Main content

Geirfa Podlediad Pigion i ddysgwyr - Medi 3ydd - Medi 9fed

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Carl ac Alun - Guto a Sam

tîm sylwebu - commentating team
cefnogwyr - supporters
llwythi - loads
Cymdeithas Bêl-droed - Football Association
cyfweld - to interview
Gwlad Belg - Belgium
anhygoel - incredible
ymgyrch - campaign
casglu - to collect
seren y dyfodol - a future star

"perfformiad gwych Cymru yn erbyn Moldova yng Nghwpan y Byd. Enillon nhw o bedair gôl i ddim ac un o'r rhai sgoriodd oedd Sam Vokes. Mi gafodd bachgen bach o'r enw Guto y cyfle i gael sgwrs efo'r chwaraewr cyn y gêm ac mi fuodd o'n sôn wrth Carl ac Alun am ei brofiad yn holi rhywun mor enwog. Mi gewch chi glywed hefyd be oedd Guto yn feddwl basai'r sgôr..."


Geth a Dyl - Swn y sêr

elfennau gwreiddiol - the original eleent
dydy o ddim bwys - it's of no importance
y bydysawd - the universe
seryddydd oedd yn arbenigo - an astronomer who specialised
lloeren - satellite
estron - alien
synau'r byd - the sounds of the world
llwybr llwythog - the Milky Way
yn oes oesoedd - for ever and ever
camynganu - to mispronounce

"Wel, mi roedd Guto'n eitha agos ati hi yndoedd? Nid sêr pêl-droed sy gynnon ni nesa ond sêr go iawn. Dydd Sadwrn dan ni wedi arfer clywed llais Tudur Owen ar Radio Cymru ond mae o wedi bod yn perfformio yng Nghaeredin ers ychydig o wythnosau. Tra roedd o ar ei ffordd yn ôl i Gymru mi fuodd Gethin Evans a Dyl Mei yn sôn wrth wrandawyr Radio Cymru am fyd y sêr, am iaith, cerddoriaeth ac am unrhyw beth arall medrwch chi feddwl amdano! Dyma i chi ran o'r sgwrs..."


Gaynor Davies - Beth Angell

ail-ddangos - to repeat (a showing)
atgofion - memories
eitha prin - quite rare
amgueddfa - museum
addasu - to adapt
cyd-destun - context
sefyllfaoedd - situations
rargian fawr - goodness me!
ymwybodol - aware
ieithwedd - type of language

"Mae Tudur Owen yn ôl efo’r criw erbyn hyn bob pnawn Gwener a bore Sadwrn, ac mi gewch chi glywed Geth a Ger ar eu rhaglen nhw bob nos Wener am 7. Perfformio comedi oedd Tudur Owen yng Nghaeredin wrth gwrs a chomedi oedd dan sylw Gaynor Davies wrth sgwrsio efo'r comedïwraig, Beth Angell. Dechreuon nhw drwy drafod rhai o'r comedïwyr oedd yn perfformio ers stalwm. Oedden nhw cystal â chomedïwyr heddiw 'ma tybed? "


Geraint Lloyd - Daf Pearson

antur - adventure
ynghynt - previously
cwympo mewn cariad - to fall in love
llwybr hir - a long path
amcangyfrif - to estimate
dod mas - dwad allan
penderfynu - to decide
mynd bant - mynd i ffwrdd
y dyfodol - the future

"Gaynor Davies a Beth Angell yn bod yn gas wrth ddynion yn fan'na felly basai'n well i ni orffen efo stori am ddyn arbennig iawn. Mae Daf Pearson wedi cerdded 3000km o un pen Seland Newydd i'r llall yn ddiweddar. Mi gafodd Geraint Lloyd sgwrs efo fo ddydd Gwener a'i gwestiwn cynta, yn ddigon naturiol, oedd 'Pam?"

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf

Diffyg creadigrwydd AC Milan