Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Ebrill 22ain - 28ain

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Merched Y Wawr - Gweithgareddau

y mudiad - the organisation
gweithgareddau - activities
amrywiaeth - a variety
trefnu blodau - flower arranging
taith ddirgel - mystery trips
mynd ar wibdeithiau - going on excursions
ymgyrchu - campaigning
brwydro - fighting
gwneud gwahaniaeth - making a difference
hybu'r iaith - boosting the language

"...cyfres newydd ar fudiad Merched y Wawr. Tair rhaglen sydd yn y gyfres ac mae'n gyfle i edrych yn ôl ar hanes Merched y Wawr gan ei fod yn dathlu penblwydd arbennig eleni yn hanner cant oed.
Roedd y rhaglen gyntaf yn mynd â ni'n ôl i pan ddechreuodd y mudiad yn y Parc, ger Y Bala yn 1967. Dyma i chi be oedd gan rai o aelodau'r mudiad i'w ddweud wrth ateb y cwestiwn ' Beth dach chi'n ei wneud yng nghyfarfodydd Merched y Wawr?'... "


Rhys Mwyn - Greg Muse

torri'r gyfraith - breaking the law
arwydd gweledol - a visual sign
adweithio - reacting
hyd at syrffed - until boredom set in
is-ymwybod - subconcious
murluniau - murals
gwrthdaro gwleidyddol - political conflict
teithiau tywys - guided tours
anfoesol - immoral
delwedd - image

"...ew, tydy Merched y Wawr yn bobl brysur, a dim sôn am jam yn unman! Nos Lun buodd Rhys Mwyn yn sgwrsio am gelf stryd efo’i westai Grug Muse, sydd yn dod o Ddyffryn Nantlle yn wreiddiol ond sydd yn byw yn Cape Cod, Massachusetts ar hyn o bryd. Mae Grug yn cadw blog ar gelf stryd a dyma i chi flas ar y sgwrs efo Rhys lle mae'n nhw'n rhoi sylw i graffiti..."


Aled Hughes - Byw yn Doha

pensaerniaeth - archutecture
y broses farchnata - the marketing process
benthyciadau - loans
meddwl yn ddwys - thinking intensley
pencampwriaeth - championship
anialwch - desert
ysblennydd - splendid
perthnasol - relevant
gwaredu - to get rid of
trafodaeth - debate

Tasech chi eisiau darllen blog Grug ar Gelf Stryd ewch i https://elangrug.wordpress.com. Mi glywon ni ar y newyddion wythnos diwetha bydd hi'n bosib hedfan o Gaerdydd i Doha, prif ddinas Quatar, yn fuan. Pa fath o le ydy Doha tybed? Dyna ofynnodd Aled Hughes i Rhodri Williams ddydd Mercher...

Bydded Hysbys - Ffa Coffi Pawb

cyfnod - period (of time)
rhyddhau - to release
ariannu - financing
hel hysbysebion - collecting adverts
arwyddocaol - significant
hyderus - confident
adnabyddus - famous
dyled - debt
cynyddu - increasing
dodrefn - furniture

"Aled Hughes yn fan'na yn sgwrsio am Quatar efo Rhodri Williams. Amser cinio dydd Iau buodd Huw Stephens yn edrych ar hanes y ddau fand Cymraeg Maffia Mr Huws a Ffa Coffi Pawb. Nhw oedd y bandiau cynta i werthu hysbysebion ar glawr eu recordiau er mwyn gwneud ychydig o arian. Syniad Gwynfor Dafydd, rheolwr Maffia Mr Huws oedd hyn ond hanes y band arall, Ffa Coffi Pawb, gawn ni yn y clip nesa...
Dechrau 1:41 - Dyma stori Ffa Coffi pawb"

Bore Cothi - Pengwins

dathlu eu bodolaeth - celebrating their existance
codi ymwybyddiaeth - raising awareness
rhywogaeth - species
ymdopi - coping
cyfarwydd - familiar
arwyddocâd - significance
distrio cynefin - destroying the habitat
arbenigwraig - expert (feminine)
nythu - nesting
cipolwg - a glance

"Mi aeth rhai o aelodau Ffa Coffi Pawb ymlaen i ffurfio bandiau enwog eraill fel Catatonia, efo Cerys Mathews, a'r Super Furry Animals. Ella bod pengwins ddim yn flewog, nac yn anifeiliad o ran hynny, ond maen nhw'n super, yn ôl Catrin Williams sydd yn gweithio yn Folly Farm. Cafodd Shan Cothi sgwrs efo hi ar, credwch neu beidio, ddiwrnod cenedlaethol y pengwin..."

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pel-droed Gydol Oes

Nesaf

Achubiaeth Casnewydd