Main content

Geirfa Podlediad Pigion i Ddysgwyr - Gorffennaf 28ain - Awst 3ydd 2018

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Gwrandewch ar y rhifyn diweddaraf

Post Cyntaf - Tad Geraint

gohebydd - correspondent
Y Cymro cynta erioed - first ever Welshman
coelio - to believe
os cwrddan ni lan - if we meet up
y blynyddoedd cynnar - the early years
yr hewl (heol) - road
balch - pleased
y gefnogaeth - the support
crys melyn - yellow jersey
cynlluniau - plans

Lle arall ond efo Geraint Thomas a'r Tour de France. Ond tad Geraint oedd yn cael y sylw ar y Post Cyntaf fore Llun. Dyma i chi'r gohebydd Tomos Lewis yn sgwrsio efo Howell Thomas, tad y Cymro cyntaf erioed i ennill y Tour De France - Geraint wrth gwrs.

Rhaglen Rhys Mwyn - Pyrth Uffern

Pyrth Uffern - The Gates of Hell
ar drywydd rhywun - on the trail of someone
cipio plant - snatching children
yn amlycach - more obvious
yn feistrolgar - masterfully
trôns - pants
manylion erchych - disturbing details
llofruddiaeth - murder
angori - to anchor
uniaethu - to empathise

Dwi'n siwr bod Geraint Thomas a'r teulu wedi dathlu drwy nos Sul. Gwych ynde? Pyrth Uffern ydy teitl nofel newydd Llwyd Owen, ond er yr enw, llwyddodd Rhys Mwyn i chwerthin ar rannau ohoni. Pam tybed? Mi gaethon ni wybod yn ystod y sgwrs yma rhwng Rhys a Llwyd nos Lun.

Rhaglen Aled Hughes - Geraint Thomas

gorchest unigol - individual feat
y gamp fwyaf - achievement
hollol anhygoel - totally incredible
cysylltiadau Cymreig - Welsh connections
llwyddiant - success
y bedwaredd ganrif ar bymtheg - 19th century
yn fwy diweddar - more recently
wedi ei gyflawni - has accomplished
hyd yn oed wedi - has even
roedd...eisoes wedi ennill - had already won

Mae nofel newydd gan Llwyd Owen wastad yn rhywbeth i edrych ymlaen ato, ac yn amlwg roedd Rhys Mwyn wedi ei mwynhau. Yn ôl at Geraint Thomas rwan. Ai Geraint ydy'r athletwr Cymreig gorau erioed? Dyma i chi beth oedd gan yr hanesydd chwaraeon, Melir Emrys i'w ddweud am hynny.

100 Albwm Edwin Humphreys - Harold Macmillan

y fyddin - the army
plasdy mawr - mansion
hel arian at elusen leol - collecting money for a lovalcharity
ein catrawd ni - our regiment
pluen fawr - big feather
wedi gwirioni - was delighted
yn glaerwyn - ashen faced
Arglwydd - Lord
dyn clên - a friendly man
cyn Prif Weinidog - ex Prime Minister

Mei Emrys oedd hwnna yn ein hatgoffa bod Cymraes, Nicole Cooke, hefyd wedi llwyddo'n anhygoel ym myd seiclo yn y gorffennol. Mae'r cerddor Edwin Humphreys wedi bod â chysylltiad â chant o albymau. Anhygoel ynde? Nos Wener buodd yna raglen arbennig yn adrodd stori Edwin. Ac am stori ddiddorol. Ar un adeg roedd yn y fyddin, yn un o'r Hussars, ac fel cawn ni glywed mi wnaeth o gyfarfod â rhywun pwysig iawn yn ystod yr adeg honno.

Bore Cothi - Andrew White

cyd-ddigwyddiad - co-incidence
cuddio'r ffaith - hiding the fact
di-Gymraeg - non Welsh speaking
drygioni - naughtiness
hollol rhugl - totally fluent
cwrs gradd - a degree course
sgwrs gyfan - a complete conversation
ystyried - to consider
Cymraeg Canol Oesol - Middle Ages Welsh
cymleth - complicated

Gobeithio bod yr hen Harold wedi mwynhau gwrando ar fand Edwin ynde? Mae Andrew White yn arwain yr elusen Stonewall Cymru ers dros 8 mlynedd. Doedd o ddim wedi cael llawer o Gymraeg yn yr ysgol ond erbyn hyn mae o'n hollol rugl. Buodd o'n esbonio wrth Shan Cothi sut aeth o ati i ddysgu'r iaith, a dyma ei stori.

Mwy o negeseuon

Blaenorol