Main content

Cyfrwng Cerddoriaeth - daeargryn digidol

Griff Lynch

Cyflwynydd

Yn ystod rydan ni wedi bod ar daith trwy'r degawdau'n edrych ar y cyfryngau cyhoeddi amrywiol, a sut maen nhw wedi effeithio ar y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg.

Yn y bennod olaf, byddwn ni'n edrych ar hanes mwy diweddar, ac yn benodol ar gyhoeddi cerddoriaeth yn yr oes ddigidol. Mi gafodd y cyfryngau cynnar i gyd effaith ar y sin gerddoriaeth Gymraeg mewn ffyrdd gwahanol, ond go brin fod yr un cyfrwng arall wedi cael impact mor fawr ar y diwydiant cerddoriaeth mewn cyfnod mor fyr na'r cyfrwng digidol.

Mae rhywun yn tueddu i feddwl am y chwyldro digidol cerddorol fel iTunes, ac yn fwy diweddar Spotify, ond mae llawer mwy i'r hanes na hynny. Roedd sawl ffordd o rannu cerddoriaeth yn ddigidol yn bodoli cyn i iTunes gael ei lansio yn 2001, ac mae rheswm i gredu bod labeli Cymraeg ac Cymreig ar flaen y gad wrth ddefnyddio'r cyfryngau newydd yma.

Un o gyfranwyr y bennod olaf ydy sylfaenydd y fforwm drafod arloesol , Nic Dafis. Roedd Maes E yn ddylanwadol iawn am rai blynyddoedd, ac fe gyfrannodd yn helaeth at greu cyffro ynglyn â cherddoriaeth Gymraeg ar y pryd. Roedd Nic hefyd yn weithgar iawn fel un o'r blogwyr Cymraeg cyntaf, ac fe fu'n gyfrifol am rannu llawer o gerddoriaeth ar ei flog cerddoriaeth ‘Pop Peth'.

Bydd pennod olaf Cyfrwng Cerddoriaeth yn ein hatgoffa am rai o'r cyfryngau cynnar yma cyn gofyn sut maen nhw wedi cyfrannu at sefyllfa'r diwydiant cerddoriaeth heddiw.

Dyfodol digidol?

Mae dylanwad y cyfryngau digidol ar y diwydiant yn hollti barn. Ar un llaw, mae wedi ei gwneud hi'n haws i rannu cerddoriaeth, gan efelychu cyfnod y casét i raddau. Ar y llaw arall, mae'r arfer o ffrydio cerddoriaeth yn golygu nad ydy pobl yn teimlo'r angen i brynu recordiau, neu hyd yn oed lawr lwytho cerddoriaeth bellach, ac mae hynny'n codi cwestiwn mawr am ddyfodol y diwydiant recordio a labeli bach yn arbennig.

Mae'r hyn rydan ni'n clywed gan reolwyr y gwahanol labeli Cymreig sy'n cyfrannu at y rhaglen yn ddadlennol, ond hefyd yn awgrymu nad oes unrhyw un yn hollol siwr beth i'w ddisgwyl yn y dyfodol.

Yn sicr mae'r farchnad ddigidol yn rheoli'r diwydiant erbyn hyn, ac incwm hynny ddim yn cymharu â gwerthiant y cyfryngau blaenorol i gwmnïau recordiau. Wedi dweud hynny, mae tystiolaeth bod rhai o'r cyfryngau eraill yn dal i werthu ymysg marchnadoedd penodol, a dros y dair blynedd ddiwethaf mae gwerthu y farchnad feinyl Brydeinig wedi codi o .

Wrth i ni gyrraedd diwedd y gyfres, rydan ni hefyd yn ceisio ateb y cwestiwn mawr - pa un o'r gwahanol gyfryngau cyhoeddi cerddoriaeth ydy'r gorau ohonyn nhw i gyd? Mae'r ymateb yn amrywiol...

 

Recordiau feinyl yn cael lle amlwg yn swyddfa Turnstile Music

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Gemau Merched Cymru