Main content

Tymor Pel-droed newydd

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

I bedwar o’r timau o Gymru sy’n cystadlu o fewn trefn pêl droed Lloegr, mae’r tymor yn cychwyn y Sadwrn yma.

Bydd Caerdydd yn teithio i Burton gyda beth sy’n ymddangos yn garfan fwy cystadleuol a sefydlog nag a welwyd ganddynt yn ddiweddar.

Yn ogystal, mae’r rheolwr Neil Warnock yn brofiadol wrth wybod sut mae cystadlu am ddyrchafiad, ac wedi llwyddo i godi Scarborough allan o’r Gyngres yn 1986-87, mynd a Notts County i Adran Un yn 1989/90 ac ymlaen i'r Bencampwriaeth y tymor dilynol. Yna enillodd ddyrchafiad i Huddersfield i’r Bencampwriaeth yn 1994/5, ac felly hefyd gyda Plymouth Argyle yn y tymor dilynol cyn arwain Sheffield United i'r Uwch gynghrair yn 2005/6, a chyflawni ail ddyrchafiad i’r uwch gynghrair, y tro yma gyda Queens Park Rangers yn 2010/11.

Gyda phrofiad o’r math yma a gyda charfan sydd wedi ei chryfhau, rwy’n rhyw amau y bydd Caerdydd yn agos i safleoedd dyrchafiad neu o leiaf ail gyfle erbyn diwedd y tymor.

Os yw Warnock yn brofiadol am atgyfodi timau, yna fe fydd angen rhywbeth tebyg ar Michael Flynn, rheolwr Casnewydd, ar ôl iddo lwyddo i gadw'r clwb rhag disgyn allan o'r gynghrair ar ddiwedd y tymor diwethaf. Cryfhau’r tim a lleihau'r ofnau a oedd fel mantell ar hyd y lle'r llynedd, fydd y nod eleni siawns gen i.

Ond fe fydd rhaid cychwyn y tymor gyda thair gem gynghrair ac un gêm yng nghwpan y gynghrair oddi cartref gan fod wyneb newydd yn cael ei osod ar faes Rodney Parade. Bydd eu gem gartref gyntaf ar Awst 26 yn erbyn Chesterfield.

Tîm newydd sbon bron fydd gan Wrecsam yn y Gyngres. Mae Dean Keates wedi arwyddo nifer o chwaraewyr newydd ac mae’r clwb yn gobeithio, unwaith eto, y byddant yn gallu cystadlu am ddyrchafiad.

Wrth gwrs tydi byw mewn gobaith o’r fath yma ddim byd newydd yn Wrecsam ar gychwyn tymor.

Felly fe fydd canlyniadau gemau agoriadol, adref yn erbyn Macclesfield y Sadwrn yma, cyn teithio i Maidenhead ( a enillodd ddyrchafiad o Adran y De) ganol wythnos, ac i Dover yr wythnos nesaf yn debygol o roi arweiniad i ni am wir obeithion y Dreigiau'r tymor yma.

Bydd Bae Colwyn adref i Romulus o Sutton Coldfield, yn Adran Un y gogledd o Uwch gynghrair gogledd Lloegr.

Bydd Merthyr yn cychwyn yr wythnos nesaf ( Awst 12) gyda gem adref i Hitchin yn Uwch gynghrair De Lloegr.

Mwy o negeseuon

Blaenorol