Main content

Geirfa Podlediad Mawrth 16eg - 23ain 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Post Prynhawn - Llyfrgell Rhydaman

argraffydd - printer
offer - equipment
sgrîn werdd - green screen
arbrofi - experimenting
Bwrdd Gweithredol - Executive Board
cyfrifoldeb - responsibility
denu - to attract
traddodiad - tradition
disgyblion - pupils
cyffrous - exciting

"Y dyddiau hyn mae llyfrgelloedd yn wynebu'r dewis o newid neu gau mewn sawl lle yng Nghymru. Newid oedd ateb Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin. Erbyn hyn yn ogystal â benthyg llyfrau yn llyfrgell y dre mae'n bosib gwneud defnydd o argraffydd 3D, camerau newydd sbon a stiwdio recordio. Roedd hi'n ddiwrnod arbennig iawn yn y dre dydd Llun wrth i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas agor stordy creadigol y llyfrgell. Aeth Aled Scoufield aeth draw yno ar ran Y Post Cyntaf a’r Post Prynhawn..."

Rhaglen Rhys Mwyn - John Cale

adfywiad - revival
bydysawd - universe
casgliad - collection
hawlio - to claim
ymfalchïo - to be proud
dianc - escape
rhyddid - freedom
ysu - yearning
tyndra - tension
ysgoloriaeth - scholarship

"Cyffro yn Rhydaman gyda'r newidiadau mawr i wasanaethau'r llyfrgell. Dach chi wedi clywed am John Cale? Doedd Catrin Williams ddim wedi clywed amdano, o bosib oherwydd ei bod yn rhy ifanc. Cymro Cymraeg ydy John Cale wnaeth ffurfio un o bandiau roc enwoca'r chwedegau - y Velvet Underground. Gadawodd o'r band yn 1968 ond aeth ymlaen i gael gyrfa solo lwyddiannus iawn. Buodd Catrin yn sgwrsio am sut daeth hi i wybod am waith a bywyd John Cale efo Rhys Mwyn a Huw Dylan Owen. Dyma i chi flas ar y sgwrs..."

Rhaglen Aled Hughes - Y Gog

y Gog - the cuckoo
wedi ei fodrwyo - ringed
saethu - to shoot
bwa saeth - bow and arrow
crwyn - skins
mudo - to migrate
ceiliogod - male birds
maeth - nutriment
diflannu - to disappear
Yr Iseldiroedd - The Netherlands

"Sgwrs am John Cale oedd honna ar raglen Rhys Mwyn. Wel, mae'r gwanwyn wedi cyrraedd, yn swyddogol beth bynnag, a chyn bo hir mi fydd y gog i'w chlywed yn canu yng nghefn gwlad Cymru. Ond mae'n rhaid i chi fod yn lwcus i'w chlywed gan ei bod yn gadael Cymru cyn i'r haf gyrraedd. Ond i le mae hi'n mynd wedyn? Gaethon ni'r ateb ar raglen Aled Hughes gan Kelvin Jones..."

 

Bore Cothi - Y Cyhydnos

egluro - to explain
cyhydnos - Equinox
cyfartal - equal
wedi ei fathu - coined ( a phrase)
arwydd y sidydd - Zodiac sign
addunedau - resolutions
para - to last
gadael iddo lithro - let it slip
cynhesu - to warm
hudolus - magical

"...o Gymru fach i'r Congo pell - taith a hanner i'r gog ynde? Sôn am y Gwanwyn - digwyddodd cyhydnos y gwanwyn wythnos diwetha. Be yn union ydy'r cyhydnos felly? Eiry Palfry fuodd yn egluro wrth Shan Cothi ddydd Mawrth..."


Rhaglen Geraint Lloyd - Sied Dafydd Morgan

yn dwym - warm
oergell - fridge
cysurus - comforting
cofnodion - minutes
Talacharn - Laugharne
creadigol - creative
uwchben - above
coedwig - forest
cronfa ddwr - reservoir
yn ôl pob sôn - according to some

"O diar, ydy hyn yn golygu bod rhaid mynd ar ddeiet adeg y cyhydnos yn ogystal ac ar dydd Calan? Be am y wyau Pasg? Diim gobaith! Bob mis mae Geraint Lloyd yn cael sgwrs ar ei raglen gyda pherchennog sied arbennig. Mis yma aeth Geraint i ymweld ? sied Dafydd Morgan o Dregaron... "

 

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Buddugoliaeth i Gymru yn Tsieina

Nesaf

T卯m Cenedlaethol Swydd Efrog