Yn dilyn Her y Marc y Sadwrn diwethaf, meddyliais y byddai’n werth rhoi tipyn o gnawd ar yr esgyrn a gafodd eu crybwyll yn sgil sefyllfa Caerl欧r y tymor yma.
Wrth drechu y Pencampwyr Caerl欧r o ddwy gol i ddim y Sul diwethaf, mae Abertawe wedi gwthio pencampwyr Uwch gynghrair Lloegr yn nes at lithro allan o’r gynghrair. Byddai hynny yn golygu y byddai’r stori dylwyth teg yn troi yn chwerw.
Sefyllfa unigryw? Nid yn hollol!
Dim ond un tîm sydd wedi bod yn bencampwyr un tymor, ac yna colli eu lle y tymor dilynol. Rhaid mynd yn ôl i dymor 1937-8 i olrheinio'r hanes, a Manchester City oedd y tîm hwnnw .
Enillodd City bencampwriaeth yr hen Adran Un, rhagflaenydd yr Uwch gynghrair yn nhymor 1936-7, gan sgorio dros gant o goliau, 107 a bod yn fanwl gywir , er iddynt ildio 61 o goliau, dim ond wyth yn llai na Sheffield Wednesday, a gollodd eu lle wrth orffen ar y gwaelod.
Y tîm arall a aeth i lawr oedd cymdogion City sef Manchester United.
Ond y tymor dilynol, er waethaf sgorio mwy o goliau nag unrhyw dim yn Adran Un (80) roedd eu hamddiffyn yn edrych braidd yn simsan wrth ildio 77 o goliau.
Yn sgil hyn, er waethaf y gallu i ddarganfod cefn y rhwyd, gorffennodd Manchester City yn ail o'r gwaelod, a hyn ar ôl colli o un gôl i ddim yn erbyn Huddersfield ar ddiwrnod olaf y tymor (fe fyddai buddugoliaeth wedi eu cadw i fyny).
Felly i lawr yr aethant i Adran Dau (rhagflaenydd y Bencampwriaeth bresennol) yng nghwmni West Bromwich Albion a orffennodd ar y gwaelod. Yn eironig hollol, y tîm a gafodd dyrchafiad yn eu lle o Adran Dau, oedd eu hen gymdogion, Manchester United, ar eu ffordd yn ôl (ynghyd ac Aston Villa).
Dylid nodi hefyd mai dim ond un pwynt ar bymtheg o bwyntiau oedd yn gwahanu Manchester City a’r pencampwyr sef Arsenal (er, i fod yn deg , dim ond dau bwynt a gafwyd am ennill gem yr adeg honno, yn hytrach na thri fel heddiw).
Ond er waethaf hyn i gyd, Manchester City ydi'r unig dîm i lwyddo, os mai dyna'r gair iawn, i fod yn bencampwyr Lloegr un tymor ac yna cholli eu lle yn y brif adran y tymor dilynol.
Ond nid yn Lloegr yn unig mae hyn wedi digwydd.
Pwy syn cofio tîm y Barri yma yn Uwch gynghrair Cymru?
Ar ôl dominyddu uwch gynghrair Cymru (neu Gynghrair Cymru fel y cafodd ei adnabod y pryd hynny) yn ystod ail hanner y naw degau ac ennill eto dair blynedd yn olynol ar gychwyn y ganrif yma, daeth popeth i ben yn dilyn eu pencampwriaeth yn nhymor 2002-3.
Methodd y clwb a chynnal y costau o fod yn llwyddiannus tymor ar ôl tymor, ac er waethaf ceisio achubiaeth drwy gael Justin Fashanu fel cadeirydd, method y g诺r yma a chyflawni ei weledigaeth gan ymadael cyn diwedd tymor 2003/4 a gweld y Barri yn disgyn i Adran Un Cynghrair de Cymru ar ddiwedd y tymor.
Cafodd y Rhyl brofiad tebyg ar ôl ennill Uwch gynghrair Cymru yn 2009, ond ar ddiwedd y tymor dilynol, methodd y clwb ac adnewyddu'r drwydded angenrheidiol i gystadlu yn Uwch gynghrair, ac i lawr yr aethant hwythau, i Gynghrair Undebol y Gogledd (sef Cynghrair Undebol Huws Gray fel yr adnabyddir hi heddiw).
Felly pa mor bell mae’r Abertawe wedi anfon Caerl欧r yn nes i chwarae yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf ?
D’oes wybod, ond hwyrach y bydd cefnogwyr Manchester City yn gobeithio nad hwy yw’r unig dîm yn hanes pêl droed Lloegr, i gario'r faich a derbyn y ffawd anffodus yma !
Ar y llaw arall ond tydi’r Elyrch wedi cyflawni gwyrthiau ers dyfodiad Paul Clement fel rheolwr!
Mae nhw'n dechrau edrych fel Caerl欧r ddwy flynedd yn ôl.
Pwy sy'n ffansio proffwydo y gallant ennill Uwch gynghrair Lloegr erbyn diwedd y tymor nesaf? ! Dim ond gofyn!
Mae pethau rhyfedd yn gallu digwydd; d’oes ond angen i chi ofyn i Gaerl欧r! Fydd parti Vardy yn fawr o ddathliad ar ddiwedd y tymor hwn!