Main content

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: Mai 2il - 6ed 2016

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Stiwdio - Sian Phillips

yr awydd - the desire
cartrefol ar y llwyfan - at home on the stage
brwdfrydedd - enthusiasm
o'r cychwyn - from the beginning
ofnus - fearful
maes y gad - the battleground
disgybledig - disciplined
pethau cyffredin - ordinary things
ymarfer corfforol - physical exercise
llais - voice

"...roedd yna raglen arbennig o Stiwdio dydd Mercher efo Nia Roberts yn holi'r actores Sian Phillips. Mae hi ar hyn o bryd yn perfformio gyda’r National Theatre yn Llundain yn nrama Les Blanc gan Lorraine Hansberry. Mae Sian yn wythdeg mlwydd oed a gofynnodd Nia iddi ai fel hyn oedd pethau i fod? "

Aled Hughes - Deri Tomos

dod i ben - come to an end
bywyd - life
difrodi - to destroy
hanesyddol - historical
cyfnod - period(of time)
pla - plague
tebygol - probable
newid hinsawdd - climate change
damweiniau - accidents
llosg fynydd - volcanoes

"Sian Philips yn fan'na yn dal i berfformio yn y West End a hithau'n wythdeg oed. Bore Mercher mi glywon i sgwrs am ddiwedd y byd. Na, nid rhyw bobl od yn dweud bod hyn yn mynd i ddigwydd wythnos nesa, ond Aled Hughes yn cael sgwrs efo Athro Biocemeg Prifysgol Bangor, Deri Tomos. Roedd Deri yn trafod dyn o’r enw Lazlo Sombat Falvi sydd wedi sgwennu am y peryg i'r byd ddod i ben a sut gallai hynny'n digwydd... "

Manylu - Avril Whitfield

sy wedi diflannu - who are missing
yr alwad cynta - the first call
annaturiol - unnatural
ymateb - to respond
darganfod - to discover
dipyn bach o lonydd - a bit of peace and quiet
trefn swyddogol - official procedure
unigolyn - individual
canolig neu isel - medium or low
sawl adnodd - several resources

"Gobeithio bod yr holl sôn am ddiwedd y byd heb eich dychryn chi! Dw i'n siwr ein bod ni'n gweld llawer mwy o bosteri y dyddiau hyn yn holi am wybodaeth am bobl sy wedi diflannu. Dydd Iau ar raglen Manylu mi fuodd Anna Marie Robinson yn edrych ar ddau achos o'r gogledd. Un ohonyn nhw ydy Avril Whitfield ddiflanodd o'i chartref yng Nghaernarfon rai wythnosau'n ôl. Dyma i chi glip bach sy'n sôn am sut mae'r heddlu yn delio efo achosion fel hyn...."

Shan Cothi - Tan Ffug

ffug - False
penelin - elbow
cydymdeimlo - to sympathise
menyg - gloves
gwobr - prize
dw i wedi gwirioni - I'm over the moon
hylif - cream
o nerth i nerth - from strength to strength
cynnyrch fy hun - my own product
yn dywyllach - darker

"A tasech chi'n meddwl gallech chi helpu mewn unrhyw ffordd, cysylltwch â Missing People drwy ffonio neu decstio 116 000. Wel, mae’r haul allan o’r diwedd a dyma'r amser pryd mae pobl yn dechrau dangos ychydig bach mwy o'r corff ynde? Ond adeg yma'r flwyddyn mae'r rhan fwya o bobl yn hollol wyn ar ôl ein gaeaf hir. Felly mi gafodd Shan Cothi sgwrs fore Iau efo dau sydd efo dipyn o brofiad o ddefnyddio lliw haul ffug. Mae Sioned Williams wedi creu tan ffug newydd a buodd hi'n rhoi cyngor i Guto Rhun a Shan ynglyn â sut i'w ddefnyddio, ac fel cawn ni glywed mi roedd Guto angen y cyngor..."

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Llwyddiant Llandudno

Nesaf

Cymharu Cymru 芒 Gogledd Iwerddon