Main content

Pel-droed Gydol Oes

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Fe ddywedodd Shakespeare (y bardd Seisnig, nid rheolwr y tim o Gaerlyr , Leicester City) fod y byd i gyd yn lwyfan, a bod yna saith cyfnod i fywyd dyn.

Yr wythnos diwethaf fe ddois ar draws erthygl debyg sy’n amlinellu bywyd cefnogwr pêl droed sy'n cyfatebu i bum cyfnod .

Ar y cychwyn fe geir y plentyn ifanc, yn dilyn ei rieni i'r gemau ac yn magu cariad at y tîm drwy glywed a magu’r awch wrth glywed y rhegfeydd, y geiriau, y siantiau a’r canu cymanfaol yn ei ddiniweidrwydd wrth iddo gael ei ddylanwadu gan ryfeddodau a rhamant y gêm.

Yna yn yr ail gyfnod, fe gelir y glaslanc, sy’n mynychu gemau ei hoff dîm gan grawcian y tonnau cymanfaol a’r rhegfeydd a’r sarhad wrth wneud defnydd o’r iaith, yr eirfa a'r mynegiant llafar a ddylanwadodd cymaint arno yn ei gyfnod cynnar.

Ymlaen i'r trydydd cyfnod - y g诺r neu'r ferch ifanc, yr arsylwyd byreiriog, datgysylltiedig sy’n barod i droi'r sarhad at y gwrthwynebwyr yn sylwadau difrïol at eu tim eu hunain, ond yn llawn poen a dolur mewn anobaith wrth fethu a chydnabod methiant y tim.

Erbyn cyfnod y canol oed, cyfnod o setlo lawr gyda theulu, daw’n amser i ddidoli dulliau ac effeithiolrwydd y tîm, ond yna, daw atgof o’r pethau anweledig o'r gorffennol gynt pan gyfeirir at y galluoedd rhamantaidd a welwyd pan agorwyd y llygaid i realiti bywyd y cefnogwr wrth ddilyn ei rieni i'r gemau cynnar.

Ac yna, daw'r pumed cyfnod - canol oed ac ymlaen, cyfnod y rhai holl wybodus, gan fod hirhoedledd ffyddlondeb i’r gêm dros gymaint o amser wedi rhoi'r hawl i ddoethinebu a chynnig barn am bawb a phopeth, a’r hawl hefyd i ddweud ‘Ddeudes i do!” yn dilyn pob argyfwng neu lwyddiant! Dyma’r cyfnod pan ddaw'r henoed i ddweud - talu £30 i weld sothach yn Lerpwl?

Ddim ffiars - llawer gwell gen i weld y locals, hogia' lleol pob un efo'u calonnau yn y clwb, yn hytrach na'r Sgowsars dieflig 'na sy'n meddwl dim mwy na faint o bres maen nhw gael eu talu .

Ia, nid addurn ar gyfer dilysrwydd ydi'r henoed yma, ond pobol fel chi a fi. Dyma wrth gwrs yr adeg pan mae rhywun yn sylweddoli fod yr holl arian a wariwyd i ddilyn tîm dros y ffin, wedi bod, gan amlaf, yn siom enfawr.

Ond yma fe ddaw cysur wrth ail ystyried y gemau lleol sydd ar gael i mi - Uwch Gynghrair Cymru, Cynghrair Undebol y Gogledd, Cynghrair De Cymru a llawer o gynghreiriau rhanbarthol eraill , a gwybod fy mod erbyn hyn, nid yn colli fy hunaniaeth ymysg hanner can mil a mwy yn Old Trafford, ond yn cael fy nghroesawu gan ffyddloniaid y locals gyda‘r math o frawdgarwch sydd yn debyg iawn i'r un a brofi’r tra’n holi pa bryd mae'r gêm yn dechrau, a derbyn ateb rhywbeth yn gyffelyb i “ Pa bryd y gallwch gyrraedd ?”

Erbyn hyn, dwi’n gwybod pa gyfnod rwy’n perthyn iddo, ond mae’r wefr, yr awch a'r brwdfrydedd yn dal i barhau, fel y neges a geir yn y ffilm ffantasi sy'n seiliedig ar fyd pêl fas," A Field of Dreams", daw atgofion liaws a breuddwydion atgofus i'r cof wrth weld y locals yn trio bod cystal ag yr oeddwn i a'r timau yr oeddwn yn eu hyfforddi, wrth iddynt chwysu a llafurio o un wythnos i'r llall er mwyn ennill yr hawl i frolio mwy nhw ydi prif geiliogod eu hardal leol am dymor arall o leiaf!

Fel Shakespeare – fe ddaw ein cyfnodau - pa gyfnod ydych chi’n perthyn iddo tybed? - cyfle ichi adnabod eich hun fel cefnogwyr efallai !?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf