Bore da Gymru! Bore da Walia! Does 'na ddim byd yn syml wrth ddilyn Cymru. Colli ym Mosnia, ond yna gorfoledd wrth ddeall fod Ciprys wedi curo Israel gan adael y drws yn llawn agored i Gymru gymhwyso ar gyfer ffeinals Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Mae’n wythnos bron ers y diwrnod mawr, ac mae’r cynnwrf, y cyffro a’r ymateb llawn mor fyw ac a fu nos Sadwrn. Ie, wir, ‘le jour de gloire est arrivee!”. Fu’ na cholled mor chwerw felys erioed? Fu na gymaint o ddathlu ar ôl colli ?
Diolch i'r garfan a gafodd ei fagu gan John Toshack, ei ddatblygu gan Gary Speed a’i berffeithio gan Chris Coleman ac Osian Roberts, mae Cymru yn ffeinals Ewro 2016. I lawer iawn o’r cefnogwyr, yn enwedig i lawer o rheini sydd wedi dilyn eu gwlad ar hyd a lled y cyfandir gan sbarduno eu gwlad i gyrraedd entrychoedd rhyngwladol, dyma brofiad unigryw.
Ond i rai ohonom, fe fydd yn brofiadau fydd yn atgyfodi byd pêl droed rhyngwladol cynnar a chynhyrfus ein hieuenctid. Ie, mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio 1958, y gêm gymhwyso'na yn erbyn Israel, Sweden, Pele, Brasil, John Charles, a Chymru yn cyrraedd wyth olaf Cwpan y Byd!
Diolch i Gymru am ail greu profiadau fy ieuenctid. Ymlaen felly dros y Sianel ond rhaid bod yn wyliadwrus rhag meddwl mai cyrraedd yno ydi'r unig uchafbwynt.
Mae Cymru yn ddigon da i wneud ei marc yn y ffeinals, ac fe allwn fynd yno yn llawn gobaith y gallwn gamu ymlaen drwy'r gemau agoriadol ac ymhellach .
Golyga hyn hefyd y bydd yr arian a ddaw yn sgil cynhwyso, yn gallu codi proffil y gêm ar hyd a lled y wlad ac ymhellach.
Dydan’ ni gyd wedi siarad am fynd i Ffrainc, ond r诺an mae rhaid meddwl o ddifrif am y peth a phenderfynu sut, a ble , i fynd. Gwlad o dair miliwn , traean poblogaeth Llundain, ymysg y gorau yn y byd, ond gwlad sy’n parhau i orfod brwydro i argyhoeddi rhai pobol mai pêl droed yn wir ydi brif faes chwaraeon ein cenedl.
Bydd cyrraedd Ffrainc yn si诺r o godi proffil ein gwlad yn fwy na wnaeth unrhyw gêm arall, gyda chymaint o ddiddordeb byd eang mewn pêl droed, a bydd dim angen i unrhyw gefnogwr pêl droed wisgo fel rhyw gennin pedr oleuol i dynnu sylw er mwyn ceisio geisio profi eu Cymreictod mewn achlysuron ysbeidiol .
Mae’r diwylliant Cymreig wedi ei drwytho yn llawn yng ngenynnau'r cefnogwyr gwladgarol , yn enwedig y rheini sydd wedi rhoi cymaint wrth deithio cyfandir yn llawn gobaith, awch a chynnwrf wrth ddilyn eu gwlad.
Pa wlad arall a all deithio fel y rhain gan drefnu ymgyrch i helpu plant llai ffodus yn y gwledydd maent yn ymweld â hwy?
Mae elusen Cefnogwyr Peldroed Cymru a gaiff ei gynnal o dan enw “Gol!” yn gwneud cymaint i helpu plant difreintiedig bob tro y mae Cymru yn chwarae mewn gwlad dramor.
Ers ei ffurfio yn 2002 mae Gôl! wedi cynnig cymorth i fwy na 30 o achosion da i blant. Gyrrodd criw o’r cefnogwyr 2,500 cilomedr i Fosnia ar gyfer gem Cymru'r Sadwrn diwethaf, gyda rhoddion o ddillad a chyfarpar chwaraeon gan ymweld hefyd ag achosion da ar y ffordd a gadael y car i elusen yn Kosovo.
‘Gorau chwarae, cyd chwarae!' ydi arwyddair y gymdeithas bel droed, a dyma esiampl o’r arwyddair yn cael ei wireddu gan y cefnogwyr dyngarol yma .
Ar y cae, ac oddi ar y cae, mae pêl droed Cymru yn gosod yr esiampl orau i bawb.
Tra mae ymgyrch y tîm cenedlaethol ar y cae wedi tynnu sylw cenedl gyfan ac eraill dramor, mae ymgyrch elusen y cefnogwyr, ‘ Gol!’ yn un na chaiff cael lawer o sylw ond sydd yn un sy’n dangos calon ac ymroddiad y Cymry yma i osod esiampl ar sut y gall pobol o wahanol ddiwylliannau, crefydd, cefndir ac iaith gyd fyw wrth ymateb i achosion da gwahanol wledydd ar eu taith.
Tydi’n amser da i fod yn Gymro!