Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Awst 13eg - 18fed 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Pobol y Môr - Mandy Walters

ennill bywoliaeth - earn a living
ychwanegu gwerth at - adding value to
paratoi y cranc - preparing the crab
y stondin - the stall
i'r perwyl hynny - with that aim
gweithdy - workshop
pig - claw
cimwch - lobster
breintieidig iawn - very privileged
eich cynnyrch chi - your produce

Clip bach o gyfres newydd, Pobol y Môr. Wythnos yma aeth Alun Elidyr i bentref Llandudoch yng ngogledd Sir Benfro i ddysgu ychydig am bysgota môr ym Mae Ceredigion. Cwrddodd Alun â theulu Mandy Walters sy'n dibynnu ar y môr ac ar Afon Teifi er mwyn ennill bywoliaeth. Dyma Mandy yn esbonio wrth Alun sut mae hi'n ychwanegu gwerth at beth maen nhw'n ei ddal yn y môr a'r afon.

Bore Cothi - Syr Bryn Terfel

wedi cael ei recordio'n fyw - had been recorded live
y gerddorfa - the orchestra
ymlaen llaw - before hand
yn uniongyrchol - directly
yn unigol - individually
llawn cyflymach - much quicker
y deuawdwyr - (singing) duos
cryno ddisg - CD
datblygu - to develop
rhoi genedigaeth - to give birth

Mandy Walters yn fan'na yn siarad efo Alun Elidir yn y gyfres newydd Pobol y Môr. Buodd Syr Bryn Terfel yn perfformio yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod Genedlaethol ‘ Hwn Yw Fy Mrawd' a dydd Llun cynta'r Steddfod cafodd Shan Cothi sgwrs efo'r dyn ei hun am ei CD newydd Dreams and Songs. Bydd yr albwm i'w cael yn y siopau fis Medi. Mae hi'n bum mlynedd ers i Syr Bryn recordio CD a dyma fo'n dechrau'r sgwrs drwy sôn am y CD diwetha cyn mynd ymlaen i roi ambell i sypreis am ei CD newydd.

Bardd a Gollwyd - Stori David Ellis

o ran pryd a gwedd - in respect of (his) looks
talsyth - tall and upright
pryd golau - light complexion
trwyn rhufeinig - roman nose
disglair iawn - very bright
ysgoloriaeth - scholarship
direidus - naughty
cyllyll a ffyrc - knives and forks
wedi dychryn - frightened
ysbrydion - spirits

A dw i'n siwr bod llawer iawn o bobol yn edrych ymlaen at glywed CD newydd Syr Bryn Terfel. Stori am fardd o'r enw David Ellis gaethon ni yn y rhaglen Bardd a Gollwyd dydd Mawrth. Aeth David Ellis ar goll ym mis Mehefin 1918 ac mae llawer yn meddwl ei fod wedi ei ladd ei hun. Mae gan Dylan Iorwerth gysylltiad personol â'r bardd o Gorwen ac roedd o eisiau gwybod mwy amdano. Roedd cariad David wedi rhoi gwybod gwybod iddo fo ei bod y nbwriadu priodi rhywun arall. Ai dyma sydd y tu ôl i'r hanes trist? Yn clip yma mae Gwenda Rees, nith David Ellis, yn cofio amdano fo.

Rhaglen Geraint Lloyd - Cardiau post

casglu - collecting
sbïo - edrych
cofnodi - to record
yr ugeinfed ganrif - 20th century
ers talwm - a long time ago
trafnidiaeth - transport
cerbydau - vehicles
alla i ddim dychmygu - I can't imagine
llongau - ships
arbenigwyr - experts

Wel, chawn ni byth wybod y stori yn iawn mae'n debyg. Hanes diddorol ynde? Oes gennych chi hobi o gwbl? Clywon ni nos Fawrth am griw sydd â diddordeb mawr mewn casglu cardiau post. Mae Trebor Edwards yn aelod o glwb cardiau Post Gogledd Cymru ac mi gafodd Dilwyn Morgan sgwrs efo fo, a gofyn iddo fo be yn union ydy 'r pleser mewn casglu cardiau post? Dyma Trebor yn esbonio.

Hwyrnos Georgia Ruth - Gruffudd Eifion Owen

prifardd - chaired (or crowned) bard
cerdd fuddugol - winning poem
breuddwydio - dreaming
cynghanedd - strict metre rules
hyderus - confident
ystyr - meaning
cymleth - complcated
cerdd gaeth - strict metre poem
hygyrch a dealladwy - accessible and understandable
uniaethu - empathise

Dilwyn Morgan yn fan'na yn cyflwyno rhaglen Geraint Lloyd nos Fawrth diwetha ac yn amlwg wrth ei fodd yn sgwrsio am gardiau post efo Trebor Edwards. Ar raglen Georgia Ruth nos Fawrth, un o'r gwesteion oedd y Prifardd Gruffudd Eifion Owen. Fo enillodd y gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, a dyna oedd y tro cynta iddo fo gystadlu amdani. Mi fuodd o'n dewis ei hoff recordiau ar y rhaglen a hefyd yn sôn am ei ei gerdd fuddugol 'Porth'.