Main content

Geirfa Podlediad i ddysgwyr Medi 2il - 8fed 2017

Geirfa Podlediad i Ddysgwyr

Uchafbwyntiau Radio Cymru dros yr wythnos ddiwethaf, gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith.

Aled Hughes - Cyfreithiau

darlithydd gwleidyddiaeth - politics lecturer
cyfreithiau - laws
bodoli - to exist
peri penbleth - cause confusion
sail - basis
twlc mochyn - pig sty
glanweithdra - cleanliness
datblygu - to develop
hurt - stupid
diddymu - to repeal

"..sgwrs rhwng Aled Hughes a Huw Pritchard, darlithydd gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, am rai o'r cyfreithiau rhyfedd sydd yn dal i fodoli..."

Sioeau cerdd - My Fair Lady

cyfarwyddwr atristig - artistic director
cynhyrchiad - production
adolygiadau - reviews
safonau - standards
agoriadol - opening
cynulleidfa - audience
creu - to create
gwerthfawr - valuable
diflasu - to become bored
llwyth o nodiadau - loads of notes

"Gobeithio bod yr un ohonoch chi efo twlc mochyn o flaen eich ty, neu mi fyddwch chi mewn trwbwl! Aled Hughes a Huw Pritchard oedd yn sgwrsio am gyfreithiau yn fan'na. Sioeau Cerdd ydy'r enw ar gyfres newydd ar Radio Cymru lle mae'r tenor Steffan Rhys Hughes yn sôn am rai o'r sioeau cerdd mwyaf poblogaidd. Yr wythnos yma mi gafodd gyfle i holi Daniel Evans, sydd yn gyfarwyddwr artistig y Crucible yn Sheffield. Cafodd cynhyrchiad y Crucible o My Fair Lady adolygiadau da iawn, yn sôn am ffresni'r sioe a'r safonau uchel oedd i'w gweld ynddi hi... "



atgyweirio - renovation
yn swyddogol - officialy
unigryw - unique
atomfa - power station
bedd - grave
mynwent - cemetary
camlas - canal
teimladwy - emotional
cynrychioli - to represent
cymryd yn ganiataol - to take for granted

"Daniel Evans yn fan'na yn sôn am ei rôl fel cyfarwyddwr artistig y Crucible yn Sheffield. Dw i'n siwr ein bod ni i gyd erbyn hyn yn gwybod am hanes Hedd Wyn a'r Gadair Ddu. Bore Mercher diwethaf, mi gafodd cartref Hedd Wyn, Yr Ysgwrn yn Nhrawsfynydd, ei ailagor yn swyddogol, yn dilyn gwaith atgyweirio. Roedd hyn cant o flynyddoedd yn union i’r diwrnod y cynhaliwyd seremoni’r cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw, neu Birkenhead. Dyma i chi rai o leisiau pobl Trawsfynydd yn sôn am y pentref ac am bwysigrwydd Hedd Wyn a'r Ysgwrn iddyn nhw... "

Hanes yr Iaith Mewn Hanner Can Gair - Drws

bwlch cul - a narrow gap
adwy - gap
disodli - replace
odl - rhyme
colyn - pivot
diarhebion - proverbs
cil y drws - space between a door's edge and frame
gerllaw - near
hepgor - to omit
cweryla - to quarrel

"Lleisiau Ieuan Tomos, Gerald Williams, nai Hedd Wyn, a Sian Griffiths rheolwraig safle Yr Ysgwrn oedd yn y clip yna, mewn rhaglen arbennig gan Radio Cymru am y pentref... Be ydy ystyr y gair 'drws'? Cwestiwn syml yn de? Ond mi roedd ystyr gwahanol i'r gair yn wreiddiol. Dyma i chi Ifor ap Glyn yn mynd â ni drwy hanes y gair 'drws' a hefyd hanes gair llai cyffredin y dyddiau yma - dôr... "

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf