Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 16/02/2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

 

Rhaglen Dewi Llwyd - Ffion Dafis

llwyfan - stage
diodde o nerfau - suffering from nerves
profiadol - experienced
difrifol - serious
noson lawog - a rainy night
gohirio - to postpone
tamaid o gerddoriaeth - a piece of music
diflannodd - disappeared
yr hen ymennydd gwirion - the silly old brain
brawychus - frightening

"...sgwrs rhwng Dewi Llwyd a'r actores Ffion Dafis. Dw i'n siwr eich bod wedi gweld Ffion yn actio ar Rownd a Rownd. Hi ydy Alwena yn y gyfres. Ar hyn o bryd mae Ffion i'w gweld yn y ddrama Byw Celwydd sydd ar S4C am naw o'r gloch bob nos Sul. Mae Ffion wedi bod yn perfformio mewn sawl drama lwyfan yn ogystal dros y blynyddoedd. Gan ei bod hi mor brofiadol, fasai hi ddim yn dioddef o nerfau, na fasai? Wel, dyma oedd ganddi hi i'w ddweud wrth Dewi ddydd Sul...."

 

Dan Yr Wyneb - Gareth Pritchard

pori ar y we (idiom) - surfing the web
Dirprwy Brif Gwnstabl - Deputy Chief Constable
gweladwy - visible
camdrin plant - child abuse
strwythur plismona cymunedol - community policing structure
trosolwg - overview
blaenoriaethau - priorities
cyfathrebu - to communicate
ymchwiliadau difrifol - serious investigations
goruchwiliaeth - supervision

"Fasai chi byth yn meddwl bod Ffion Dafis yn nerfus cyn perfformio, mae hi wastad yn edrych mor broffesiynol, yntydy? Lle dach chi'n teimlo mwya saff, yn cerdded y stryd gyda'r nos, neu yn pori ar y we ar eich cyfrifiadur? Mae plismyn y dyddiau hyn yn gorfod cael y balans yn iawn rhwng gwneud yn ddau le yn fwy diogel. Sut mae gwneud hynny? Gareth Pritchard, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru fuodd yn dweud wrth Dylan Iorwerth ar ei raglen nos Lun sut mae Heddlu'r Gogledd yn mynd o'i chwmpas hi....."

 

Bore Cothi - Tracy Jones

ar y lôn - on the road
siop gymunedol - community shop
cymuned glòs - a tightly-knit community
datblygu - to develop
anffurfiol - informal
cynnig cymorth - to offer help
ysbrydoliaeth - inspiration
yn falch iawn - very proud
ymddiheuro - to apologise
personoliaeth hyfryd - a lovely personality

"Gareth Pritchard, Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn fan'na ar Dan Yr Wyneb yn sôn am beryglon y we. Un lle y dylech chi deimlo'n ddiogel ynddo fo ydy eglwys. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo ficer Eglwys Sant Mechell, Llanfechell Ynys Môn ddydd Mawrth. Roedd rhaglen Bore Cothi allan ar y lôn ac yn dod yn fyw o Siop Gymunedol Llanfechell. Mae Tracy Jones yn ficer yn yr ardal ers tair blynedd ac roedd hi'n nyrs yn ysbyty Gwynedd cyn hynny. Dyma i chi flas ar ei sgwrs hi efo Shan. .."

 

Rhaglen Dylan Jones - Max Boyce

gêm ryngwladol - international games
ysbryd trydanol - an electric atmosphere(lit:spirit)
y gogs - North Walians
wedi gwerthu mas - sold out
rhagor o nosweithiau - extra nights
gwaith paratoi - preparation work
cyfrinach - secret
yr hen ffefrynau - the old favourites
cwrdda lan - meeting up
erfyn mwy - expecting more

"Tracy Jones yn fan'na wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ar gyrsiau Prifysgol Bangor. Da ynde? Nid Shan Cothi yw'r unig un sydd ar daith. Mae Max Boyce yn ôl yn perfformio ar hyd a lled Cymru. Ychydig dros flwyddyn yn ôl roedd Max yn yr ysbyty yn cael triniaeth fawr ar y galon, ond erbyn hyn mae o'n perfformio jest mewn pryd i Bencampwriaeth y Chwe Gwlad. Yn ôl Max roedd noson gyntaf ei daith, yn y Rhyl wythnos diwethaf yn un o’r nosweithiau gorau ers talwm. Dyma fo'n son am y noson wrth Dylan Jones ddydd Iau..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Chwilio am ddyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru

Nesaf

Mario Balotelli