Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr: Mawrth 10, 2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.


Rhaglen Dylan Jones - Everest

dringo - to climb
y fyddin - the army
gwireddu breuddwyd - to fulfill a dream
gwaith paratoi - preparatory work
aelod - member
datblygu - to develop
corff - body
hinsawdd - climate
diffyg - lack of
llwybr - path

...Dylan Jones yn sgwsrio efo Si Naylor o Gaernarfon sydd yn gweithio yn y fyddin, ac sydd am ddringo mynydd Everest eleni. Os dach chi isio gwybod pam mae o am wneud hynny, sut mae o am ei wneud ac efo pwy fydd o'n dringo, gwrandewch ar y clip yma...

 

Bore Cothi - Betsan Powys

cefnogwyr - supporters
pleidleisio - to vote
annog - to encourage
p'run sy'n fuddugol - which one is successful
darlledu - to broadcast
cawr - a giant
draenog mewn pridd - a hedgehog in the ground
atgofion - memories
ar y cyd - jointly
atgoffa - to remind

Si Naylor o Gaernarfon yn fan'na yn sôn am ei gynlluniau i ddringo Everest. Pob lwc iddo fo ynde? Dach chi wedi clywed sôn o'r blaen dw i'n siwr, ein bod ni eleni yn cofio'r can mlynedd sy ers i'r awdur T. Llew Jones gael ei eni. Mae gan Radio Cymru brosiect newydd i gofio am waith T Llew. Dyma Betsan Powys o'r 主播大秀 yn esbonio wrth Shan Cothi beth yn union fydd yn digwydd...

 

Rhaglen Dylan Jones - Streic y Glowyr

glowyr - miners
teimladau - feelings
rhaniadau - divisions
cwpla - gorffen
pwll - pit
cwmpo mas - falling out
cynhaliaeth - subsistance
llifo - flowing
cyfarwydd - familiar
ydy'r cof wedi pylu? - has the memory faded?

Shan Cothi oedd yn siarad efo Betsan Powys yn Nhy Tawe, Abertawe am brosiect i gofio T Llew Jones. Mae yna lawer yng Nghymru yn cofio digwyddiad arall eleni, sef ei bod hi'n drideg o flynyddoedd ers i Streic y Glowyr ddod i ben. Roedd hi'n adeg anodd iawn wrth gwrs i lawer o deuluodd a dydd Mawrth aeth Aled Scourfield i Gwm Gwendraeth i gael sgwrs efo dau oedd wedi cael eu heffeithio'n drwm iawn gan y streic, Idris a Noir Lloyd. Dyma Idris i ddechrau yn sôn am sut oedd pethau yn y gwaith ar ôl i bawb fynd yn ôl...

 

Cofio - J. S . Bach

pengaled - hardheaded
byr ei dymer - shortempered
ddim yn gallu diodde - couldn't stand
safon uchel - high standard
ymladdfa - a brawl
awdurdodau - authorities
synau - sounds
claddu - to bury
cyfansoddi - to compose
unawdau - solos

Idris a Noir Lloyd o Gwm Gwendraeth oedd rheina, yn cofio Streic y Glowyr. Dan ni'n mynd bellach yn ôl mewn hanes rwan a dysgu ychydig am fywyd Johan Sebastian Bach. Sgwrs o'r archif ydy hon. Cafodd hi ei chlywed gynta yn Nwy Fil a Phedwar. Alwyn Humphries oedd yn rhoi'r hanes mewn sgwrs efo Hywel Gwynfryn a Nia Roberts. Dach chi'n gwybod faint o blant oedd gan Bach? Reit, dyfalwch ac yna gwrandewch ar y clip yma i weld pa mor agos oeddech chi...

 

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Effaith y teledu ar gemau Uwch Gynghrair Cymru

Nesaf