Main content

Byw breuddwyd y Llewod - Jonathan Davies

Jonathan Davies

Roedd y profiad o ennill crys cynta’ fi dros y Llewod yn anhygoel.

Rhedes i mas i’r cae tu nôl Paul (O’Connell), o’dd yn eitha’ sbeshal. Er bod y tywydd yn berwi, o’n i mor falch i fod yn rhan o’r achlysur.

Cyn y gêm o’n i’n meddwl ambiti sgorio cais, ond byddai ennill wedi ‘neud y tro. Taflodd Jamie (Roberts) y bêl draw, aeth un o’r bois arall amdano, ond do’dd dim ffordd o’dd e’n mynd i fod yn fwy cloi na fi yn cyrraedd y bêl yna. Roedd sgorio’r cais yn rhywbeth ‘nai byth anghofio.

Nes i siarad gyda fy rhieni ar ôl y gêm. Maen nhw’n dod draw ar yr awyren ar hyn o bryd ac yn cyrraedd nos Wener mewn pryd i weld fi’n chwarae yn erbyn Queensland Reds. O’n nhw mor hapus drosta i.

Rwy’n edrych ‘mlaen at rannu’r profiad i ‘da nhw dydd Sadwrn pan fyddan nhw’n dod i’r gêm.

Gareth Charles a Jonathan Davies

Roedd gan Mike Phillips bresenoldeb mawr ar y cae yn Hong Kong. Mae’n dwli ar y gemau mawr ac mae wastod yn codi i’r achlysur. Dangosodd e nos Sadwrn ei fod yn un o’r rhifau 9 gorau yn y byd, ar ben ei gêm.

I ddechrau r’odd y gwres yn factor yn Hong Kong, ond y bêl oedd y peth caleta’. Roedd e fel baryn o sebon. Un eiliad o’dd y bêl gyda fi a’r peth nesaf o’dd e wedi slipo trwy’r dwylo.

Dyna’r gêm anodda’ wi byth ‘di chwarae. Mae’r Baa Baas yn hoffi taflu’r bêl o gwmpas ac odd cramps gyda fi ar y diwedd.

Cyrraedd Perth

O’n i di blino cymaint, cwmpes i gysgu yn syth ar yr awyren i Perth.

Cafodd Richard Hibbard siwrne anoddach na’r rhan fwyaf ohonon ni. Roedd yna 36 sêt yn busnes a fe o’dd rhif 37 yn economi! Fi’n credu taw Gats (Warren Gatland) wnaeth y penderfyniad ond sai’n siwr.

O’dd e rhyngddo fi a Hibs, ond diolch byth ‘wnes i ddim ffeindio fy hunan mewn sêt economi am wyth awr!

Ni’n lwcus iawn pan ni’n mynd ar deithiau hir i gael seddau busnes yn yr awyren. Chi fwy neu lai yn gorwedd lawr am yr holl siwrne. Ma’ lot o’r bois yn gallu cysgu unrhyw le. Mae Mako (Vunipola) yn un o’r rheiny a galle Mike Phillips gysgu ar lein ddillad!

Cysgodd y bois i gyd, wedyn ar ôl cyrraedd Perth aethon ni lawr i’r traeth, oedd yn lyfli.

Rhannu stafell gyda Tips (Justin Tupric) o’n i yn Perth. Cysgodd y ddau ohonon ni’n y bore o’n i mor flinedig. O’n i ishe bod nôl yn y gwely yn lle ar y bws ond ar ôl cael dip bach yng Nghefnfor India o’n i’n iawn. Ro’dd pobol yn gofyn pam bo ni’n mynd mewn i’r môr gan ei fod yn aeaf mas fan hyn, ond fi ishe mynd â’r tywydd ‘ma gartre achos mae’n well na’n haf ni.

Mae’n grêt i rannu stafell ‘da Tips. Mae’n dawel, fel y ma e ar y cae, ond whare teg helpodd e fi i gario’r bagiau lawr a dyna’r prif beth! Pan chi’n deall person yn dda, sdim rhaid gweud dim byd a do’dd dim llawer da fi a Tips weud wrth ein gilydd achos bo’ ni mor flinedig.

Na’th y bois whare’n dda yn erbyn Western Force. Daeth pwer a class y bois yn amlwg yn y diwedd wrth iddyn nhw greu digon o gyfleoedd a chymryd nhw.

Roedd cicio Penso (Leigh Halfpenny) yn anhygoel, perffaith. Ro’dd un gic tamed bach i’r chwith o ganol y pyst felly ma’ gyda fe rhywbeth i weithio arno! Ma’ fe fel machine yn cicio.

Cyrhaeddon ni Perth ar wyl y banc ac o’dd e’n dawel iawn ond o’dd digon i neud wrth gerdded rownd. O’n i licio Perth, ond wi’n dwli ar Brisbane.

Fi’n siwr bydd y bois yn edrych rownd y siopau a’r llefydd coffi i weld pa rai allwn ni fynd iddyn nhw.

Partneriaeth gyda Manu

Rwy’n chwarae rhif 12 yn y gêm nesaf gyda Manu (Tuilagi). Dechreuais fy ngyrfa yn chware rhif 12 a fi’n siwr bo fi wedi chware yn y safle ‘na unwaith eleni. Fi’n siwr byddwn ni yn cyfnewid ambell waith fel mae’r gêm yn datblygu.

Bydd yn brofiad da i chwarae gyda Manu. Fel arfer fi lan yn erbyn ei gryfderau e. Tro ‘yma fi’n gobeithio gallai elwa o’i gryfderau. Mae e mor gryf gyda’r bêl yn ei ddwylo ac mae’n rhaid i fi neud yn siwr bo fi wrth ei ysgwydd ar yr amser iawn a bod e’n gallu elwa o fy ngwaith i hefyd. Ma’ talent da fe, a wi’n edrych ‘mla’n. Rwy’n falch i gael gêm arall. Wnai chware unrhyw rif - 12, 13, ond falle ddim yn y rheng flaen!

Bydd yn sbeshal iawn i gael fy rhieni yma i’r gêm. Wnaethon nhw gymaint i fi wrth i fi dyfu lan yn teithio rownd Gorllewin Cymru i lefydd gwahanol ar fore Sul, a nawr ma’ nhw’n cael y cyfle i ddod ma’s i Awstralia i wylio fi’n chware dros y Llewod. Gobeithio byddan nhw’n cyrraedd yn saff.

Rwy’n dal i fyw breuddwyd y Llewod. Mae mor braf i weld yr holl gefnogaeth a ma’ nhw’n gweud bydd mwy a mwy wrth i’r gemau prawf agosáu. Rwy’n edrych ‘mlaen i ‘na.

Mae’n brofiad arbennig i fod yn rhan ohono a fi’n credu bydd yn gwella. Mae’n dîm grêt i fod yn rhan ohono.

Jonathan Davies yn sgwrsio gyda Owain Llŷr ac yn edrych ymlaen at gêm y Melbourne Reds.

(Roedd Jonathan Davies yn sgwrsio yn arbennig ar gyfer gwefan Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru gyda Gareth Charles, gohebydd rygbi Ö÷²¥´óÐã Cymru ar daith y Llewod)

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cofio Ronald Tudor Davies

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 7