Main content

Man Utd v Chelsea

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Gyda Manchester City yn cipio uwch gynghrair Lloegr ac yn sefyll pennau ag ysgwyddau yn uwch na neb arall, mae’n bwysig i Manchester United lwyddo i ennill yn ffeinal Cwpan Lloegr yfory.

Tydi gorffen yn ail yn yr uwch gynghrair ddim yn opsiwn; doedd gorffen yn ail i Manchester City ddim yn un o’u blaenoriaethau chwaith; a tydi gorffen y tymor heb wobr chwaith ddim yn y sgript.

Dod i Old Traford i ennill tlysau oedd bwriad Jose Mourinho, ac , er waethaf beirniadaeth y cefnogwyr fod pêl droed y tîm yn ddiflas ( fe ddylent geisio dilyn Everton!!!) fe all eu barn am ansawdd chwarae United am y ddod yn un hollol wahanol yfory os daw buddugoliaeth i'w tîm.

Ennill yn erbyn Chelsea, prynu un neu ddau o chwaraewyr creadigol yn yr haf, a gobaith newydd am ddyfodol newydd i fis Awst ymlaen.

Daw buddugoliaeth a chynnig arall hefyd, sef cyfle i wynebu Manchester City yn Nharian y Gynuned ( Community Shield) cyn cychwyn y tymor newydd. Ern nad yw hon yn rhyw gêm sydd yn tynnu sylw pawb, fe ddylai'r ddarbi yma ar faes Wembley, a gem arall rhwng timau Pep Guardiola a Mourinho rhoi arwydd clir o'r hyn y gellir ei ddisgwyl yn y dyfodol.

Ond wrth gwrs rhaid curo Chelsea gyntaf.

Gyda Romanu Lokaku heb chwarae ers dechrau fis Ebrill, Alexis Sanchez yn anwadal ei berfformiadau a Paul Pogba yn anghyson, fe fyddai Chelsea yn teimlo’n weddol gyfforddus eu hunain o godi’r gwpan.

Gyda Antonio Conte yn edrych fel petai ar fin ymadael a Stamford Bridge, fe allai hyn ysbarduno Chelsea i ennill rhywbeth ar ei gyfer cyn ei ymadawiad, ac os na chaiff Pogba y rhyddid i fynegi ei hun, a gorfod dilyn patrwm disgybledig Mourinho, yna, crys glas amdani bnawn fory!

Gem ddiddorol, os nad cyffrous efallai?

Gall popeth yn dibynnu ar y math o arddull y bydd United a Mourinho yn ei fabwysiadu - os un a fydd yn ddiflas a gweithredol, yna cyfle i Chelsea fynegi eu hunain. Ar y llaw arall os bydd United yn codi tempo, a’r chwaraewyr yn cael mwy o gyfle i fod yn greadigol, yna hwyrach fydd y gêm ddarbi yna yn erbyn Guardiola a'i griw yn cael ei chynnal fis Awst wedi'r cwbl.

Mwy o negeseuon

Blaenorol