Main content

Effaith y teledu ar gemau Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae’r ffaith y bydd gemau o Uwch Gynghrair Barclays yn cael eu darlledu’n fyw ar nosweithiau Gwener o dymor 2016/17 ymlaen wedi dod yn bwnc trafod mawr ymysg Uwch Gynghrair Cymru-Corbett Sports.

Cred nifer y gall hyn brofi i fod yn ddatblygiad negyddol, gan mai ar nosweithiau Gwener y mae ystadegau yn dangos mai dyma pryd y ceir y torfeydd gorau, hyd yn hyn.

Ar y llaw arall, ymddengys mai hyd at uchafswm o ddeg gêm fydd yn cael eu dangos yn fyw ar nosweithiau Gwener mewn tymor, a bydd hynny ond yn digwydd pan na fydd hi’n bosib chwarae’r gemau hynny ar nosweithiau Llun.

Os felly, a oes angen i gefnogwyr yr Uwch Gynghrair fod mor bryderus? Mae swyddogion yr uwch gynghrair yn credu fod gwylio gemau cenedlaethol o fewn Cymru yn fforddiadwy ac yn rhywbeth sydd yn apelio at fwy o bobl a theuluoedd yn benodol.

Does ond i chi edrych ar gemau uwch gynghrair Lloegr yn ddiweddar i sylweddoli nad oes modd gwarantu y gallwch eistedd mewn sedd yr oeddech wedi talu llawer amdani gan fod cymaint yn mynnu sefyll, pan mae rheolau diogelwch wedi eu creu, er mwyn sicrhau amgylchedd diogel i bawb wrth eistedd.

Mae’n rhaid cofio nad yw pawb yn gwirioni’r un fath ac nad yw syrcas Uwch Gynghrair Lloegr at ddant pawb.

Os am sefyll, yna pam na cheir mannau sefyll priodol, fel ar y cyfandir? Mae gofid gen i, wrth weld stiwardiaid a heddlu yn gwneud y nesaf peth i ddim i ymateb a'r sefyllfa yma, y bydd yna ryw ddigwyddiad trychinebus arall cyn i rywun feddwl yn fwy o ddifrif am ddiogelwch pawb sydd mewn stadiwm pêl droed y dyddiau yma!

Dywed Gwyn Derfel , ysgrifennydd yr uwch gynghrair yng Nghymru mai cyfrifoldeb swyddogion a’r clybiau ydi credu ym mhotensial gwirioneddol Uwch Gynghrair Cymru-Corbett Sports. ‘Dyw ein Cynghrair Cenedlaethol ni ddim yn berffaith wrth gwrs “ meddai, “ond ‘rwy’n grediniol y gallwn wella ein delwedd ymhellach os wnawn ni ganolbwyntio ar ledaenu negeseuon cadarnhaol amdano.‘Dyw hi ddim yn hawdd byw yng nghysgod y brawd mawr ddrws nesaf - ond mae modd gwneud y gorau o’r hyn sydd gennym”.

Mae datblygiadau diweddar yr uwch gynghrair yma yng Nghymru wedi gweld nifer o glybiau yn mabwysiadu caeau artiffisial 3G project ac mae hyn ynddo’i hyn yn fenter sydd yn gallu cynyddu elw i'r clybiau.

Enghraifft dda o hyn ydi’r Drenewydd ble mae defnydd cyson o’r cae gan aelodau a thimau o fewn y gymuned wedi rhagori ar eu cynllun busnes gwreiddiol gan ddod a mwy o chwaraewyr ifanc i'r clwb a rhoi mwy o gyfleoedd iddynt ymarfer a ddatblygu eu doniau.

Dim ond amser a ddengys os fydd gemau teledu ar nos Wener yn effeithio ar dorfeydd yr uwch gynghrair yma yng Nghymru.
Mae Derwyddon Cefn er enghraifft yn chwarae ar nos Wener pan nad yw hyn yn gwrthdaro a gemau Wrecsam a chaiff eu cynnal ar y Sadwrn, ac mae clwb Port Talbot yn un sydd wedi cynnal arbrawf o gynnal gem ar nos Iau .

Wrth gwrs, fe all yr hen ddadl o symud popeth i dymor yr haf godi eto os gwelwn anawsterau newydd yn codi.

Mae’r rhai sydd yn draddodiadol eu harfer yn gofidio yn fawr am y posibilrwydd yma, ond does dim yn aros yr un fath, a tybed os mai dyma fydd y dyfodol, os bydd arian gwasanaethau teledu lloeren yn arwain y ffordd at fwy o gemau ar nos Wener?

Ac os dyma'r hyn a ddigwydd, a fyddwn yn gweld holl gemau o fewn holl gystadlaethau pêl droed Cymru yn cael eu cynnal drwy fisoedd yr haf?

Mae trafodaeth ar hyn eto i ddod petai newid o’r math yma am ddigwydd!

Mwy o negeseuon

Nesaf