Main content

Cofio Ronald Tudor Davies

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yr wythnos diwethaf bu farw Ronald Tudor Davies.

Roedd Ron Davies yn un o鈥檙 blaenwyr gorau a chwaraeodd dros Gymru. Ynghyd a鈥檌 gyfoedion Wyn Davies a John Toshack, doedd yna neb gwell i arwain y linell flaen, a phan oedd y tri gyda鈥檌 gilydd yn y crysau coch, doedd dim rhwystro arnynt.

Mab pentref Brynffordd, ger Treffynnon oedd Ron. Cyn disgybl yn yr ysgol Uwchradd leol a ddechreuodd ei yrfa gyda Chaer.

Yn fuan iawn disgleiriodd ei alluoedd, a symudwyd i聽 Luton ac yna i Norwich, cyn cyrraedd Southampton ble mae wedi dod yn hanes a rhan o chwedloniaeth y clwb wrth sgorio 153 o goliau mewn saith tymor . Ar ddiwedd tymor 1967/8, llwyddodd Ron ynghyd a George Best i sgorio mwy o goliau yn yr hen Adran Gyntaf nag unrhyw un arall.

Sgoriodd bedair g么l i Southampton mewn un g锚m, a rheini i gyd a鈥檌 ben - ond am g锚m, a ble well i gyflawni鈥檙 fath gamp nag oddi cartref yn Old Trafford wrtth chwalu tim Matt Busby o bedair g么l i ddim. Cafwyd tymor gyda Portsmouth cyn ymuno a Manchester United, ond roedd ei ddyddiau gorau y tu cefn iddo, ac mae pob cefnogwr gwerth ei halen yn Southampton yn cofio ei berfformiadau a鈥檌 goliau.聽 Chwaraeodd 29 o weithiau dros Gymru, gan sgorio naw gol.

Yn anffodus daeth amddifynwyr i wybod sut i rwystro Ron rhag sgorio - ond mewn cyfnod pan oedd dyfarnwyr yn aml yn troi eu llygaid oddi ar chwarae brwnt, dyna鈥檙 unig ffordd i rwystro Ron. Yn anffodus arweiniodd hyn at anafiadau a ddaeth i鈥檞 gyniweirio fel yr aeth yn hyn.

Ar ddiwedd ei yrfa yn Lloegr, ymunodd Ron a th卯m y Los Angeles Aztecs, a hynny ar ddymuniad George Best, a oedd eisoes yn chwarae yno. Arhosodd yn nhalaith California am dair blynedd, cyn symud i鈥檙 Tulsa Roughnecks ac yna at y Seattle Sounders.

Ond doedd popeth dim yn felys ar 么l ymddeol. Gyda鈥檙 anafiadau yn effeithio ar ei iechyd, a gwaith yn brin yn Florida, ble roedd wedi ymgartrefu, fe gyrhaeddodd Alberquerque yn nhalaith New Mexico, a gyda biliau i'w talu rhaid oedd gweithio. Aeth ati weithio fel adeiladwr to (roofer) ond roedd poenau gyrfa peldroed a'r ei glun yn drech.

Pan glywyd am hanes Ron Davies aeth gr诺p o gefnogwyr Southampton ati gasglu arian i sicrhau y byddai yn cael llawdriniaeth, a mawr oedd teyrnged y Cymro i鈥檙 ymdrech yma.

Bu farw ei wraig Chris yn 2009, ac unig oedd bywyd y g诺r o Dreffynnon wedi hynny.

Cyn cloi fe ddylai pob aelod o fudiad yr Urdd yn Sir y Flint wybod am Ron, a deall mai dyma'r Ron Davies a roddodd Cwpan Ron Davies i'r mudiad, ar gyfer mabolgampau鈥檙 Urdd sydd yn cael eu cynnal yn flynyddol.

Roeddwn yn aelod o鈥檙 gr诺p a sefydlodd y mabolgampau yma, er mwyn rhoi cyfleodd o fewn yr Urdd i鈥檙 disgyblion hynny nad oedd yn adrodd na chanu, a鈥檜 cael i ddeall fod yr Urdd ar gyfer pawb.

Gwnaeth Ron ei ran i helpu hyn, a gobeithiaf yn fawr y daw'r Urdd, yn enwedig yn Sir y Flint, i sylweddoli cyfraniad Ron Davies at fagu chwaraeon drwy'r Gymraeg yn ardal bro ei enedigaeth

Diolch Ron am yr atgofion.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Blog cefn llwyfan olaf Eisteddfod yr Urdd 2013

Nesaf

Byw breuddwyd y Llewod - Jonathan Davies