Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 03/11/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Sesiwn Fach - Cylch Canu

deuawd - duet
telynau - harps
crochen hud - magic cauldron
hyd braich - arms length
anfarwol - marvellous (lit:immortal)
cydweithio - collaborate
lladinaidd - latin
offeryn - instrument
bywiog a byrlymus - lively and vibrant
amyneddgar - patient

... clip bach o raglen Sesiwn Fach. Rhaglen ydy hon sy'n chwarae pob math o ganeion gwerin ac sydd i'w chlywed bob pnawn Sul ar Radio Cymru. Yr wythnos diwethaf cafodd Idris Morris Jones sgwrs efo wyth o gerddorion gwerin oedd wedi dod at ei gilydd ar gyfer prosiect o’r enw Cylch Canu. Dan ni'n mynd i glywed dau ohonyn nhw, Stacey Blythe o’r grwp Ffynnon Christie a Ceri Owen Jones o Deuair yn sôn am sut buon nhw'n gweithio efo dau o Theatr Mwldan ar fersiwn newydd o’r gân draddodiadol ‘Deryn Du’...

Dan yr Wyneb - Cwm Dulas

boddi - to drown
achub - to save (rescue)
dan fygythiad - under threat
eithin - heather
creigiau - rocks
y rhan fwya - the majority
cymdeithas - society
mewn oed - elderly
gwledig - rural
dynas dd诺ad - newcomer (female)

Diddorol ynde, mae'n braf gweld bywyd newydd yn cael ei roi i'n caneuon traddodiadol yntydy? Yn ystod mis Hydref buodd llawer o bobl yn cofio am foddi Cwm Tyrweryn hanner can mlynedd yn ôl. Ond nid y cwm hwn oedd yr unig un yng Nghymru oedd mewn perygl o gael ei foddi. Ar Dan yr Wyneb ddydd Llun mi glywon ni stori Cwm Dulas a phentref Tylwch ger Llanidloes. Ym 1970 roedd yna gynllun i foddi Cwm Dulas, ond yn y diwedd mi gafodd y cwm ei achub. Un o’r ffermydd oedd dan fygythiad oedd fferm Brynhir ac mi fuodd Neva Price sy’n dal i fyw ar y fferm yn dweud peth o’r hanes wrth Dylan Iorwerth...

Nigel Owens - Cwpan Rygbi'r Byd

dyfarnwr - referee
anrhydedd - honour
pr'ynny - pryd hynny ( that time)
llongyfarchiadau - congratulations
y paratoi - the preparation
achlysur arbennig - a special occasion
gorwneud - to overdo
crwt - bachgen
man a man - might as well
cyrraedd y nod - to achieve the aim

Hanes achub Cwm Dulas yn fan'na ar Dan yr Wyneb. Wel mi roedd yna Gymro yn ffeinal Cwpan Rygbi’r Byd wedi’r cwbl - a’r dyfarnwr Nigel Owens oedd hwnnw. Mae sawl un wedi dweud yr wythnos diwetha mai Nigel ydy dyfarnwr gorau'r byd, a dydd Sadwrn oedd ei gyfle i brofi hynny. Mi gafodd Tommo ecscliwsif ddydd Mercher gan gael yr unig gyfweliad efo Nigel cyn y ffeinal, ac roedd y dyfarnwr o Bontyberem yn amlwg yn edrych ymlaen at y gêm ond yn dal i gofio ei wreiddiau yng Nghwm Gwendraeth ...

Post Cyntaf - Georgia

mwy cyffrous - more exciting
prydferth - pretty
beth yn union - what exactly
amylcheddol - environmental
ail-gylchu - recycle
cwrdd - cyfarfod
ddim yr un maint - not the same size
cais - a try
cystadlu - competing
y dyfodol - the future

... ac mi ddangosodd Nigel mai fo ydy dyfarnwr gorau'r byd. Ddoe welon ni'r ffeinal gorau erioed, ac mi roedd gan y ffordd buodd Nigel yn dyfarnu'r gêm lawer i wneud â hynny. Roedd ugain o wledydd wedi cystadlu yng Nghwpan y Byd eleni ac roedd rhaglen y Post Cyntaf wedi trio dod o hyd i rywun oedd yn siarad Cymraeg ym mhob un o’r gwledydd hynny. Erbyn dydd Iau cyn y ffeinal dim ond un wlad fach oedd ar ôl sef Georgia. A wir i chi pwy sydd yn byw yno ond Robin Fabro sy'n dod yn wreiddiol o Drefynwy, ac ydy mae o'n siarad Cymraeg. Dyma i chi flas ar ei sgwrs efo Catrin Heledd ...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Bae Colwyn a Thref Merthyr

Nesaf

Dyfodol i ddyfarnwyr o Gymru.