Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 13/10/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Dewi Llwyd - Hanner Marathon Caerdydd

pencampwriaeth y byd - world championship
torfeydd - crowds
ymwybodol - aware
croesi'r ffin - crossing the border
ruthro - rushing
awyrgylch - atmosphere
diodde(f) - suffering
hwb - a boost
trefnwyr - organisers
carfan gref - a strong representation

...mi fuodd miloedd ar filoedd o bobl yn rhedeg o amgylch strydoedd Caerdydd yn hanner marathon y brifddinas ddydd Sul diwetha. Y flwyddyn nesa bydd pencampwriaeth hanner marathon y byd yn dod i Gaerdydd, felly roedd ras eleni'n bwysig am sawl rheswm. Un o‘r rhai oedd yn rhedeg oedd Angharad Mair, sydd yn un o gyflwynwyr y rhaglen 'Heno' ar S4C. Dyma hi'n siarad efo Iwan Griffith ar ôl gorffen y ras mewn ychydig dros awr ac ugain munud...

Straeon Bob Lliw - Elvis

dywared - to impersonate
caplan - chaplain
cartrefi henoed - homes for the elderly
iechyd meddwl - mental health
elusennau - charities
tynnu nghoes - pulling my leg
crefyddol - religious
yn fyw - live
yn frenin yma ar y ddaear - a king here on earth
cerddoriaeth - music

Angharad Mair yn fan'na yn siarad am hanner marathon Caerdydd efo Iwan Griffith, ar raglen Dewi Llwyd. Un arall y byddwch chi'n ei weld yn aml ar S4C ydy Chris Jones, un o bobl tywydd y sianel. Mae Chris yn ffan mawr o Elvis Presley ac mae o’n mynd bob blwyddyn i 诺yl fawr Elvis ym Mhorthcawl, lle mae cannoedd o bobl yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth dynwared Elvis. Eleni mae Chris yn un o’r dynwaredwyr! Un arall sydd yn dynwared Elvis yn ei amser sbâr ydy Wyn Roberts, Caplan Ysbyty Gwynedd, ac roedd Chris eisiau gofyn iddo fo am ychydig o help...

Bore Cothi - Clwb 100

Hir Oes - longevity
ffaelu - weakening
iechyd - health
ambell i annwyd - the odd cold
mas - allan
wedi ei halltu - salted
crochan - pot
cymysgu fe lan - mixing it up
tato - tatws
llaeth enwyn - buttermilk

.. brenin tywydd S4C, Chris Jones, yn fan'na yn siarad efo ffans y brenin arall - Elvis Presley. A hir oes i ffans Elvis ynde? Mae hi'n dymor Hir Oes Cymru ar hyn o bryd ar 主播大秀 Cymru ac mae rhaglen Bore Cothi wedi sefydlu Clwb Cant, sef clwb i bobl sy'n gant oed, neu'n fwy wrth gwrs! Dydd Mawrth diwetha cafodd Trystan ab Ifan sgwrs gyda Mary Keir sydd yn gant a thair oed ac sy'n byw nawr yn Llandeilo, ond sy'n dod yn wreiddiol o D欧 Ddewi. Dyma i chi flas ar y sgwrs...

Rhaglen Dylan Jones - Beca

haeddu - to deserve
cystadleuydd - competitor
ambell i her - the odd challenge
yn ddigon hawdd - easy enough
toes mwy moethus - a more luxurious dough
safon y pobi - the standard of the baking
addurno - to decorate
uchelgeisiol - ambitious
sgiliau sylfaenol - basic skills
cynhwysion - ingredients

Doedd yna ddim llawer o sôn am laeth enwyn a thato yn y Great British Bake Off, ond mi roedd yna gacennau arbennig iawn i'w gweld ar y rhaglen dros yr wythnosau diwetha. Os dach chi wedi bod yn gwylio'r rhaglen mi fyddwch chi'n gwybod yn iawn mai Nadiya enillodd y gystadleuaeth eleni. Ddwy flynedd yn ôl mi wnaeth y Gymraes Beca Lyne Perkis gyrraedd y ffeinal ac mae hi erbyn hyn yn cyflwyno rhaglen ‘Becws’ ar S4C. Be oedd hi'n feddwl o Nadiya tybed? Dyma be oedd ganddi i'w ddweud wrth Dylan Jones...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cymru yn cyrraedd Ewro 16

Nesaf

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 20/10/2015