Main content

Edrych ymlaen at yr ail brawf - blog Llewod Jonathan Davies

Jonathan Davies

Mae hi ‘di bod yn wythnos dda - ennill yn y prawf cynta a’r gêm yn erbyn y Melbourne Rebels. Ar ôl colli yn erbyn y Brumbies, ro’dd y teimlad yn y gwesty bach yn isel, ond ers dod ‘ma ar ôl ennill dydd Sadwrn, mae’r bois wedi bod on the bounce fel ma’ nhw’n weud. Mae real edge wedi bod i ni a fi’n meddwl bod y bois wedi troi e lan ddydd Mawrth drwy chware gem gorfforol iawn.

Roedd cyflwyniad y crysau nos Wener yn arbennig ‘da Sir Ian McGeechan yn cael sgwrs ‘da ni, a wy’n meddwl bydde pawb ‘di bod yn barod i chware yn syth ar ôl 'ny!

Roedd gadael y cyfarfod tîm a gweld yr holl gefnogwyr wrth y bws yn deimlad arbennig. Wy’n meddwl taw hwnna yw un o’r rhannau gorau pan chi’n chwarae rygbi rhyngwladol – pan chi’n gweld yr holl gefnogwyr sy’ ‘di dod mas i gwrdd â chi pan chi’n cyrraedd. A rwy’n meddwl bydd mwy a mwy o bobl yn dod i’n gweld ni yn yr ail a’r trydydd prawf, felly bydd e hyd yn oed yn well!

Gareth Charles a Jonathan Davies

Roedd hi’n gêm grêt nos Sadwrn, yr awyrgylch a’r teimlad o achlysur yn arbennig. Roedd rhedeg mas yn wych – dyna pryd wnaeth e hitio fi fel wal frics.Ro'dd rhywbeth yn digwydd o’r funud gyntaf nes diwedd y gêm. Fel o’n i’n codi lan ar ôl y collision ‘da Christian Lealiifano, allen i weld bod rhywbeth ddim yn iawn ‘da fe, do’dd e ddim yn symud, felly dwedais i wrth y ref bod e’n stryglan. Daeth y staff meddygol ‘mlan yn syth ac ro’n nhw’n arbennig. Ti ddim isie gweld rhywun yn cael bump fel ‘na a rwy’n falch iawn bod e ‘di gwella’n llawn.

Nes i joio’r bartneriaeth rhwng Drico (Brian O’Driscoll) a fi – dyna’r tro cynta’ i ni chwarae gêm gyfan ‘da’n gilydd a wy’n meddwl bod ni'n deall ein gilydd mwy a mwy.

Swper am ddim!

Ry’n ni’n Melbourne yr wythnos yma a ges i ddiwrnod bant ddoe. Es i am dro ac fe wnaeth Mike (Phillips) ein sbwylo ni – brynodd e fwyd i ni! Wel, fe gollodd e yn credit card roulette ond yn lwcus iddo fe doedd dim lot ohonom ni ‘na felly doedd e’m mor ddrud a ‘ny. Dyna beth y’n i’n ‘neud – os y’n ni’n mynd mas am fwyd, ry’n ni gyd yn rhoi ein cardiau mewn a’r cerdyn olaf sy’n cael ei dynnu mas, dyna’r person sy’n talu. Tro Mike oedd hi dydd Mercher!

Rwy’n rhannu ‘stafell ‘da Drico ‘to felly wy’n trial bod mor daclus a phosib a dyw e heb gwyno am chwyrnu na dim, felly wy’n meddwl mod i’n gwneud yn ‘itha da ar y foment!Mae’n amser anodd i’r bois fethodd mas y tro hyn, yn arbennig i’r rhai chwaraeodd yn y prawf cynta’, felly mae rhaid cofio sut ma’ nhw’n teimlo.

Beth sy’n grêt yw bod y bois sydd heb gael eu dewis, mae eu agwedd nhw yn training wedi bod yn arbennig, a dy’n ni ddim isie splitio'r sgwad mewn i’r tîm prawf a’r gweddill.

Dim ond un gêm i ffwrdd

Ni yn hwn ‘da’n gilydd, ac y’n ni gyd wedi gweithio’n galed iawn i gael e. Ry’n ni'n gallu gwneud rhywbeth arbennig iawn, a ni isie gwneud e fel un, a ‘na’r peth mwya’ pwysig i ni.

Mae pawb yn gwybod erbyn hyn taw dim ond un gêm i ffwrdd o ennill y gyfres y’n ni, a dy’n ni ddim isie aros nes y prawf olaf i ‘neud 'ny. Ni isie gorffen y job. Ry’n ni gyd wedi gwneud yn arbennig o dda, ac mae cyfle dydd Sadwrn i fod yn rhan o rywbeth arbennig iawn.

Ry’n ni, y bois Cymraeg, yn gyfarwydd iawn 'da’r math 'ma o bwyse. Mae’r daith yn gwella ac yn gwella i fi yn bersonol, wy’n meddwl ein bod ni yn ein seithfed wythnos erbyn hyn ac mae e wedi hedfan heibio.

Ni’n ceisio siarad ‘da pobl nôl gartre’ ac ry’n ni’n clywed bod hi’n wyllt yna ‘fyd, felly fi’n falch iawn o fod yma ac yn rhan ohono.

Mae fy rhieni a’n chwaer mas ‘ma, ac o'n i ‘da nhw dydd Sul pan o'dd diwrnod bant ‘da fi, ac roedd hynny’n gret. Roedd e reit ddoniol ar un pwynt pan gerddon ni nôl at y bar a na’th grŵp o ffans ddechre clapio – roedd Dad yn meddwl taw iddo fe oedd e wy’n meddwl! Roedd e’n eitha swreal ond mae’n grêt gweld y gefnogaeth a wy’n falch bod y teulu yma i brofi’r peth ‘fyd.

Gobeithio galla’i dalu nhw nôl a’u gneud nhw’n browd dydd Sadwrn – wy’n edrych ‘mlaen yn fawr iawn.

(Roedd Jonathan Davies yn sgwrsio yn arbennig ar gyfer gwefan Ö÷²¥´óÐã Radio Cymru gyda Gareth Charles, gohebydd rygbi Ö÷²¥´óÐã Cymru ar daith y Llewod)


Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 25 Mehefin 2013

Nesaf

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 10