Main content

Annibyniaeth a phel-droed yn Catalonia

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda thrigolion Catalonia yn prysur ddarparu eu hunain am refferendwm ar Hydref 1af a  fydd yn penderfynu os fydd y genedl yn dod yn annibynnol o Sbaen, tybed pa effaith y gallai hyn ei gael ar y byd pêl droed?

Mewn erthygl yn rhaglen clwb pêl droed Aberystwyth y Sadwrn yma, mae Siôn Jobbins yn crybwyll yr hyn a ellir ei ddisgwyl, gan ystyried pwyntiau a materion hynod o bwysig.

Byddwch barod, meddai, i groesawu tîm cenedlaethol newydd a fydd yn cystadlu yn yr Ewros ar gyfer 2021, sef tîm cenedlaethol gwlad Catalonia. Tîm a allai fod yn ddigon cryf i gipio coron pencampwriaeth cenhedloedd Ewrop ar eu hymgais gyntaf!

Os nad yw hyn yn ddigon, beth am un o dimau clybiau mwyaf Ewrop, Barcelona? A ddown i weld eu diwedd fel tîm yn La Liga gan na fydd Catalonia yn rhan o Sbaen mwyach? Ac felly, yn yr un modd, rhaid ystyried dyfodol Espanyol a Girona (sydd newydd ennill dyrchafiad eleni).

Mae Barca eisoes wedi cyhoeddi datganiad yn dweud eu bod yn cefnogi annibyniaeth i Gatalonia gan mai dyna ddymuniad eu cefnogwyr. Ond yna, fel mae Siôn Jobbins, yn nodi, tybed a fyddai clybiau pêl droed Dinas Caerdydd neu Ddinas Abertawe yn mynd at i gefnogi annibyniaeth dros Gymru mewn sefyllfa debyg?

Wrth gwrs mae yna wahaniaeth, gydag arwyddair Barca, sef ‘Mes que un club” (mwy na chlwb) yn gosod eu safiad wrth, dros y blynyddoedd, iddynt fod wedi, ac yn parhau i wneud, popeth yng Nghatalaneg, (iaith a gafodd ei gwahardd gan y Cadfridog Franco a’r Ffasgwyr yn dilyn y Rhyfel Gartref yn y tri degau).

Felly, os daw annibyniaeth, ble aiff Barcelona?

Y lle cyntaf i dynnu cymhariaeth ydi yma yng Nghymru gyda Chaerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam, Merthyr a Bae Colwyn yn cystadlu o fewn trefn pêl droed Lloegr, tra mae pencampwyr presennol Uwch Gynghrair Cymru, y Seintiau Newydd o Groesoswallt eisoes yn adnabyddus fel tîm wedi ei leoli yn dros y ffin yn sir Amwythig.

Yna, fe ellir cyfeirio at Berwick Rangers o Loegr (Swydd Northumberland) a’u cymdogion Tweedmouth Rangers, sy’n cystadlu yn yr Alban, Derry City o Ogledd Iwerddon yn chwarae ym mhêl droed y Weriniaeth, Monaco yn cystadlu yn Ffrainc, a Vaduz o Liechtenstein (a gurodd Bala yng Nghwpan Ewropa eleni) yn chwarae eu pêl droed yn y Swistir.

Ond, nid Vaduz, Berwick Rangers na Wrecsam mo Barcelona, ac a fyddai’r La Liga (neu'r Primera Division) yn Sbaen yn fodlon dweud ffarwel wrth Farcelona a'u cyfoeth a'u mawredd?

Os na fydd yna ddyfodol o fewn La Liga, be wedyn?  Tybed a fydd y Ffrancwyr yn barod i'w croesawu? Wedi'r cwbl, mae Monaco yno yn barod ac mae cynsail wedi ei osod. 

Ar y llaw arall, mae cynsail tebyg wedi ei sefydlu yn Sbaen wrth i glwb FC Andorra gael caniatâd i gystadlu o fewn trefn pêl droed cynghreiriau Sbaen ar hyn o bryd.

Diddorol felly fydd gweld effaith annibyniaeth, os mai dyna a ddaw i Gatalonia, ar y byd pêl droed.

“Ole-le, ola-la ! ”, ble fydd Barca yn y dyfodol? Amser a ddengys !

Hoffwn ddiolch i Dilwyn Roberts–Young o glwb pel droed Aberystwyth, a Sion Jobbins am ganiatad i ddefnyddio erthygl Sion Jobbins ( Homage to Catalonia (and Barcelona) sydd i’w darllen yn rhaglen Aberystwyth v Bangor y Sadwrn yma, fel sail i’r sylwadau yn y Blog yma.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf