Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 10/11/2015

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Rhaglen Geraint Lloyd – Matt Guy

cogydd - chef
cymaint â medri di - as much as you can
y gyfrinach - the secret
rhesymol - reasonable
brifo - to hurt
priodasau - weddings
achlysurau arbennig - special occassions
bwydlen - menu
llefydd - places
cefnogi - to support

...sgwrs rhwng Geraint Lloyd a chogydd ifanc o'r enw Matt Guy. Mae Matt yn dod o Ddeiniolen yng Ngwynedd yn wreiddiol ac ar ôl treulio amser i ffwrdd yn dysgu ei grefft, mae o wedi dod yn ôl i'w ardal enedigol. Mae o newydd gael swydd yng Nghanolfan Reolaeth Prifysgol Bangor, ac fel y cawn ni glywed rwan, Matt sydd yn rhedeg y Ganolfan a'r bwyty 1884 sy'n rhan ohoni. Dechreuodd o'r sgwrs yma drwy sôn am daith ei yrfa, aeth â fo o Lanrug i Loegr ac rwan yn ôl i Wynedd...

Bore Cothi gyda Heledd Cynwal – Bryn Williams

her newydd - a new challenge
magwraeth - upbringing
sugno - to suck
parch - respect
profiad - experience
ar y pryd - at the time
canolbwyntio - to concentrate
sgynnot ti - sy gyda ti
anhygoel - incredible
yn y pendraw - in the end

Matt Guy oedd hwnna, cogydd ifanc yn sôn am yr her newydd sydd o'i flaen ac mae'n amlwg ei fod o am roi ei stamp ei hun ar fwyty Prifysgol Bangor yntydy? Mae'r clip nesa 'ma am gogydd hefyd, ond un profiadol ac enwog iawn - Bryn Williams, sy'n dod o Ddyffryn Clwyd yn wreiddiol ond sydd wedi gwneud enw iddo'i hun efo'i fwyty yn Llundain 'Odettes'. Fel Matt mae gan Bryn her newydd o'i flaen gan ei fod wedi agor bwyty ym Mae Colwyn eleni, ac mae o newydd lansio ei lyfr coginio Cymraeg cynta. Dan ni'n mynd i glywed rhan o'i sgwrs efo Heledd Cynwal ar Bore Cothi, lle mae Bryn yn sôn am sut y mae ei fagwraeth wedi effeithio ar ei yrfa broffesiynol...

Bore Cothi gyda Heledd Cynwal – Jasmine Wilson

pobydd - baker
hyfforddi - to train
safoni glanhau - cleaning standards
gwaith caib a rhaw - spade work
hyder - confidence
yn gwmws - exactly
anhrefn - disorder
balchder - pride
ymwybodol - aware
cysondeb o safon uchel - a high standard of consistency

Y cogydd Bryn Williams yn fan'na yn amlwg yn meddwl y byd o'r mentor gafodd o pan oedd o'n fachgen ifanc - y pobydd Alwyn Thomas. Sgwrs ddifyr arall ar raglen Heledd Cynwal oedd honno gyda Jasmine Wilson sydd yn rheoli Gwasanaethau Glanhau Cyngor Sir Ceredigion – neu fel galwodd Heledd hi – ‘Brenhines y Toiledau!’ Mae Jasmine yn un o’r rhai sydd yn cymryd rhan mewn rhaglen newydd ar 主播大秀 Cymru sef ‘Cardigan Bay Coastal Lives’. Dyma hi'n dweud ychydig o’i hanes wrth Heledd...

Rhaglen Dylan Jones – Barri Griffiths

yn hytrach na - rather than
y cyfle - the opportunity
cadw mewn cysylltiad - to keep in contact
llenwi rhan - to fill a part
rhestr - list
coblyn o hwyl - a lot of fun
corfforol - physical
elfen fawr - a big feature
hongian - hanging
cyfnod bach - a brief period

...a dan ni'n symyd rwan o Frenhines y Toiledau i 'Frenin y Reslo'. Mae Barri Griffiths o Borthmadog wedi bod ar y teledu yn aml, ond yn cael ei nabod fel Mason Ryan y reslar, yn hytrach nag fel Barri! Mae o'n wynebu her newydd hefyd, ond un dipyn gwahanol i heriau'r ddau gogydd Matt a Bryn. Mae Barri am stopio reslo, am ychydig beth bynnag, ar ôl iddo fo gael rhan yn sioe Cirque du Soleil yn Las Vegas. Pa mor wahanol fydd y gwaith hwn i'r reslo? Dyna un o'r cwestiynau ofynnodd Dylan Jones iddo fo...

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dyfodol i ddyfarnwyr o Gymru.

Nesaf

Cyfoeth Cerddoriaeth Cymru