched