Ers ei sefydlu ym mis Medi 2010, mae Canolfan UEFA yn Neon (yn Swistir) ar gyfer datblygu rhagoriaeth wedi profi ei werth yn aruthrol drwy gynnal cyrsiau hyfforddiant a datblygiad pellach i ddyfarnwyr mwyaf addawol gwahanol wledydd o fewn y cyfandir.
Cynhelir cyrsiau penodol ar gyfer datblygu dyfarnwyr pob dwy flynedd a gwahoddir cymdeithasau Cenedlaethol i anfon un dyfarnwr a dau ddyfarnwr cynorthwyol sy'n dangos potensial i fod yn rhan o swyddogion craidd FIFA a dod i ddyfarnu gemau rhyngwladol yn y dyfodol.
O dan arweinyddiaeth y cyn dyfarnwr rhyngwladol, David Elleray, aelod o Bwyllgor Rheolwyr UEFA, mae'r holl gyrsiau yma yn cynnwys sesiwn ragarweiniol o ddeg diwrnod gan arwain at gwrs o wyth diwrnod ychwanegol ychydig fisoedd wedyn.
Fel rhan o’r cynllun yma, caiff y dyfarnwyr y cyfle i ddyfarnu mewn gemau ar y cyfandir gan gasglu profiad hanfodol a chael eu hasesu o dan lygaid swyddogion a dyfarnwyr mwyaf profiadol UEFA. Gosodir targedau ar gyfer gwelliant ac yna bydd mesur cynnydd dros y chwe mis dilynol.
Mae’r dyfarnwyr gorau yn derbyn cydnabyddiaeth drwy ddiploma ac un o rheini a fu’n llwyddiannus yn ddiweddar yw’r dyfarnwr o Gymru, Iwan Arwel Griffith sydd hefyd yn aelod o banelwyr rhaglen Ar y Marc ar Radio Cymru. Dywedodd Iwan ei fod wedi derbyn profiadau unigryw a gwerthfawr wrth gydweithio a chymharu profiadau gyda dyfarnwyr o uwch gynghreiriau Croatia, yr Eidal, Hwngari, Twrci, Kazakstan, Andorra, yn ogystal ag ymestyn allan i Falaysia a hefyd gwledydd Affrica . Bu hefyd yn dyfarnu yng Ngwlad yr Ia yn ddiweddar fel rhan o’r cynllun, a chael adborth ar ei berfformiad gan un o swyddogion y cwrs o fewn UEFA.
Mae’r cyrsiau yn mesur y cynnydd a wnaed yn erbyn y targedau penodol ar gyfer pob unigolyn ynghyd a lefelau ffitrwydd a safon eu cyfathrebu yn Saesneg. Maent hefyd yn cael eu hasesu ar eu hymroddiad i ddyfarnu dros gyfnod o amser a hefyd yn casglu gwybodaeth ar eu safon fel dyfarnwyr o gêm i gêm.
Dywedodd David Elleray ar wefan UEFA fod y cyrsiau yma yn sicrhau fod y dyfarnwyr yn gwneud cynnydd yn gyflymach ac yn dod yn fwy ymwybodol o'r hyn mae angen iddynt ei wneud yn well er mwyn llwyddo. Dywedodd hefyd fod y cyrsiau yma yn sicrhau fod gan y dyfarnwyr yma well wybodaeth am y gofynion angenrheidiol a hanfodol ar gyfer dyfarnu mewn gemau rhyngwladol.
Tra mae tîm cenedlaethol Cymru yn datblygu ac yn torri cwys newydd ar y cae, da yw deall fod ein dyfarnwyr ifanc ac addawol hefyd yn datblygu yn yr un modd gyda chyfleoedd iddynt hwythau ddatblygu llawn mor llewyrchus a llwyddiannus ar y llwyfan rhyngwladol .