Main content

Geirfa Podlediad Pigion Radio Cymru i Ddysgwyr: Ebrill 21, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Geraint L0vgreen ac Enw'r Gan - Garej Paradwys

crwydro - to wander
perchennog - owner
crys morwr - a sailor's shirt
trefnu - to organise
llwyfan - a stage
ar bwys - wrth ymyl
cerddoriaeth - music

...Geraint Løvgreen yn sgwrsio am hanes y gân Garej Paradwys efo Richard Jones o’r grwp Ail Symudiad ar y rhaglen Geraint Løvgreen ac Enw'r Gân. Rwan cyn i chi feddwl mai cân am geir neu am fecanics ydy Garej Paradwys, gwranewch ar be sy gan Richard i'w ddweud…

Post Cyntaf - Winifred

atgofion - memories
chwarel - quarry
degau o bobl - scores of people
llenwi'r tanciau - filling the tanks
rheolwr-gyfarwyddwr - managing director
anhygoel - incredible
orlawn - heaving
hanes diwydiannol - industrial history
diwydiant llechi - slate industry
diwylliant - culture

Ia, dyna ni - cân am ddillad ydy garej Paradwys wedi'r cwbl ac nid cân am geir! Sgwn fasai Richard Jones yn gwisgo'r dillad lliwgar brynodd o yn y siop y dyddiau hyn? Dw i ddim yn yn meddwl basai fo rhywsut! Am Winifred mae'r clip nesa, ond na, nid clip am ddynes, neu fenyw, sydd yma ond stori am drên bach arbennig. Aeth Llyr Edwards i lansiad y trên bach 'Winifred' sydd yn gant trideg oed ac sydd rwan yn gweithio ar Rheilffordd Llyn Tegid, Llanuwchllyn. Ond mi gawn ni glywed atgofion rhai oedd yn cofio'r tren yn gweithio yn Chwarel y Penrhyn Bethesda ers talwm...

Galwad Cynnar - perlysiau

perlysiau - herbs
pen-ôl - backside
yr hen ddyddiau - the olden days
plannu - to plant
pridd - soil
cyfforddus - comfortable
argymell - to recommend
adfer yr hen draddodiadaau - to revive the old traditions
ta beth - anyway
lluosflwydd - perennial

Llyr Edwards yn fan'na yn dod á hanes Winifred y tren bach i wrandawyr Post Cynta ddydd Llun diwetha. Gerallt Pennant ac Eirlys Rhiannon sydd yn sgwrsio am berlysiau nesa ar y rhaglen 'Galwad Cynnar. Ond rhywsut mae'r sgwrs yn troi at dynnu trowsus a dangos pen-ôl. Sut felly? Wel gwranewch ar hyn i chi gael gwybod y cyfan...

Mwy o negeseuon

Nesaf

Cyfrwng Cerddoriaeth - daeargryn digidol