Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyd Hydref 28ain - Tachwedd 3ydd 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Rhaglen Aled Hughes - Lloyd Macey

pleidlais y gwylwyr - the viewers' vote
llwyfan - stage
beirniaid - judges
cynulleidfa - audience
yn gyfangwbl - totally
dwli ar - really like
mam-gu - nain
mor gefnogol - so supportive
annog - to encourage
sylw - attention

"...sgwrs efo seren X-Factor - Lloyd Macey. Os nad dach chi'n gwylio'r rhaglen mae Lloyd, sy'n dod o'r Rhondda, wedi cyrraedd rowndiau byw y gystadleuaeth, pryd mae dau o'r criw yn gorfod gadael bob wythnos yn dilyn pleidlais y gwylwyr. Gaynor Davies oedd yn gofalu am raglen Aled Hughes ddydd Llun ac mi gafodd hi air efo Lloyd am ei brofiadau wrth gystadlu ar X-Factor..."

 

Rhaglen Gari Wyn - Waffles Tregroes

Yr Iseldiroedd - The Netherlands
arogl unigryw - an unique smell
cyfleu - to convey
toddi - melting
cwympo mewn - falling in
y rheswm penodol - the specific reason
dipyn mwy rhyfeddol - quite a bit
wedi hen sefydlu - well established
cyflogi - to employ
crwt ifanc - bachgen ifanc

"... mae na siaradwr Cymraeg arall - Rhydian Roberts wedi cyrraedd ffeinal X-Factor yn y gorffennol, a'r newyddion da ydy bod Lloyd Macey drwodd i'r rownd nesa. Cofiwch bleidleisio drosto fo er mwyn i ni gael siaradwr Cymraeg arall yn y ffeinal ynde? Mae Kees Huysmans yn dod o'r Iseldiroedd yn wreiddiol ond yn byw yn Llandysul erbyn hyn ac yn medru siarad Cymraeg yn wych. Ond mae o wedi dod ag ychydig o'r Iseldiroedd efo fo i Gymru - waffles. Mae o wedi dechrau cwmni sy'n gwerthu Waffles Tregroes. Cwestiwn cynta Gari Wyn i Kees oedd - beth yn union ydy waffle?..."

 

Dewch am Dro - John ac Alun

deuawd canu gwlad - country and western duet
yr arferiad oedd - what used to happen
ta waeth - any way
neud 'bath - gwneud rhywbeth
cyd-dynnu - to get along
llu o uchafbwyntiau - loads of highlights
personoliaethau - personalities
offeryn - instrument
distaw - silent
asio efo'i gilydd - to blend together

"Kees Huysmans yn wafflo yn fan'na ar raglen Gari Wyn. Mae Rhys Meirion yn mwynhau mynd o gwmpas Cymru yn ei raglen 'Dewch am Dro'. Yr wythnos yma roedd yn Nhudweiliog ym Mhen Llyn lle gafodd o sgwrs efo'r deuawd canu gwlad John ac Alun... "

 

Rhaglen Rhys Mwyn - Caneuon Mark Roberts

poblogaidd - popular
gan amla - more often than not
alaw - tune
yn ei chyfanrwydd - in its totality
cyfansoddi - to compose
cyfuniad - combination
y deg ucha - the top ten
mynnu - to insist
mor amlwg - so obvious
wastad - always

"John ac Alun yn fan'na yn esbonio be sy wedi eu gwneud nhw mor boblogaidd. Daeth y band Catatonia yn boblogaidd yn y nawdegau ac mi wnaeth un o'u caneuon, Mulder and Scully, gyrraedd rhif 3 yn y siartau Prydeinig yn 1998. Cafodd y gân hon, a nifer o ganeuon eraill y band, eu hysgrifennu gan Mark Roberts oedd yn dathlu ei benblwydd yn bumdeg oed wythnos diwetha. Ar raglen Rhys Mwyn buodd tri o artistiaid oedd yn arfer chwarae mewn bandiau efo Mark yn sôn am ei ganeuon o. Dyma Owen Powell o Catatonia, Dafydd Ieuan o Catatonia, The Earth, a’r Super Furry Animals, a Mark Kendall, drymiwr Y Cyrff, yn rhoi chydig o hanes y gân Mulder and Scully i ni ... "

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Cardiau i Reolwyr

Nesaf

Arwyddion ffyrdd i stadia pel-droed