Main content

Chwilio am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Hanner ffordd drwy’r tymor, a thra mae Uwch Gynghrair Dafabet Cymru’n cychwyn ar ei rhaniad o chwech uchaf a’r chwech isaf, cawn droi ein sylw at edrych pwy sydd yn debygol o godi i ymuno a’r gynghrair yma a phwy sydd yn edrych yn betrusgar dros eu hysgwyddau gan ofni'r gwaethaf.

Y newydd ddyfodiad, Hwlffordd,  sydd ar waelod yr Uwch Gynghrair ar hyn o bryd,  dau bwynt oddi tan y Rhyl, sydd eu hunain bum pwynt o'r safle diogelwch ble y ceir Port Talbot. Ar hyn o bryd mae’n anodd gweld y byddai unrhyw newid i'r drefn yma erbyn diwedd y tymor, yn enwedig o ystyried mai dim ond tair gem mae'r Rhyl wedi eu hennill, a phump gan Hwlffordd. 

Timau o Gynghrair Undebol Huws-Gray Gogledd Cymru, a Chynghrair Pêl Droed Cymru (rhanbarth y De) fydd yn chwilio am ddyrchafiad i gymryd lle y timau sy'n colli eu aelodaeth o'r uwch gynghrair. Ar hyn o bryd, Coleg Metropolitan Caerdydd sydd ar y brig yn y De, pedwar pwynt o flaen Goytre yn yr ail safle, a’r Barri yn y trydydd safle (y ddau gyda 28 o bwyntiau) .

Mae’r ddarpariaeth ar gyfer pêl droed o fewn y Coleg eisoes wedi cael ei gydnabod fel y trydydd orau ymysg prifysgolion Prydain, y tu ôl i Goleg Hartpury a phrifysgol Caerfaddon. Ond yn ôl at eu campau ar y cae. Daeth y myfyrwyr yn agos iawn y llynedd at ddyrchafiad i uwch gynghrair Cymru, o dan reolaeth yr Athro Robyn Jones, sydd ei hun yn gwybod beth ydi rhediad llwyddiannus yn ei ddyddiau  gyda thîm Caernarfon yng nghwpan Lloegr yn ôl yn yr wythdegau, ac yna gyda Sutton United wrth guro Coventry City yn un o syndod mwyaf Cwpan Lloegr yn ôl yn 1989.

Tipyn o gamp ydi cynnal llwyddiant gyda thîm o fyfyrwyr a hynny’n bennaf gan fod newidiadau yn y chwaraewyr sydd ar gael, oherwydd natur mynd a dod myfyrwyr Coleg yn flynyddol. Yn y cyfamser, mae buddugoliaeth ganol wythnos o ddwy gol i ddim yn Afan Lido yng Nghwpan Cymru yn gweld y Coleg yn croesawu Cei Conna i Gyncoed yn rownd yr wyth olaf.

Tipyn o her felly, a rhyw fath o arwydd pa mor dda ydi’r tîm yn erbyn tîm sydd yn y chwech uchaf yn uwch gynghrair Dafabet Cymru. Yn y gogledd, Caernarfon sydd ar y blaen, dau bwynt o flaen Derwyddon Cefn yn yr ail safle ac yna Treffynnon yn dilyn, dau bwynt o dan y Derwyddon yn y trydydd safle.

Y Sadwrn yma bydd Caernarfon yn chwilio am ymestyn eu mantais ar y brig gyda thaith i Fwcle, bydd Y Derwyddon adref i Hotspur Caergybi a Threffynnon oddi cartref yn Rhaeadr.  Yn y De , bydd Coleg Caerdydd adref yng Nghyncoed yn erbyn Pen-y-bont, y Barri adref i Don Pentref tra bydd Goetre yn chwarae eu gem ym mhedwaredd  rownd  Cwpan Cymru yn erbyn Cwmbrân Celtic, a gafodd ei gohirio oherwydd y tywydd y Sadwrn diwethaf.

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 09/02/2016

Nesaf

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 16/02/2016