Main content

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr: Mai 6ed - 11eg 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr


Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Rhaglen Aled Hughes - Bwyta a lliwiau

denu - to attract
anhygoel - incredible
llwglyd - hungry
yn dueddol o archebu - tend to order
amgylchedd - environment
yn hollol - exactly
pa mor ddylanwadol - how influencial
yn y groth - in the womb
ymchwiliadau - research
merched beichiog - pregnant women

Ydy gweld y lliw coch yn gwneud i chi fod eisiau mwy o fwyd, neu ydy'r lliw glas yn gwneud i chi fod eisiau llai o fwyd? Yn ôl rhai seicolecwyr dyna ddylai ddigwydd. Cafodd Aled Hughes sgwrs efo’r seicolegydd Nia Williams fore Mawrth a gofyn beth oedd ei barn hi am hyn...

Rhaglen Geraint Lloyd - Mark Williams

pencampwriaeth y byd - world championship
profiad gwefreiddiol - thrilling experience
rownd derfynol - final round
y nod - the aim
yn olynol - succesive
yr awyrgylch - the atmosphere
edmygu - admire
dycnwch - fortitude
rownd rhagbrofol ola - final qualifying round
difrifol wael - seriously ill

Felly os dach chi ar ddeiet - chwiliwch am liw glas bob tro! Doedd dim angen gwers seicoleg ar Marc Williams wrth iddo fo ennill pencampwriath snwcer y byd. Roedd o'n bell ar y blaen ar un adeg, ond daeth John Higgins yn ôl yn agos iawn ato yn y diwedd. Ond dal yn gryf wnaeth Marc i ennill y ffram olaf. Roedd Gareth Blainey yn Y Crucible yn Sheffield ar ran Radio Cymru a dyma fo'n sôn wrth Geriant Lloyd am ffeinal anhygoel y bencampwriaeth...

Rhaglen Ifan - Sioe Nefyn

uchafbwynt - highlight
tyddyn - smallholding
llanast - mess
ben lawr - upside down
dianc - to escape
cneifio - sheering
maharan - a ram
baglu - to trip
chwythu - blowing
amaethyddwr - farmer

Wel llongyfarchiadau i Marc Williams ynde am ennill yn un o gêmau mwya cyffrous pencampwriaeth snwcer y byd. Cystadleuaethau tipyn bach yn wahanol oedd yn Sioe Nefyn ar ddydd Llun Gwyl y Banc - defaid, ceffylau a gwartheg yn bennaf. Ond sut fath o ffermwr ydy Llywydd Y Sioe, Dilwyn Morgan? Dyma i chi flas ar sgwrs rhyngddo fo ag Ifan Evans yn ystod y sioe...

Rhaglen Aled Hughes - Symud i Lydaw

Llydaw - Brittany
drwy gydol - throughout
cyfarwydd - familiar
Rhydychen - Oxford
yn hidio dam - doesn't give a damn
tynfa - an attraction
dewrion - the brave ones
ymwybodol - aware
gwrthod yn llwyr - to refuse totally
antur - adventure

Dw i'n siwr bod yna lawer iawn o ffermwyr gwell na Dilwyn yn Sioe Nefyn, ond chwarae teg iddo fo am drio ynde? Mae Aneurin Karadog yn un o feirdd mwya enwog Cymru. Cafodd ei fagu yng Nghymru ond mae ei fam yn dod o Lydaw ac mae o'n rhugl mewn Llydaweg a Chymraeg wrth gwrs. Mae o wedi penderfynu mynd i fyw i Lydaw am flwyddyn er mwyn i'w blant gael blas ar fywyd a iaith Llydaw. Ond be sy gan Laura ei wraig i ddweud am hyn? Gaethon ni wybod ar raglen Aled Hughes...

Sgin ti Lyfr i Mi? - Hoff lyfr

awduron - authors
o dan yr wyneb - under the skin
paun - peacock
di-nod - insignificant
y dynion llwyda - the greyest men
urddas - dignity
syfrdanol - stunning
cysur - comfort
bywyd beunyddiol - daily life
y tywyllwch - the darkness

Gobeithio bydd Aneurin a'r teulu yn mwynhau eu hamser yn Llydaw ond yn dod yn ôl i Gymru yn fuan! Oes gennych chi hoff lyfr? Ar y rhaglen Sgin ti Lyfr i Mi? buodd Sioned Wiliam, Pennaeth Rhaglenni Comedi Radio 4, ond sydd hefyd yn nofelydd, yn sôn am ei hoff lyfr hi efo Catrin Beard...

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Dyfodol Abertawe

Nesaf

Man Utd v Chelsea