Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Gorffennaf 22ain i 28ain 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Môn: Ynys Gwion Lewis - Brodyr Magee

brodyr - brothers
y fenga - yr ifanca
llwyfan - stage
lle amlwg - an obvious place
cyfathrebu - to communicate
ysbrydoli - to inspire
trwy gyfrwng - through the medium of
efo'i gilydd - together
anhygoel - incredible
hyder nid cywirdeb - confidence not correctness

"...Y Brodyr Magee, band ifanc sy'n canu'n Gymraeg ac yn Saesneg. Pum brawd ydyn nhw o Fae Trearddur ar Ynys Môn. Paul ydy'r hyna, mae o'n ugain oed a Daniel ydy'r fenga, dim ond chwech oed ydy o. Dysgon nhw'r Gymraeg yn Ysgol Gymraeg Morswyn ac mae'r pump ohonyn nhw'n rhugl yn yr iaith erbyn hyn. Maen nhw wedi bod yn canu mewn sawl lle ym Mhrydain ac yn Iwerddon, ac eleni mi fyddan nhw'n canu ar lwyfan perfformio yr Eisteddfod Genedlaethol. Dyma'r brodyr yn esbonio wrth Gwion Lewis pa mor bwysig ydy'r Gymraeg iddyn nhw."


Rhaglen Aled Hughes - Emyr ac Anest

Sioe Frenhinol - Royal Welsh Show
dangos - exhibit
hwch - sow
perchennog - owner
beirniad - judge
blin - angry
chwerthin ar fy mhen i - laughing at me
heb ei orfodi - without forcing it
cystadlu - competing
maen nhw wrth eu boddau - they love it

"Blas oedd hwnna ar raglen ola'r gyfres "Môn: Ynys Gwion Lewis" a neges bwysig gan y Brodyr Magee o ran defnyddio'r Gymraeg - hyder sy'n bwysig. Aeth Aled Hughes i'r Sioe Frenhinol ddechrau'r wythnos diwetha. Llynedd mi fuodd o'n dangos Dainty yr hwch yn y sioe. Doedd Dainty ddim yn y sioe eleni gan ei bod wedi cael moch bach. Ond mi gafodd Aled sgwrs efo Ela, perchennog Dainty, fore Llun a gyda'i phlant, Emyr ac Anest. Mae'r ddau ohonyn nhw'n dangos moch yn y sioe eleni. Cafodd Aled sgwrs efo'r ddau."

Dewch am Dro - Dan Jones

Ymddiriedolaeth Genedlaethol - National Trust
Gogarth Fawr - Great Orme
cyfweliad - interview
ci defaid - sheepdog
y gorlan - sheep-pen
copa - summit
planhigion - plants
ymgeisio - to apply
wedi dangos diddordeb - shown an interest
bugeilio - to shepherd

"Aled Hughes yn fan'na efo Emyr ac Anest yn y Sioe Frenhinol. Wythnos yma roedd Rhys Meirion wedi cyrraedd Dyffryn Conwy yn ei raglen Dewch am Dro. Yn ystod y rhaglen cafodd sgwrs efo Dan Jones sy'n ffermio fferm Parc y Gogarth yn Llandudno ers mis Hydref. Hysbysebodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol y fferm am rent o bunt y flwyddyn yn unig. Gan fod y Gogarth Fawr yn lle arbennig iawn a'r rhent mor isel cafodd yr hysbyseb lawer iawn o sylw. Dyma Dan yn sôn am ei gyfweliad am y swydd."

Rhaglen Geraint Lloyd - Huw Conron

cneifio defaid - sheep shearing
pencampwriaeth y byd - world championship
heb os nac oni bai - without doubt
awyrgylch - atmosphere
Cernyw - Cornwall
trechu record - to beat a record
sut yn y byd? - how on earth?
agwedd - attitude
Prydeinig - British
cystadlu'n frwd - competing enthustiastically

"Dan Jones oedd yn siarad efo Rhys Meirion am ei fferm ar y Gogarth yn Llandudno. Ac mi wnawn ni aros yn y byd ffermio ar gyfer y clip ola. Buodd Geraint Lloyd yn y sioe Frenhinol hefyd a nos Fercher clywon ni sgwrs rhwng Geraint a Huw Conron am gystadleuaeth cnefio defaid yn y sioe. Dyma i chi flas arni hi..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dyfodol Timau Pel-droed

Nesaf

Tymor Pel-droed newydd