Main content

Pedwaredd rownd Cwpan Cymru

Glyn Griffiths

Blogiwr Ar y Marc

Ma hi’n benwythnos y bedwaredd rownd yng Nghwpan Cymru ac i mi mae yna ddwy gêm sy’n sefyll allan.

Yn gyntaf, i stadiwm Ffordd Helygain yn Nhreffynnon, ble fydd y tîm lleol, sydd heb golli unrhyw gêm o gwbl y tymor yma (ennill pob un ac un gêm gyfartal) yn wynebu Aberystwyth sydd yn ail yn yr Uwch gynghrair. Efallai i chi gofio i'r ddau dîm yma yn cwrdd yn y rownd gyn derfynol y llynedd efo Aber yn fuddugol.

Does gen i ddim amheuaeth mai dyma gêm y penwythnos, yn enwedig o feddwl am rediad gwych Treffynnon, sydd hefo'r fantais o chware adref.

Ar y llaw arall, mae Aber wedi ymestyn ei safon y tymor yma, ac yn barod i wynebu unrhyw her. Anodd darogan canlyniad yma, a tybed os mai amser ychwanegol fydd yn dod a chanlyniad? (os nad ciciau o'r smotyn hyd yn oed!)

Yr ail gêm sy' denu fy sylw ydi honno draw yng Ngholeg Metropolitan Caerdydd ble bydd y myfyrwyr , sydd yn chwilio am ddyrchafiad i Uwch gynghrair Cymru eleni, yn wynebu Airbus, sydd yn barod wedi gwneud argraff yn yr Uwch Gynghrair .

Mae safon uchel i chwarae’r myfyrwyr sydd dan reolaeth yr Athro Robyn Lloyd Jones sydd ei hun wedi profi beth ydi creu sioc annisgwyl mewn gem gwpan gan iddo fod yn aelod o dîm Sutton United a drechodd Coventry City yn un o gemau mwyaf syfrdanol Cwpan Lloegr rai blynyddoedd yn ôl. Os oes unrhyw un yn gwybod sut i ddarparu ar gyfer creu syndod yna dyma'r un i wneud hynny.

Darbi leol yn y canolbarth ar y Sul rhwng Caersws a’r Drenewydd, ond allai ddim gweld sioc yma, a disgwyliaf i’r Drenewydd gamu ymlaen.

Felly hefyd y Bala i ennill yng Nghei Conna, y Seintiau yng Ngresffordd ( y gêm yma hefyd i'w chynnal ar y Sul), Caerfyrddin yng Nghaerau Trelai, y Rhyl yn Llanrhaeadr ym Mochnant, ac fe ddylai Bangor ( er gwaethaf eu trafferthion yn yr Uwch Gynghrair) guro Conwy.

Felly pen ar y bloc - faint o’r rhain gaiff ei profi yn gywir tybed?

Cadwch eich golwg ar gyffro gemau Cwpan Cymru dros y penwythnos!

Mwy o negeseuon

Blaenorol

Nesaf