Main content

Llongyfarchiadau i鈥檙 Bala

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Yn dilyn听 ffeinal y gemau ail gyfle'r Sadwrn diwethaf bydd y t卯m o Fro Penllyn yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf. Enw newydd arall i鈥檞 ychwanegu at y timau sydd wedi cynrychioli Cymru yng Nghwpan Ewropa, a phrawf fod safonau yn ymestyn wrth i Brestatyn (fel enillwyr Cwpan Cymru)听 a hefyd Airbus (drwy sicrhau'r ail safle yn yr Uwchgynghrair) ymuno a鈥檙 profiad am y tro cyntaf.听 John Irving oedd arwr y Bala yn y g锚m a gynhaliwyd oddi cartref yn Stadiwm y GenQuip ym Mhort Talbot.

Yn dilyn gem gyffrous ac agos, ymddengys mai amser ychwanegol听 oedd ar y cardiau. Ond roedd gan Irving syniadau gwahanol. Manteisiodd ar arbediad Steven Hall yn y g么l i Bort Talbot, ac er waethaf ymdrechion glew'r golwr, adlamodd y bel i lwybr Irving, a dyma ei ergyd hwyr yn agor y ffordd i d卯m Colin Caton ar gyfer taith i'r cyfandir.

Daeth y Bala yn agos y tymor diwethaf, pan gyrhaeddwyd y ffeinal yma, ond colli allan i Lanelli; eleni gadawyd pethau hyd at y funud olaf, ond daeth llwyddiant wedi鈥檙 holl听 gyffro. Bydd rownd agoriadol Cwpan Ewropa yn cael eu cynnal mor fuan a dechrau mis Gorffennaf.

听Y tymor diwethaf chwaraeodd Lanelli, Derwyddon Cefn a Bangor yn y gystadleuaeth; Llanelli yn colli i KUPS o鈥檙 Ffindir, Derwyddon Cefn yn colli i Mypa, eto o鈥檙 Ffindir a Bangor yn baglu yn erbyn Zimbru o Foldova, i gyd yn y rownd gymhwysol gyntaf.

Beth felly fydd tynged y timau o Gymru eleni? Rhaid gobeithio am ganlyniadau ffafriol er waethaf y profiad newydd, ac fe fyddai gemau yn erbyn timau o wledydd bychain y cyfandir o fudd.

Yn rowndiau cymhwysol Cynghrair y Pencampwyr Ewrop bydd y Seintiau Newydd, ac fe fyddant hwythau yn gobeithio gwneud yn well na wnaethant y llynedd wrth golli i d卯m cryf Helsingborg o Sweden听 yn ail rownd gymhwysol .

Mae llawer o鈥檙 farn y byddai Uwchgynghrair Cymru yn well, a safon uwch yn cael ei gynnal petai yn cael ei chwarae drwy'r Haf, a gwell siawns i'r timau yn y rowndiau agoriadol petai hyn yn digwydd.

Serch hynny, mae profiad a chyfle gwych i'r timau o Gymru eto eleni, a dymunwn bob lwc iddynt ar eu menter newydd. Yn y cyfamser, tybed a fyddai un o鈥檙 timau yn cael cymaint o lwyddiant, ac yn gallu camu ymlaen i gyfarfod ac un o dimau mawr y gystadleuaeth?

Petai hyn yn digwydd, fe allai un o鈥檙 timau Cymreig gamu mor bell ac wynebu cynrychiolydd Lloegr ac enillydd Cwpan Capital One , sef Abertawe.

Nawr dyna beth a fyddai sefyllfa unigryw!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Pigion i Ddysgwyr: Geirfa 22 Mai 2013

Nesaf

Blog cefn llwyfan Nia - dydd Llun