Main content

Llwyddiant Merthyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Blwyddyn yn ôl roedd hi’n dor calon ar Benydarren wrth i dîm pêl droed Tref Merthyr foddi wrth ymyl y lan a methu allan ar ddyrchafiad i Uwch Adran Cynghrair De Lloegr. Ond nid felly'r tro yma.

Ail atgyfododd tîm y dref gan sicrhau dyrchafiad yn y modd mwyaf dramatig ar ddydd LLun y Pasg wrth iddynt chwalu tim Bishops Cleeve o naw gol i ddim.

Roedd angen dwy fuddugoliaeth ar Ferthyr dros y Pasg. Daeth y gyntaf ar y Sadwrn, pan gafwyd buddugoliaeth o bedair gôl i ddim yn erbyn Mangotsfield United o flaen torf o dros fil.

Yna daeth y dathlu, a dyna ffordd i sicrhau cipio'r bencampwriaeth wrth i’r cefnogwyr gael gwledd o goliau, naw i gyd a hynny yn gyson drwy gydol y gêm; dwy'r un i Ryan Prosser Ian Traylor a Kayne Mclaggon a gôl yr un i Matthew Harris, Dan Summerfield a Kerry Morgan.

Mae hyn yn gosod Tref Merthyr yn Uwch Gynghrair De Lloegr ble yr oedd eu rhagflaenwyr (Merthyr Tydfil) yn cystadlu yn ôl yn 2010 pan fu rhaid disgyn iddynt ddisgyn allan yn sgil trafferthion ariannol a datodiad y clwb hwnnw'r pryd hynny.

Ond, wedi ei hail ffurfio gan eu cefnogwyr, mae’r clwb wedi dangos beth sydd yn bosibl. Er iddynt ddod mor agos at ddyrchafiad y llynedd, gwelwyd y tîm presennol yn rheoli eu cynghrair sef Adran Un (rhanbarth y de a’r gorllewin) o Gynghrair de Lloegr yn llwyr y tymor yma. Arweiniwyd y dathliadau gan y rheolwr Steve Jenkins (cyn chwaraewr i Abertawe a Huddersfield, Casnewydd a Llanelli yn ogystal ag ennill ac un cap ar bymtheg dros Gymru).

Roedd Penydarren yn llawn asbri a gorfoledd ar ddiwedd y gêm, gyda’r staff, hyfforddwr a’r chwaraewyr yn rhannu cymanfa o ganmoliaeth gan eu cefnogwyr yn yr haul ar ôl tymor a welodd y tîm yn sgorio cant un deg pump o goliau hyd yn hyn.

Yn naturiol roedd Jenkins, cefnogwr i'r clwb ers ei ddyddiau ifanc pan oedd yn arfer sefyll ar y terasau ar Barc Penydarren pan oedd yn blentyn, wrth ei fodd. Talodd deyrnged i ymroddiad a safon chwarae'r tîm dros y tymor ac am gyflawniadau'r garfan dros bob clwb arall o fewn eu cynghrair.

Mae’r tîm wedi ennill (hyd yn hyn) deg ar hugain o gemau, dod yn gyfartal mewn chwech a cholli ond pedair.

Bydd y gêm olaf adref yn erbyn Stratford, sydd yn yr ail safle ar hyn o bryd, ar y pumed ar hugain o Ebrill pan fydd tarian y bencampwriaeth yn cael ei gyflwyno i gapten y tîm, Ryan Green.

Cefais air yr wythnos yma gydag un o gefnogwyr y clwb, Alec Clark sydd a’i fab ifanc Iwan yn chwarae i un o dimau ieuenctid yr ardal.

Roedd Alec yn llawn canmoliaeth am ymroddiad clwb Tref Merthyr i'r gymuned leol, gyda thîm lleol Iwan, a nifer fawr iawn o rai eraill yn cael defnyddio'r stadiwm a’r cae artiffisial i chwarae eu gemau cystadleuol yn wythnosol. Roedd yn llawn canmoliaeth hefyd i gefnogwyr a swyddogion y clwb a fynnodd nad oedd pêl droed yn y dref am ddiflannu.

Cyfeiriodd at yr ymdrechion a fu yn y gorffennol i gasglu arian i sicrhau fod pob agwedd o gostau yn cael ei dalu ac i gyfarfod a chostau’r atgyfodiad. Er waethaf y trafferthion yngl欧n â pherchnogaeth Stadiwm Penydarren ar ôl 2010, a welodd y tîm yn gorfod cynnal eu gemau cartref ar faes tîm Ffynnon Taf yn y Rhondda, roedd gobaith i'r dyfodol yn parhau ac yn cario'r ffydd at yr hyn a gyflawnwyd y tymor yma.

Dyfodol disglair felly o flaen y clwb a’r wythnos diwethaf llwyddwyd i sicrhau cefnogaeth cyngor bwrdeistref Merthyr yn ogystal â chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r stadiwm a sicrhau gwell cyfleusterau ar gyfer y gymuned, gyda chyfleodd gwaith ar gael gan mai cwmni lleol sydd wedi cael ei llogi i weithredu'r fenter newydd .

Bydd yna gychwyn hefyd ar ddatblygu timau pêl droed i ferched o fewn y clwb ac yn sgil y llwyddiant presennol, does dim ond dyfodol llewyrchus i'w weld o flaen y clwb sydd wedi dangos yr hyn sydd yn bosibl o dan arweiniad ac ymroddiad criw ymroddedig o gefnogwyr a fynnai ac a sicrhaodd na fydd eu clwb pêl droed yn marw a diflannu. Llongyfarchiadau i'r Merthyron a phob hwyl i’r dyfodol.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cyfraniad y cyfrwng