Yn ffeinal gyntaf Cwpan Cymru, ar Barc Acton yn ôl yn 1878 daeth mil a hanner o ddilynwyr i weld Wrecsam yn curo’r Derwyddon.
Yna, yn y ffeinal gyntaf a gynhaliwyd ar y Cae Ras, yn 1880, daeth torf o bedwar mil i weld y Derwyddon yn curo Rhuthun.
Pythefnos yn ôl, cynhaliwyd ffeinal Cwpan Cymru ar y Cae Ras, a hynny am y 59fed tro. Fodd bynnag, d’oedd ond torf o fil a phedwar cant yno i weld y Seintiau Newydd yn curo Airbus.
Y Sadwrn diwethaf, cynhaliwyd ffeinal Cwpan Gogledd Iwerddon , pan lwyddodd Glenavon o dref Lurgan i guro tîm Linfield o Felffast. Tydi safon pêl droed o fewn timau Gogledd Iwerddon fawr wahanol i safon Uwch gynghrair Dafabet Cymru .
Does ond i ni edrych ar ganlyniadau gemau cyfeillgar rhwng timau o Gymru a Gogledd Iwerddon yn yr haf, a hefyd nodi canlyniad gemau yng ngemau rhagbrofol Cynghrair Pencampwyr Ewrop rhwng y Seintiau Newydd a Cliftonville i ddeall hynny, gyda'r Seintiau yn fuddugol dros ddau gymal!)
Felly o ystyried y safon o oedd ar gael, faint o gefnogwyr aeth i Barc Windsor ddydd Sadwrn i weld y ffeinal?
Llawer mwy na mil pedwar cant ydi’r ateb.
Yno, roedd yna dorf o un fil ar ddeg a phum cant wedi dod i gefnogi eu timau yn yr achlysur yma.
Rwy’n gwybod fod cefnogwyr Cymru yn prysur ddilyn eu timau yn Lloegr, a bod rhai ohonom yn gweld hyn fel rheswm dros beidio â dangos diddordeb yn y gêm o fewn ein uwch gynghrair cenedlaethol, ac mae yna hefyd dueddiad, yma ac acw, ynghyd ac agwedd braidd yn blwyfol, i feddwl fod pêl droed lleol yn gallu denu mwy o ddiddordeb!
Ond, draw yng Ngogledd Iwerddon, mae yna'r un diddordeb ymysg cefnogwyr y gêm i ddilyn hynt a hanes timau Lloegr a'r Alban, yn enwedig i ddilyn Celtic, gyda llond awyrennau a llongau yn teithio i’r Alban, neu’n cludo cefnogwyr yn rheolaidd i Old Trafford, Anfield neu Barc Goodison, yn union fel yr aiff cefnogwyr o Gymru i ddilyn y timau yma.
Er hynny, mae llawer o'r Gwyddelod hefyd yn dangos digon o ddiddordeb yn y gêm o fewn eu gwlad, fel bod yna dorf sylweddol yn mynychu ffeinal eu Cwpan Cenedlaethol. Mwy nag a allwn ei ddweud amdanom ni yma yng Nghymru!
Felly os gall dros ddeng mil o bobol fynychu ffeinal yng Ngogledd Iwerddon, i weld gem sydd o safon debyg i'r hyn a geir o fewn Cymru, pam na allwn ni ddangos yr un math o ddiddordeb at gystadlaethau pêl droed rhwng timau o fewn ein gwlad, a hefyd i'r timau hynny fydd yn cystadlu ar ein rhan yn Ewrop y tymor nesaf?
Ond, a ydw i’n gofyn a disgwyl gormod, ac mai’r gwir ydi mai diddordeb plwyfol sydd gennym yn y gêm o fewn ein gwlad?
W’n i ddim beth ydi'r ateb - ac ie mae'n haws i minnau gwyno nag ateb y cwestiwn.
Ond rhywsut neu’i gilydd mae rhywbeth o’i le.
Dydd Sadwrn, os oes yna gymaint a hyn o ddiddordeb ar gyfer y darbi lleol rhwng Airbus Brychdyn a Nomadiaid Cei Connah er mwyn cymhwyso ar gyfer cystadlu yng Nghynghrair Ewropa'r tymor nesaf, tybed faint o bobol aiff draw i Stadiwm Glannau Dyfrdwy i weld y gêm bwysicaf i gael ei chynnal ar Lannau'r Ddyfrdwy ers beth amser?
Mae’r Bala wedi gweithio’n galed i gynnal a gwella safon pêl droed o fewn uwch gynghrair Cymru. Faint fydd yn mynd i weld eu gem agoriadol hwy ar lwyfan Ewrop yr haf nesaf?
Faint hefyd fydd yn mynd i weld tîm Tref Llandudno yn cystadlu yn Ewrop y tymor nesaf; tref a welodd gem ryngwladol yn cael ei chynnal yno ar faes yr Oval yn ôl yn 1898 rhwng Cymru a Gogledd Iwerddon, gyda thorf o chwe mil yn gweld y Gwyddelod yn curo tîm Billy Meredith gydag unig gol y gêm.
Dim ond gofyn!!