Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - 26/01/2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Beti a'i Phobol - Marcus Robinson

gweinidog - minister
dirwest - temperence
arbenigwr - expert
Yr Arglwydd - The Lord
rheolwr gwerthiant - sales manager
llynges - navy
traddodiad - tradition
dethol - to select
ffydd - faith
er budd elusennau - for the benefit of charities

"Mae Marcus Robinson yn falch ei fod yn Gofi dre, yr enw am bobl sy'n dod o Gaernarfon. Mae o hefyd yn hoff iawn o win. Does yna ddim byd yn rhyfedd am hynny nac oes? Wel, ella bod yna, gan fod Marcus yn weinidog yn ardal Llanrug a Bethel ger Caernarfon. O le daeth y diddordeb yma mewn gwin, ac ydy hi'n iawn i weinidog fod mor hoff o'r stwff? Dyna ofynnodd Beti George i Marcus, a dyma oedd ei ateb... "

 

Rhaglen Dylan Jones - Dysgu Gwau

gwau - to knit
unigryw - unique
gollwng pwyth - to drop a stitch
engreifftiau - examples
naws Sgandinafaidd - a Scandinavian style
archebion di-ri - a host of orders
bwrw iddi - to get started
gweill - needles
gwlân - wool
rhesiad - a row

"Marcus Robinson yn fan'na, gweinidog o ardal Caernarfon sydd hefyd yn arbenigwr ar win, yn siarad ar Beti a'i Phobl wythnos diwetha. Oeddech chi'n gwybod bod gwau yn trendi unwaith eto? Un sydd wastad yn trio bod yn trendi ydy Dylan Jones, ac ar ei raglen ddydd Llun daeth Iona Rhys i’r stiwdio at Dylan i’w ddysgu o sut i wau. Ar y ffôn hefyd yr oedd Branwen Llywelyn sydd wedi dechrau clwb gwau yng Nghaerdydd. Felly dyma Dylan Jones a’i ‘knit one, pearl one’..."

 

Bore Cothi - Y Wenhwyseg

tafodiaeth - dialect
y cymoedd - the valleys
erthyglau diddorol - an interesting article
adfer y Wyddeleg - restoring the Irish language
cyngor - advice
tad-cu - taid
cystrawen - syntax
eang - widely used
colli tir - losing ground
bwrw glaw mân - raining gently

"Tybed fydd Dylan yn cyrraedd y stiwdio wythnos nesa yn gwisgo siwmper mae o wedi ei wau ei hun! Cawn weld ynde? Dach chi'n gwybod be ydy’r Wenhwyseg? Tafodiaith de ddwyrain Cymru ydy hi. Roedd hi'n arfer cael ei siarad o Abertawe yr holl ffordd i Went, ond ychydig iawn o bobl sy'n siarad y dafodiaeth yma erbyn hyn. Ar Bore Cothi ddydd Mercher buodd Norman Charles yn sôn mwy am y dafodiaith ddiddorol yma wrth Shan Cothi. Dyma Norman yn esbonio wrth Shân sut dechreuodd ei ddiddordeb yn y Wenhwyseg ..."

 

Caryl Parry Jones - Deuawdau

deuawdau - duets
cerddorol - musical
llwyfan - stage
cyfrifoldeb - responsibility
lan - i fyny
ffraethineb - wit
datblygu - to develop
dwyn ambell i linell - steal the odd line
cryfhau - to strengthen
ymateb - to respond

"Norman Charles oedd hwnna'n sôn am dafodiaith hyfryd y Wenhwyseg. Deuawdau a ‘double acts’ oedd yn cael sylw Caryl Parry Jones ar ei rhaglen ddydd Iau. Dau o’r gwesteion oedd y Brodyr Gregory sydd wedi perfformio fel deuawd poblogaidd yn canu ac yn gomedïwyr ers blynyddoedd. Cwestiwn Caryl i Paul ac Adrian Gregory oedd sut wnaethon nhw benderfynu pr'un oedd yr un difrifol (y staight man) a ph'run oedd yr un gwirion..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Rheolwr newydd i Abertawe

Nesaf

Cystadleuaeth newydd bosib i glybiau o Gymru