Main content

Dyfodol Timau Pel-droed

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae yna gwpl o sylwadau sydd wedi dwyn fy sylw'r wythnos yma.

Yn gyntaf, mae clwb pêl droed Bae Colwyn wedi ymateb i gais gan newyddiadurwr a ofynnodd a yw’r clwb yn gweld eu hun yn parhau o fewn cyfundrefn pêl droed Lloegr (fel y mae ar hyn o bryd) neu yn gweld posibiliadau mewn ymuno a chyfundrefn pêl droed Cymru yn gyfan gwbl gyda’r nod o gystadlu yn Uwch gynghrair Dafabet.

Mae’r clwb wedi ymateb drwy osod y cwestiwn ar wefan cymdeithasol, a'r diweddaraf i mi ei weld

(dydd Iau diwethaf) oedd bod yna fwyafrif yn dymuno gweld y clwb yn cystadlu yn gyfan gwbl o fewn trefn pêl droed Cymru. Ond, pwy a 诺yr beth fydd y canlyniad terfynol?!

Mae’r sylw wedi tynnu sylw, hwyrach yn sgil canlyniadau siomedig y Bae dros y blynyddoedd diweddar wrth iddynt lithro i adran y gogledd o gynghrair Evostick , sef yr wythfed gris yn nhrefn pêl droed Lloegr.

Yn ogystal tydi canlyniadau gemau cyfeillgar y clwb dros y mis diwethaf wrth ddarparu ar gyfer y tymor newydd, ddim wedi bod yn galonogol wrth iddynt golli ar eu maes eu hunain i dri thîm o uwch gynghrair Dafabet Cymru, sef Llandudno (0-2), Bangor (1-2) cyn cael eu chwalu o dair gol i saith gan Gei Connah yr wythnos yma.

A ydi'r amser wedi dod i'r clwb ystyried y byddai cystadlu ar lefel cenedlaethol o fewn Cymru’n llawer gwell, gan anelu at Ewrop, yn hytrach na baglu eu ffordd ar hyd a lled ardaloedd diarffordd yng ngogledd Lloegr?

Draw yn y canolbarth, mae clwb Rhaeadr wedi cyhoeddi braidd na fyddant am gystadlu yng Nghynghrair Undebol Huws Gray mwyach.

Y rheswm a roddodd y clwb am hyn mewn datganiad ar wefan cymdeithasol, oedd bod gofyniadau teithio yn ei gwneud yn anodd arwyddo chwaraewr, yn enwedig o ystyried fod angen teithio 324 o filltiroedd (taith gron) i chwarae rhai o'r gemau.

Hawdd deall hynny, ond yna fe edrychais ar leoliadau timau eraill o fewn y gynghrair, gan chwilio am le sydd rhyw 162 o filltiroedd o Raeadr.

Caergybi ydi'r pellaf, sydd 123 milltir i ffwrdd, tra mae'r Rhyl yn 109 o filltiroedd i ffwrdd.

Ble tybed y gall Rhaeadr fynd felly, sydd rhyw 160 o filltiroedd i ffwrdd, ac yn daith gron o dros 320 o filltiroedd ? Ymysg y darganfyddiadau, mae Leeds yn 164 o filltiroedd i ffwrdd, Sheffield 166, tra mae Blackpool yn 156!

Tybed a ydw i wedi methu ar ryw newyddion syfrdanol yn y byd pêl droed yr wythnos yma ?!

A ydym am glywed fod ydi Leeds , Sheffield Wednesday, Sheffield United, neu hyd yn oed Blackpool ar fin ymuno a chynghrair Huws Gray ?

Pwy a 诺yr beth a allai ddigwydd nesaf yn ein byd pel droed?!!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

#40Mawr: 10 Uchaf Catrin Heledd

Nesaf