Main content

Mario Balotelli

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

“You’ll never walk alone” ydi anthem enwog cefnogwyr Lerpwl, ond d’oes fawr o neb yn edrych yn debygol eu bod yn fodlon cerdded gyda Mario Balotelli'r dyddiau yma.

Mae’r blaenwr Eidaleg ar fenthyg o Lerpwl yn A.C. Milan, ond yr wythnos yma, mae rheolwr  Milan, Sinisa Mihajlovic wedi awgrymu fod Balotelli efallai wedi chwarae ei gêm olaf i'r cewri Eidalaidd.

Daeth yr Eidalwr ar y cae fel eilydd i Milan ganol wythnos gyda dim ond dau funud yn weddill yn y gêm yn erbyn Genoa ac, er gwaethaf ildio gôl hwyr, llwyddodd Milan i ennill y gêm o ddwy gol i un.

Fodd bynnag, ennill neu ddim, doedd fawr o hwyliau Mihajlovic ar ôl y gêm, wrth iddo fod  yn gandryll wrth gyfeirio ar ddiffyg ymroddiad  Balotelli: "Yn hytrach na gadael gôl hwyr i mewn a rhoi ein buddugoliaeth mewn perygl, fe ddylem fod wedi sgorio trydydd gol” oedd ei ymateb. “Mae hefyd yn fai arnaf fi fy hun”,  meddai, gan nodi fod yna chwaraewyr ar y cae oedd ddim yn fodlon aberthu eu hunain ar gyfer y tîm, ac ychwanegodd na fydda nhw’n cael gosod troed ar y cae yn y dyfodol!.

Pam fi Duw?  Yn wir ! Ond ychwanegodd Mihajlovic nad Balotelli oedd yr unig un i gael ei feirniadu yn y modd yma  gan fod yna ddau neu dri arall llawn mor euog  .

Credir i Balotelli fod ar gyflog o tua £125,000 yr wythnos yn Anfield sy'n golygu eu bod yn annhebygol iawn y byddai’r Eidalwr yn parhau ar gyrion y tîm y tymor nesaf.

Ond, a ydi Lerpwl yn euog o greu'r trafferthion yma iddynt eu hunain?

Mae polisi arwyddo’r clwb wedi cael ei feirniadu gan nifer o bobol o'r byd pêl droed y tymor yma ac yn ddiweddar gan eu cyn rheolwr Brendan Rodgers.

Awgrymodd Rodgers y dylent benderfynu os ydynt am arwyddo chwaraewyr da , sydd yn ddigon galluog i ennill rhywbeth, neu barhau i arwyddo chwaraewyr y maent yn credu y gallant eu gwella cyn eu gwerthu ymlaen i eraill am elw.

Cwmni'r gr诺p Fenway o’r Unol Daleithiau ydi perchnogion Lerpwl, cwmni sydd yn gysylltiedig â thîm pêl fas y Boston Red Sox ac sydd a’u hegwyddorion wedi ei selio ar athroniaeth yr hyfforddwr Billy Bean (gweler y ffilm a’r llyfr Moneyball), sef arwyddo chwaraewyr ifanc, addawol, eu gwella, cyn eu gwerthu am elw.

Llwyddodd tîm pêl fas yr Oakland As i ennill pencampwriaeth y byd ar yr egwyddor yma, ac mae nifer o dimau yn y byd chwaraeon wedi mynd i feddwl y gallant hwythau lwyddo ar gyllid bychan, gan ddatblygu i werthu chwaraewyr am elw! Ond w’n i ddim am lawer o dimau sydd wedi bod mor llwyddiannus o fewn y drefn yma ac a fu’r Oalkand As, yn eu maes eu hunain.

Anodd gwybod na deall pwy benderfynodd arwyddo Mario Balotelli i Lerpwl ar ôl ei gyfnod cythryblus yn Manchester City, ac fe fyddai'n syndod petai rywun yn meddwl mai clwb sydd yn gallu gweithredu fel rhyw uned gyfeiriol a all newid ymddygiad a pherfformiad pêl droedwyr ydi Anfield erbyn heddiw!

Mae canlyniadau diweddar y clwb yn rhyw awgrymu nad oes y cysondeb ymysg chwaraewyr presennol (nid gwaith anodd oedd curo Aston Villa o chwe gôl), i gyrraedd uchelderau'r uwch gynghrair a llwyddo yn Ewrop, ac mae sefyllfa Balotelli, a fydd yn ôl ar Lannau Merswy cyn hir, yn arwydd go lew o ddyheadau’r clwb o'r ffordd y mae'n cael ei gynnal ar hyn o bryd

Tybed a oedd Jurgen Klopp wedi sylweddoli fod yna gymaint o waith o'i flaen?

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Geirfa Pigion i Ddysgwyr: 16/02/2016

Nesaf

Gwobrau鈥檙 Selar