Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Awst 27ain - Medi 1af 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.



Bore Cothi - Gyrfa chwist

Gyrfa chwist - Whist drive
Rhyfedd - Strange
Lleoliad - Location
Trydydd ganrif ar ddeg - 13th century
Hwyl a sbri - Fun and games
Achlysur - Occcasion
Disgleirio - Shining
Pla o wibed - A plague of midges
Crafu - Scratching
Sgrechian - Screaming

...sgwrs ddiddorol ar Bore Cothi rhwng Shan Cothi a Mansel Charles o Lanfihangel Rhos y Corn ger Gwernogle yn Sir Gaerfyrddin, ynglyn â gyrfa chwist rhyfedd iawn...

Sbardun - Cofio Sbardun

Difetha - To spoil
Yr olygfa - The scene
Cofrestru - Registering
Ddim yn gall - Crazy
Hollol wallgof - Completely mad
Ar goll - Missing
Pethau gwael - Poor quality (items)
Ein clymu ni'n agosach - Tied us closer together
Rhatach byth - Even cheaper
Cyfnod - Period

"Druan ohonyn nhw ynde yn crafu ac yn sgrechian wrth i'r gwibed ddod mewn i ddifetha eu noson nhw. Nos Sul ar Radio Cymru roedd ‘na raglen arbennig i gofio am Alun 'Sbardun' Hughes. Buodd Sbardun farw ychydig o flynyddoedd yn ôl, ac roedd o'n enwog fel aelod o'r grwp Tebot Piws, a hefyd fel un oedd wedi sgwennu rhai o'r caneuon poblogaidd Cymraeg gorau erioed. Dyma Emyr Hughes Jones, oedd yn ffrind agos iddo fo a hefyd yn aelod o Tebot Piws, yn sôn wrth Lisa Gwilym am y tro cynta wnaethon nhw gwrdd a'i gilydd... "

Hen Ferchetan - Canu gwerin

Canu gwerin - Folk singing
Wedi bod wrthi - Been at it
Wedi blodeuo - Flourished
Yn bur - Pure
Arbrofi - Experiment
Cwympo mewn cariad - Fall in love
Cyfansoddi - Compose
Arddull traddodiadol - Traditional style
Serch - Love
Mae nghalon i 'di torri - My heart is broken

Emyr Huws Jones, yn fan'na yn cofio Sbardun efo Lisa Gwilym. Dan ni'n mynd i aros efo'r byd canu yn y clip nesa 'ma. Dydd Llun diwetha clywon ni raglen ola'r gyfres Hen Ferchetan. Buodd nifer o raglenni'r gyfres yn edrych yn ôl ar gyfraniad ac ar rôl merched yn y byd canu gwerin Cymraeg. Ond yn y rhaglen ola 'ma edrych ymlaen oedd Sian James a Beth Williams-Jones at beth sy nesa i ferched yn y sîn canu gwerin...

Hanes yr Iaith Mewn Hanner Can Gair - Dynes

tarddiad - source
Unfed ganrif ar bymtheg - 16th century
Terfyniad - Ending
Telynor - Harpist
Torfol neu luosog - Collective or plural
Datgelu - To reveal
Darlithydd - Lecturer
Gohebydd - Correspondent
Onid - Is it not
Rhyw - Gender

Sian James a Beth Williams-Jones yn fan'na yn meddwl bydd newidiadau mawr a chyffrous yn y byd canu gwerin Cymraeg. Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn gwybod ychydig am darddiad ambell i air Cymraeg a'r gwahanol ffyrdd mae'r geiriau yn cael eu defnyddio, dw i'n siwr eich bod wedi mwynhau rhaglenni byr Ifor ap Glyn, Hanes yr Iaith Mewn Hanner Can Gair. Yn y clip yma mae o'n sôn am y gair 'dynes' ac am y defnydd o'r -'es' ar ddiwedd geiriau Cymraeg...

 

 

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf