Main content

Y Talwrn: Y Gorau o'r Gweddill 10

Ceri Wyn Jones

Meuryn y Talwrn

Ail raglen rownd yr 8 olaf, 30 Mehefin 2013: Neuadd Llanystumdwy

Os oedd un o drigolion amlyca Llanystumdwy yn aelod o dîm buddugol yr wythnos dwetha (Twm Morys o’r Tywysogion), a hynny yn y neuadd a agorwyd yn wreiddiol gan fab enwoca’r pentre hyfryd hwnnw (Lloyd George o’r Rhyddfrydwyr), wel, roedd hawl-i-fawl lleol arall gan Y Talwrn heno.

Yn bresennol oedd gweddw’r dramodydd Wil Sam.

Bûm yn cyfeirio at ffraethineb ac unigoliaeth W. S. Jones sawl gwaith yn ystod y noson, a minnau heb wybod, gwaetha’r modd, bod Mrs Jones yn bresennol. Ond beth sy’n braf am dalyrna yw’r cyfle am baned/ddisgled a sgwrs ar ôl y cystadlu a’r tafoli, ac fe’m cyflwynwyd iddi. A dyna gyfle i mi esbonio taw Wil Sam oedd gen i’n fy meddwl pan osodais dasg gynta’r noson, sef cwpled yn cynnwys y gair ‘plu’. Wedi’r cwbwl, yn nhafarn y Plu, lai na chanllath o’r neuadd, y bu i mi gyfarfod Wil Sam am y tro cyntaf.

Y Tir Mawr a Chriw’r Ship oedd wrthi heno, ac, yn ôl eu harfer, roedd gan y Tir Mawr nifer o gynigion ar bob tasg, ac ymysg y cwpledi nas dewisiwyd i’r darllediad oedd hwn:

(Plu yr Undeb Rygbi)

Brenhinblu’n diddymu ’ddaeth
Yn blu i bobol lywaeth.

Y Tir Mawr

Sgersli bilîf!

Bydd talyrnwyr profiadol yn gwybod nad cymeradwy gerbron y Meuryn yw cwpledi sydd angen teitlau i’w hesbonio! Ond mae e’n gwpled gogleisiol a choeth.

Ac, am wn i, na fyddai gwaith Gareth Jones, yr hwn a gyfenwir Jôs, wrth fodd calon Wil Sam ei hun, gan gynnwys y limrig hwn yn cynnwys y llinell ‘Nid ydwyf, wrth reddf, yn frwdfrydig’:

ÌýNid ydwyf, wrth reddf, yn frwdfrydig
I fynd i ymrafael â Buddug
Mi fyddwn i'n closio
At Buddug, a'i mwytho
'sa hi ond yn shefio rhyw 'chydig.

Y Tir Mawr

Heb sôn am hwn gan Arwel ‘Pod’ Roberts:

Nid ydwyf, wrth reddf, yn frwdfrydig
Ynghylch rhyw hen nonsens fel limrig
Pan fo hir-a-thoddeidiau
Yn deilyngach o’m doniau,
Ond am dâl, rydw i’n fodlon rhoi cynnig.

Criw’r Ship

Mae’r drydargerdd wedi profi’n dasg boblogaidd gyda’r beirdd, ac mae Myrddin ap Dafydd wedi dyfeisio ei fesur difyr ei hun i gyfateb i’r dasg, fel y gwelwyd yn y neges hon i hyrwyddo ymgyrch:

Ymgyrch yr Iwro-sgeptig:

‘Rhag eu goslef gyntefig – a’u hiwros
Cymharol bathetig,
Eu rheolau cythreulig – a’u gwinoedd
A’u gwenwyn pasgedig:
Gwna ni’n ynysig.’

Y Tir Mawr

Prawf o safon yr ornest go-gyn-derfynol hon oedd y ffaith nad y ddau gywydd isod a ddewiswyd i gynrychioli’r ddau dîm yn eu tro.

Fel yr esboniais yn y neuadd, un o’r rhesymau am hyn yw nad oes un o’r ddau wedi canu cywydd mawl fel y cyfryw. A chan taw am gywydd mawl yn benodol a ofynnwyd (a hwnnw i unrhyw gerbyd), roedd hyn yn gam gwag! Gareth Williams piau’r cynta’ a Nici Beech yr ail:

Cofio Billy Naden, un o’r faciwîs a arhosodd yn Llŷn

Wrth i’r injan chwibanu
Yr wyt swil a Lime Street sy’
Yn rhith, fel d’enw ar frest
A phoen wynebau’r ffenest;
Ond tyf yr hud, cwyd dy fron,
Ar rêl wen mae’r olwynion.
Y trên o flaen taranau
Gefn y nos i’th ysgafnhau,
A thaith hir ei grud i’th ddal
O’r gofid tua’r gofal;
Drwy’r Blits dihareb o Lŷn
Ara deg rwydai hogyn.

Tir Mawr

Doedd adyn ei dyddiadur,
A hi'n gyw, yn fawr o gur.
Ar boenus ond awchus daith
y gwibiai 'n gynt na gobaith
a rhamant, ar amrant braidd,
yn anniwall fenywaidd.

A hi'n iâr, pluodd ei nyth
i wylio dros wehelyth
denau ei cherbydau bach hi.
Bu'n gori ar geriach.

Wyau mwy brau na brwynen yn ei phig.
Druan o'i phen.

Criw’r Ship

I glywed rhaglen ddiweddaraf Y Talwrn a darllen a chlywed clipiau o'rÌýcerddi ddaeth i'r brigÌýewch iÌýwefanÌý

  • Ìý

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Blog Ar Y Marc - Cyd chwarae, gorau chwarae