Wel dyma ni unwaith eto!
Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio a finna'n edrych ymlaen i gwrddÌýâÌýchannoedd o gystadleuwyr gefn llwyfan, ac yn sicr ches i mo fy siomi heddiw.
Dw i bob amser yn edrych ymlaen at ddydd Llun cyntaf Eisteddfod yr Urdd, gan mai diwrnod y cystadleuwyr ifanc iawn ydy hi. Ac o gofio bod llwyfan yrÌý·Éyl mor anferth - mae angen llongyfarch bob un wnaeth fod yn ddigon dewr i gamu mlaen i berfformio arno heddiw.
Un o gystadlaethau cynta'r bore oedd y llefaru unigol bl.2 ac iau i ddysgwyr, a'r enillydd heddiw oedd Priyaan Shanmughanathan.ÌýMi gododd Priyaan am bump o'r gloch bore ma ac mae'n wyrth ei fodÌýar y llwyfanÌýgan ei fod o wedi mynd ar goll yng Nghaerfyrddin, a dim ond cael a chael oedd hi iddo gyrraedd y rhagbrawf!
Cystadleuaeth dda iawn heddiw oedd yr Ensemble Offerynnol bl.6 ac iau ac fe gafodd yr enillwyr ganmoliaeth uchel gan y beirniaid. Ismay, Eirlys a Dafydd ddaeth i'r brig - oÌýGaerdydd - ac mae pob un ohonyn nhw yn unawdydd talentog iawn - ac wedi cyrraedd safon Gradd 8 yn barod!
Mae'r wobr am godi'n gynnar yn mynd i barti Machlud o Ysgol Gynradd Bro Aled, Cylch Conwy - gan fod rhai ohonyn nhw wedi deffro am 3.30am bore ma! Oedd o werthÌýy fath ymdrech? Wel oedd siwr - gan mai nhw enillodd y gystadleuaeth i'r parti unsain bl.6 ac iau.
Mi faswn i yn licio medru chwarae piano go iawn - nid rhyw botsian hefo unrhywbeth sydd heb sharp na fflat, ac mi roedd hi'n werth gwrando ar y unawd piano dan 12 oed heddiw. Yr enillydd oedd Charlotte o gylch Llantrisant. Saith oed ydy hi, a doedd ei thraed hi prin yn cyrraedd y pedalau, ond ta waeth am bethau felly - roedd hi'n llawn haeddu'r wobr gyntaf.
Y dilledyn mwyaf lliwgar yn y pafiliwn heddiw oedd trowsus Simon Morris - arweinydd parti recorder Ysgol Gynradd Spittal.Ìý Mae Simon yn hoff iawn o liw - ac yn y gorffennol mae o wedi newid lliw ei wallt yn ystod wythnos yr Eisteddfod - ar ôl gaddo gwneud hynny os byddai'r plant yn cael llwyddiant.Ìý Felly tybed be fydd lliw ei wallt o erbyn diwedd yr wythnos?!
Simon Morris a Nia Lloyd Jones
Un ysgol dwi wrth fy modd yn sgwrsio hefo nhw bob blwyddyn ydy Ysgol Eifion Wyn, Porthmadog. Dyma chi wariars go iawn!Ìý MaenÌýnhwÌýnôl yn cystadlu eto fory - felly gwely cynnar i bawb heno ...i fod.... er dwi'n amau y bydd rhain yn janglo tan o leiaf hanner nos!
ÌýA dyna'r janglo wedi dod i ben am heddiw - felly mwy o gefn llwyfan fory.