Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Medi 9fed - 15fed 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Llwyth yr Himba

Llwyth yr Himba - The Himba Tribe
traddodiadol - traditional
y rheini sydd am lynnu - those who want to stick
datblygu - developing
yn glou - quickly
tyst - a witness
cofnodi - to record
diwylliant - culture
dylanwad - influence
cloriau cylchgronnau - magazine covers

"...sgwrs rhwng Aled Hughes a'r ffotograffydd o Sir Gaerfyrddin, Richard Collins. Buodd Richard yn byw efo Llwyth yr Himba yn Namibia gan dynnu lluniau o'u ffordd draddodiadol o fyw tra roedd o yna. Mae'r ffordd honno o fyw mewn perygl ar hyn o bryd, ac mi ofynnodd Aled i Richard sut oedd y llwyth yn teimlo pan mae pobl yn mynd draw i Namibia i'w gweld, ac i dynnu lluniau ohonyn nhw... "

Bore Cothi - Tân

diffoddwraig tân - fire fighter (female)
eang - wide
hyfforddiant - training
atal - to prevent
tu ôl i'r llen - behind the scene
codi ymwybyddiaeth - raising awareness
gostwng - to lower
elusennol - charitable
crefyddol - religious
cryfder - strength

"Richard Collins yn fan'na yn cofio am yr adeg pan fuodd o'n byw efo Llwyth yr Himba yn Namibia. Mae Ella Peel wedi actio mewn sawl cyfres deledu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'n bosib ei gweld ar hyn o bryd yng nghyfres newydd S4C 'Tân' sydd ymlaen bob nos Fawrth. Ond does dim rhaid i Ella actio bod yn ddiffoddwraig tân, mae hi'n gweithio'n rhan amser fel diffoddwraig yn ogystal ag actio, fel y clywon ni mewn sgwrs ar Bore Cothi ddydd Mawrth..."


Sioeau Cerdd - Cyfieithu

ddim yn gyfarwydd - unfamiliar
llifo - flowing
yr acen yn amrywio - the stress (accent) varying
addasu - to adapt
dibynnu ar odl - depend on the rhyme
camp - achievement
llwyfan - stage
cyfarwyddo - directing
y dafod - the tongue
toddi - to melt

"Rhan o sgwrs oedd hwnna rhwng Shan Cothi a Ffion Gwen, cynhyrchydd y gyfres 'Tan' ac Ella Peel un o’r diffoddwyr tân sydd yn cymryd rhan yn y rhaglen. Pa mor anodd ydy cyfieithu sioeau cerdd i'r Gymraeg? Dyna oedd cwestiwn y tenor Steffan Rhys Hughes i Tudur Dylan a Cefin Roberts yn ail raglen y gyfres Sioeau Cerdd. Dyma oedd ganddyn nhw i'w ddweud..."


Rhewlwyr - Y 'Roadies' Cymraeg

gadewch i mi gyflwyno - let me introduce
pennaeth - head
goleuo - lighting
cyfnod - period
Gwyl - Festival
y Prif Lwyfan - The main stage
Yr Almaen - Germany
sylw - attention
sefyll mas - standing out
trafod - dicussing

"O fyd y sioeau cerdd i fyd roc â rôl rwan. Dydd Gwener mi gaethon ni ychydig o hanes y bobl sy’n mynd â roc â rôl ar y ffordd – y rhewlwyr neu’r roadies Cymraeg. Mae Gareth ‘Gaz Top’ Jones ei hun wedi gweithio fel 'roadie' efo grwpiau fel The Alarm a U2, a fo oedd yn holi nifer o ‘roadies’ Cymraeg ac yn cael ychydig o’u hanes... "


Gari Wyn - Rhiannon Acree

yn boenus - concerned
beirniadaeth - criticism
yn cael eu meithrin - being nurtured
hunanhyder - self-confidence
rhyngweithio - interacting
cwffio - fighting
gorwelion - horizons
breuddwydion - dreams
cadair olwyn - wheel chair
ar y gweill - in the pipeline

"Y roadies Cymraeg yn rhannu ychydig o'u hanes efo Gareth ‘Gaz Top’ Jones. Mae Gari Wyn yn mynd ar hyd a lled Cymru i siarad efo pobl sy' wedi llwyddo ym myd busnes. Dydd Llun mi gafodd o sgwrs efo Rhiannon Acree, sydd yn dod yn wreiddiol o Frithdir Dolgellau, ond sydd erbyn hyn yn wraig fusnes lwyddiannus yn Long Beach California. Mi gafodd Gari air efo hi pan oedd hi draw yng Nghymru adeg yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Annibyniaeth a phel-droed yn Catalonia