Main content

Gemau allweddol i Gymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Dwy gêm allweddol mewn wythnos.

Cynhaliwyd y gyntaf nos Fawrth yng Nghasnewydd rhwng merched Cymru a Gogledd Iwerddon, gem a oedd yn bwysig i Gymru i’w hennill, os am gadw gobeithion o gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2021 yn fyw ac iach.

Ond, nid felly y bu hi, gan i'r Gwyddelod unioni’r sgôr o fewn eiliadau i ddiwedd y gêm, a gadael Cymru yn chwilio am fuddugoliaeth oddi cartref ym Melarws yn eu gem nesaf.

Mae’n edrych fel mai ras rhwng tri thîm fydd hi o fewn Gr诺p C (rhaid gorffen ar y brig neu yn yr ail safle os am gymhwyso ymhellach) - gyda Norwy, Cymru a Belarws yn ymladd am yr hawl i gymhwyso ymhellach. Felly, y gêm yna ym Melarws yn hollol allweddol efallai.

Nos Wener yn Stadiwm Dinas Caerdydd, fe fydd tîm dynion Cymru yn wynebu Azerbaijan, sydd ar waelod tabl y gr诺p heb ennill unrhyw gêm hyd yn hyn. Fodd bynnag, gyda Chymru wedi ennill ond un gêm a cholli dwy d’oes yna ddim lle i laesu dwylo.

Roedd gol Daniel James yn ddigon i sicrhau’r fuddugoliaeth yn eu gem gartref yn erbyn Slofacia, ond methwyd a manteisio ar gyfleoedd oddi cartref yn erbyn Croatia a Hwngari, gan wneud y dasg yn fwy anodd erbyn heddiw.

Er hyn, mae canlyniadau gemau a gynhaliwyd yn barod yn dangos fod Slofacia wedi curo Hwngari, a bod Hwngari yna wedi curo Croatia, ac felly mae’r gallu gan bob tîm o fewn y gr诺p i faglu ei gilydd a chreu cystadleuaeth glos.

Tra bydd Cymru yn wynebu Azerbaijan, bydd Slofacia yn wynebu Croatia, a dydd Llun fe welwn Croatia yn teithio i Azerbaijan, gyda Hwngari yn chwarae yn erbyn Slofacia .

Felly, rhaid sicrhau buddugoliaeth i Gymru ac aros i weld a fydd y gemau eraill yn agor sefyllfa’r gr诺p yn fwy ffafriol i Gymru. Ond, heb fuddugoliaeth bydd pethau yn llawer, llawer mwy anodd.

Pob lwc i Gymru!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf