Rownd 1, rhaglen 7, 9 Mehefin 2013: Neuadd Ffostrasol
Ìý
Heno oedd ymweliad cyntaf Y Talwrn erioed â Neuadd Ffostrasol.
Ìý
O leia dyna ddwedodd aelod o bwyllgor y neuadd wrtha’i funudau cyn cychwyn ricordio. Ac fe gyhoeddais hynny i’r dorf frwd a lenwai’r neuadd yn gyfforddus.
Ìý
Ond, yn ôl y modd yr oedd gwraig un o dalyrnwyr mwya' profiadol y parthau hyn yn ysgwyd ei phen, mae’n bosib nad gwir y gair!
Ìý
Ta waeth am hynny, un o dimau mwya’ profiadol y gyfres, sef Crannog, oedd yn feistri corn heno.
Ìý
Nid pob tîm fyddai wedi llwyddo i oroesi’r golled a gawsant bedair blynedd yn ôl pan fu farw un o’u haelodau mwya’ disglair, ac un o ddynion mawr y Gymru Gymraeg, sef Dic Jones.
Ìý
Roedd Dic yn dalyrnwr dansierus, yn gystadleuol wrth reddf, ac yn brawf digamsyniol nad cyfres i brentisiaid yn unig mo’r Talwrn.
Ìý
Ac roedd Cymro mawr arall yn destun i heno, sef y Dr Meredydd Evans, cywydd deg-marc y byddai Dic ei hun wedi bod yn browd ohono.
Ìý
Roedd awdur y cywydd hwnnw, Idris Reynolds, wedi gweithio cywydd arall ar gyfer yr ornest hefyd.
Ìý
Gwaetha’r modd, at dasg y gerdd rydd neu gerdd mewn mydr ac odl y gweithiodd e’r ail gywydd hwn, a hynny ar y testun ‘Ysgol’:
Ìý
(Y model Scandinafaidd o Ysgol y Goedwig lle dysgir y plant yn yr awyr iach)
Yn y coed ' sdim drws yn cau
Na welydd i feddyliau
Mewn ysgol a leolwyd
Hwnt i gloriau llyfrau llwyd,
A chae o weld o'i chylch hi
Sy' heddiw'n gampws iddi.
Un ddôl o stafelloedd yw,
Un goedwig o ddysg ydyw.
Mae sgrifen yn amgenach
Ar bedwar mur awyr iach
Ac ar lwyfan y canu
Y sgwlyn yw'r deryn du.
Mae i'r gwersi storïwr,
Gyda'i chwedlau gorau gŵr,
A rhamant chwedel felen
Ddaw â lliw i dirwedd llen.
O gainc i gainc deffro gwig
A wna Gwydion y Goedwig.
Ìý
CrannogÌý
Ìý
Cafodd y Meuryn a’r Prifardd o Frynhoffnant sgwrs ddiddorol iawn cyn yr ornest, a minne’n gorfod esbonio nad oeddwn i’n derbyn cerdd mewn mesur caeth (fel cywydd Idris) mewn cystadleuaeth a oedd yn nodi’n benodol fod angen naill ai cerdd rydd neu gerdd mewn mydr ac odl.
Ìý
A bu Idris yn tynnu coes y Meuryn gan ei atgoffa o ym 2009!
Ìý
Ond fe ddwedodd e hefyd: ‘Ti yw’r Meuryn!’ ÌýAc, i’r Meuryn hwn, beth bynnag, nid cerdd mewn mydr ac odl yw cerdd yn y mesurau caeth.
Ìý
Mae cerdd mewn mydr ac odl yn cynnwys mydr sydd yn guriad rheolaidd o fewn llinell, a thros uned o linellau e.e.
ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý ‘Mae DAIL y COED yn YSTRad FFLUR’ (sillaf 1 yn wan, sillaf 2 yn gryf; 3 yn wan, 4 yn gryf ayyb).
Ìý
Mae hawl, wrth gwrs, cynnwys cynghanedd mewn llinell fydr-ac-odl, e.e.
ÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌýÌý ‘Mae DAIL y COED am ADael CÂN’.
Ìý
Ond afreolaidd drwyddi draw yw patrymau curiadau’r mesurau caeth. Discuss!
Ìý
Cafwyd sawl cynnig ychwanegol gan Crannog, ond doedd y ddau dîm arall, sef Talybont a Tanau Tawe (ie, tanau, nid tannau!) heb fod yn segur chwaith.
Ìý
Hoffais i ergyd y pennill hwn o gyngor i gynghorydd:
Ìý
Os wyt yn annibynnol,
Ag egwyddorion dethol,
Dilynna nico dros y dŵr,
Ti’n siŵr o gael dy ethol.
Ìý
Talybont
Ìý
Tra bod un o’r englynion ychwanegol i ‘Cystadleuaeth’ yn trin y testun gosod mewn modd annisgwyl a thrawiadol:
Ìý
Dros ŵr a’i iachawdwriaeth – y diafol
a’r dwyfol fyn gecraeth.
Ni fusgrell; er gwell, er gwaeth,
glynwn wrth Groes Rhagluniaeth.
Ìý
Tanau Tawe
Ìý
A dyna gynnig dehongliad newydd i ni ar y ‘tanau’ yn eu henw!
Ìý
I glywed rhaglen ddiweddaraf y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý
- Ìý