Main content

Geirfa Pigion i ddysgwyr Awst 29ain - Medi 2il

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gaynor Davies - Hapus?

hapusrwydd - happiness
ymchwil - research
gofynion a disgwyliadau - demands and expectations
rhyfel niwclear - nuclear war
taflegryn - missile
elfennau - elements
hawliau - rights
deddfau - laws
galluogi - to enable
cenhedlaeth - generation

"...sgwrs am hapusrwydd. Pa adeg dach chi'n meddwl oedd yr adeg hapusa i bobl Prydain? Mae Aled Hughes yn hapus iawn yr wythnos diwetha gan ei fod yn cael gwyliau bach ac roedd Gaynor Davies yn cadw ei sedd yn gynnes. Bore Mawrth mi gafodd hi sgwrs am hapusrwydd efo'r hanesydd modern Arddun Arwyn ar ôl i waith ymchwil drio profi mai y pumdegau oedd yr adeg pan roedd pobl hapusa. "

 

Geraint Lloyd - Calendr Countryfile

buddugol - winning
tynnu lluniau - taking photos
benthyg - to borrow
gwyrthiol - miraculous
prydferth - beautiful
i'r brig - to the fore
y wawr - dawn
yn drawiadol - striking
pelydrau'r haul - the sun's rays
y goleudu - the lighthouse

"Sgwrs ddifyr yn fan'na am hapusrwydd efo Gaynor Davies a'r hanesydd Arddun Arwyn. Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn siarad efo Gareth Môn Jones o Langefni. Dydy Gareth ddim yn ffotograffydd proffesiynol ond mae un o'i luniau o yn rhan o'r deuddeg llun buddugol fydd yng Nghalendr Countryfile. Mi roedd ugain mil o luniau wedi cystadlu am le yn y calendr. Dyma Geriant yn holi Gareth am sut wnaeth ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth ddechrau..."

 

Bore Cothi - CÔR DI-DÔN

di-dôn - tuneless
cynnal alaw - to hold a tune
tueddiad - tendency
traddodiadol - traditional
gosod safon - to set a standard
cefndir eisteddfodol - an eisteddfod background
morio (idiom) 'Calon Lan' - blasting 'Calon Lan'
canu nerth eich calon - singing your heart out
rhyddhad - release
cymdeithasol - social

"Gareth Mon Jones yn amlwg yn falch o'i dalent tynnu lluniau ac yn sgwrsio yn fan'na efo Geraint Lloyd. Does dim rhaid cael talent arbennig i ganu efo côr newydd yn ardal Caerdydd - Cor Di-dôn. Does dim rhaid i chi fedru canu'n dda hyd yn oed! Dyma Mei Gwynedd a Jessica Davies yn sôn wrth Shan Cothi am y côr newydd..."

 

Wastad Ar Y Tu Fas - Northen Soul

enfawr - huge
hynod o boeth - extremely hot
yn eitha clou - quite quickly
eang iawn - very wide
yn ddelfrydol - ideally
gwnio - knitting
aelod - a member
efelychu - to emulate
menyg - gloves
dwrn caeedig - a clenched fist

"Os nad oes ots am dalent aelodau Cor Di-dôn roedd ots gan y rhai oedd yn dilyn Northen Soul am eu talent dawnsio nhw ac am eu gwisgoedd. Yn rhaglen ola cyfres Wastad ar y Tu Fas yr wythnos yma mi fuodd Rhys Mwyn yn clywed gan hanesydd ffasiwn am ddylanwad y gerddoriaeth o America ar ffasiwn yma yng Nghymru... "

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Timau llawn amser