Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Chwefror 11eg - 17eg 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Plismon pell

gelltydd - hills
trafod - to discuss
swydd - job
cyfweliad - interview
oedda chdi - oeddet ti
hogyn - bachgen
ychydig bach - tipyn bach
cyfleusterau - facilities
trin - to treat

... plismon o Rhyl sy wedi mynd yn bell. Wel yn bell iawn a dweud y gwir, yr holl ffordd i Ynys Ascension sydd rhwng Affrica a De America. Gethin Wyn Morgan ydy'r plismon ac mae o a'i deulu wedi setlo mewn yn dda i fywyd yr Ynys. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo fo ddydd Iau a gofynnodd Aled i Gethin ddisgrifio'r ynys i ddechrau...

Stiwdio - Gwennan Mair Jones

Cyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol - Director of Creative Engagement
cysylltu â'r gymuned - conect with the community
perchnogi - to own
denu - to attract
carfan arbennig - a special group
andros o bwysig - pwysig iawn
andros o reddfol - very instinctive
edwino - declining
cynulleidfa ffyddlon - a loyal audience
diwylliant Cymraeg - Welsh culture

Gethin Wyn Morgan oedd hwnna yn disgrifio ei fywyd a'i waith yn yr haul yn Ynys Ascension. Dydy hi ddim cweit yn 32 gradd yn y Wyddgrug ond mae'n swnio fel bod Gwennan Mair Jones yn hapus iawn yno. Mae hi wedi cael ei phenodi'n Gyfarwyddwr Ymgysylltu Creadigol Theatr Clwyd, a hi ydy'r cynta yn y swydd arbennig hon. Buodd hi'n siarad ar raglen Stiwdio ddydd Mercher a dyma hi'n esbonio be yn union mae hi'n wneud yn y swydd newydd...

Georgia Ruth - Recordiau finy

darlithydd - lecturer
casglu cerddoriaeth - collecting music
yn ddi-dor - unbroken
tueddiadau - tendencies
o'r cychwyn cyntaf - from the start
llifogydd - floods
arwyddocâd - significance
arddegau hwyr - late teens
prin - rare
fesul un - one by one

Pob lwc i Gwennan yn ei swydd newydd yn Theatr Clwyd ynde? Oes ganddoch chi recordiau finyl o gwbl? Dw i'n siwr bod llawer ohonoch chi wedi cael gwared ohonyn nhw wrth i gasets a CD's ddod yn fwy cyffredin. Ond nid dyna wnaeth Dyfrig Jones sydd yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddo fo lawer iawn o recordiau finyl, er buodd o bron iawn a'u colli nhw i gyd, fel yr esboniodd o wrth Georgia Ruth...

Geraint Lloyd - Maeres Pontarawe

wedi synnu - surprised
digwyddiadau - event
ethol - to elect
Cynghorydd Sir - County Councillor
etholiad mewnol - internal election
cynllunio - planning
amrywiol - varied
elusennol - charitable
amynedd - patience
ennyn parch - to gain respect

"Dyfrig Jones o Fethesda yn sôn wrth Georgia Ruth am ei gasgliad o recordiau finyl. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs efo Maer, neu Faeres Pontardawe nos Lun. Dim ond 31 oed ydy Beca Philips sydd yn ifanc iawn i fod yn y swydd honno. Ydy'r ffaith ei bod hi mor ifanc yn gwneud y gwaith o fod yn Faeres yn anoddach? Dyma oedd gan Beca i'w ddweud..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Stori Caerlyr yn troi'n sur!

Nesaf

Golwr Wrth Gefn Sutton