Main content

Perfformiad timau Manceinion yng Nghyngrair y Pencampwyr

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Wythnos gyntaf y cynghreiriau Ewropeaidd ac wythnos ddiddorol.

Ar ôl yr holl heip o gael eu hystyried fel darpar enillwyr Cynghrair y Pencampwyr, allai Manchester City wneud dim gwell na chwympo ar eu wynebau o flaen eu cefnogwyr a cholli adre i Lyon o Ffrainc.

Dwi’n cyfeirio at y cefnogwyr, ond roedd yna ddigon o seddau ar gael yn yr Etihad nos Fercher , digon i wneud rhywun feddwl nad yw dilynwyr City gyda llawer o ddiddordeb mewn gemau Ewropeaidd, neu ar y llaw arall, fod y sefyllfa bersonol o godi crocbris ar fynd i weld gemau pêl droed yn dechrau brathu.

Taith i’r Swistir gafodd cymdogion City, Manchestser United, sydd yn parhau i gael eu beirniadu am eu canlyniadau a'u dull o chwarae. Ond, roedd buddugoliaeth gyfforddus o dair gôl i ddim yn erbyn Young Boys Berne yn dangos, o leiaf, fod ganddynt well ddealltwriaeth o sut i chwarae yn Ewrop! Er hynny, buddugoliaeth dros y tîm gwanaf yn eu gr诺p oedd hwn, ond pwy oedd yn disgwyl i City golli adref i Lyon?

Collodd Tottenham yn Inter Milan ar ôl edrych y byddant am gael buddugoliaeth , (dwy gol yn y pum munud olaf i'r Eidalwyr) ond dangosodd Lerpwl efallai y gallant gynnig llawer mwy ar lwyfan Ewrop wrth iddynt greu cynnwrf a gosod perfformiad grymus ac ymosodol yn Anfield wrth guro sêr Paris St Germain mewn gem llawn cyffro ac a gafodd ei setlo yn y munud olaf gan eu blaenwr Firmino.

Byddaf yn mynd i Old Trafford y penwythnos hwn i weld pa mor dda ydi Manchester United mewn gwirionedd - wrth iddynt wynebu Wolverhampton Wanderers sydd yn araf dynnu sylw wedi iddynt ddyrchafu o’r Bencampwriaeth, a sefyll ddim ond un safle yn is , yn y nawfed safle, nag United.

Agoriad da i'r tymor newydd a gobeithio am gyffro ym Manceinion yfory.

Mwy o negeseuon

Blaenorol