Main content

Cardiau i Reolwyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Mae arbrawf ar fin cael ei gynnal yn Awstralia ar sut i ymdopi gydag ymddygiad rheolwyr ar yr ystlys mewn gemau pêl droed.

Bydd cynghrair cenedlaethol Awstralia (yr A - League) ynghyd a chynghrair cenedlaethol y merched (W - League) yn treialu'r drefn o ddangos cardiau melyn a coch i ddyfarnwyr a swyddogion eraill yn ystod gemau.

Amcan yr arbrawf ydi gwella ymddygiad swyddogion a rheolwyr tuag at ddyfarnwyr yn ystod gemau.

Dywedodd pennaeth y ddwy gynghrair, Greg O’Rourke y byddai hyn hefyd yn gwella cyfathrebu gyda'r cefnogwyr, gan fod y rhybuddion ffurfiol a gweledol yma yn dod a chamymddwyn rheolwyr a swyddogion eraill yn fwy amlwg i lygaid y cefnogwyr.

Mae dyfarnwyr eisoes wedi defnyddio eu hawliau i benderfynu os yw rhai ymddygiadau yn haeddu rhybudd, neu yn arwain at anfon rheolwyr oddi ar ochr y cae.

Ond fe fydd y cam nesaf yma yn egluro'n well i bawb yr hyn sydd yn digwydd gan arwain, yn ôl yr amcan, at fagu gwell parch rhwng y rheolwyr a dyfarnwyr.

Maent yn gobeithio hefyd y bydd y negeseuon yma yn cael eu hefelychu ar draws pob lefel o bêl droed ac yn ei gwneud yn glir nad yw ymddygiad annerbyniol yn cael ei oddef.

Mae'r canllawiau sydd wedi cael eu hamlinellu gan Ffederasiwn Pêl Droed Awstralia yn dangos y gellir rhoi rhybudd geiriol am ddadlau yn barhaus, anghytuno, gwrthod cyd weithio a swyddogion y gêm, dod ar y cael neu adael y parth technegol.

Yna fe fydd cerdyn melyn yn cael ei ddangos os bydd yr agweddau uchod yn parhau neu yn gwaethygu, er enghraifft drwy gicio gwrthrychau ar ochr y cae, dangos ymddygiad sarcastig fel clapio mynnu fod cerdyn i'w ddangos i rywun o'r gwrthwynebwyr, parhau i grwydro allan o'r rhanbarth technegol neu gerdded i ranbarth ychwanegol y gwrthwynebwyr.

Yn olaf, ceir cerdyn coch am ymddwyn yn dreisgar, gan gynnwys ymddygiadau annerbyniol corfforol / ymosodol, defnyddio iaith annerbyniol / anweddus, dod ar y cae i ddadlau neu drwy dderbyn ail gerdyn melyn.

Mae'r fenter yma wedi derbyn sêl bendith IFAB (sef y Bwrdd Pêl Droed Ymgynghorol Rhyngwladol) fel rhan o'u menter i hybu Chwarae Teg (Fair Play) a bydd y canlyniad o dderbyn cardiau melyn neu goch yn efelychu’r gosb a gaiff chwaraewyr sef cael eu gwahardd o nifer benodol o gemau yn dilyn y troseddau.

Petai’r arbrawf yma yn llwyddiannus, bydd y drefn, o bosib, yn cael ei derbyn ar hyd a lled y byd

Beth felly fyddai’r goblygiadau i’ch tîm chi, ar ba beth bynnag lefel yr ydych yn cystadlu?

Da fyddai clywed eich ymateb.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Podlediad Hydref 22ain - 27ain 2017

Nesaf